Yn y Gronfa Loteri Fawr rydym yn ceisio rhoi'r gwasanaeth gorau posib i chi. Er hynny, cydnabyddwn nad yw hyn yn wir bob tro ac y byddwch efallai eisiau gwneud cwyn.
Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar eich cyfle o dderbyn grant gennym ni yn y dyfodol.
Gweld ein gweithdrefn gwynion
Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw sylwadau y dymunwch eu gwneud, felly peidiwch â phoeni p'un a yw eich pryderon yn cyfateb i'r disgrifiad o gŵyn ai beidio.
Gallwch rannu eich pryderon neu gwynion gyda ni ar lafar neu'n ysgrifenedig, a dyma ein manylion cyswllt:
Ffôn 020 7211 3700
E-bost gwasanaeth.cwsmeriaid@cronfaloterifawr.org.uk
Cyfeiriad
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Cronfa Loteri Fawr
St James’ Gate
Newcastle
NE1 4BE