Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ymgynghori ar gyfarwyddiadau polisi newydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru

25/03/2013

Heddiw bydd cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn dechrau ar gyfarwyddiadau polisi arfaethedig newydd ar gyfer y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru.

Y Gronfa Loteri Fawr, a sefydlwyd yn 2004, yw dosbarthwr mwyaf arian y Loteri Genedlaethol i achosion da.  Anelwn at ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus.   Fel ariannwr ar sail canlyniadau mae gennym ddiddordeb yn yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y cymunedau rydym yn cyflwyno ariannu iddynt.

Yn awr yn fwy nag erioed mae angen i'r Gronfa Loteri Fawr fedru ymateb i anghenion newidiol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.  Rydym am sicrhau ein bod yn ymdrin â'r anghenion hyn yn ddeallus, a chroesawn farn pobl eraill ar y ffordd orau o gyflawni hyn.

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn gan ystod eang o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys mudiadau'r trydydd sector a'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Daw'r ymgynghoriad hwn i ben am 12 hanner dydd ar 17/06/2013

Sut i ymateb:

Lawrlwythwch y dogfennau ymgynghori:

Cyfarwyddiadau Polisi Drafft y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cyfarwyddiadau Polisi Cyfredol y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru

E bost:  Cwblhewch y ffurflen ymateb a'i hanfon at: david.rowlands@biglotteryfund.org.uk

Trwy'r post: Anfonwch ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau ymgynghori at:

David Rowlands, Cronfa Loteri Fawr, 10fed Llawr, Tŷ Helmont, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DY

Y terfyn amser ar gyfer derbyn ymatebion yw 12 hanner dydd ar 17/06/2013.

Gall yr holl wybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn ymatebion, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â'r gweithdrefnau mynediad i wybodaeth (yn bennaf y rhain yw Deddf Rhyddid gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004). Os ydych am i'ch ymateb aros yn gyfrinachol, dylech esbonio pam mae angen cyfrinachedd a bydd eich cais yn cael ei dderbyn dim ond os yw'n briodol o dan yr amgylchiadau. Nid ystyrir bod ymwadiad cyfrinachedd awtomatig eich system TG ynddo'i hun yn rhwymol. Bydd cyfraniadau i'r ymgynghoriad yn cael eu gwneud yn ddienw os ydynt wedi'u dyfynnu.

Ni fydd cyfraniadau unigol yn cael eu cydnabod oni bai y gofynnir yn benodol am hyn.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ymatebion yn cael eu coladu er mwyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried.   Bydd crynodeb yn cael ei gyhoeddi o fewn ymateb cyffredinol Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad.
ADBORTH