Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Buddion

Tâl ac amodau ardderchog i staff

Iechyd a lles

Cydnabyddwn fod cadw ein pobl yn hapus ac yn iach yn ein galluogi i fod yn fudiad mwy effeithiol ac yn gwneud y Gronfa Loteri Fawr yn lle gwell i weithio.

Cycle2Work

I hyrwyddo teithiau mwy iach i'r gwaith ac i gefnogi ein dyheadau cymdeithasol ac amgylcheddol, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig cyfle i gymryd rhan yn y cynllun beicio i'r gwaith, sy'n fenter gan y Llywodraeth. Mae beiciau'n cael eu prynu gan y Gronfa Loteri Fawr a'u rhoi benthyg i chi am gyfnod o 12 mis, yn ystod y cyfnod hwnnw rydych yn ad-dalu'r swm trwy aberthu cyflog, gan leihau eich cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol.

Rhaglen Cynorthwyo Cyflogeion

Mae gan holl gyflogeion y Gronfa Loteri Fawr fynediad i raglen cynorthwyo cyflogeion gyfrinachol a ddarperir gan Care First, sy'n darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod helaeth o bynciau sy'n effeithio ar eich bywyd gwaith neu bersonol.

Profion Llygaid a sbectol

Mae pob person sy'n defnyddio monitro cyfrifiadur yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim wrth gael eu penodi ac ar adegau rheolaidd wedi hynny. Os rhoddir presgripsiwn offer arbennig neu sbectol i chi ar gyfer defnyddio monitro cyfrifiadur yn sgil y prawf llygaid, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn talu am gost lensys a ffrâm sbectol sylfaenol o fewn uchafswm terfynau penodol.

Medicash

Mae'r cynllun gofal iechyd hwn, sy'n cael ei gynnig am gost isel, yn cynnig ystod eang o fuddion gofal iechyd cadarnhaol ar eich cyfer chi a'ch teulu, ac mae'n eich galluogi i hawlio arian yn ôl ar dreuliau gofal iechyd penodol, gan gynnwys therapïau optegol, deintyddol ac amgen.

Ariannol

Mae cynnydd o ran cyflog yn cael ei rannu i ddwy ffurf, un yn awtomatig ac un yn seiliedig ar berfformiad. Mae'r cynnydd canrannol sydd ar gael wedi'i bennu gan Drysorlys EM bob blwyddyn. Yn ogystal â'ch cyflog mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig nifer o fuddion ariannol.

Cynllun pensiwn

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cynnig cyfle i ymuno â chynllun pensiwn hael y Gwasanaeth Sifil.

Fel arall, os yw'n well gennych ymuno â phensiwn cyfranddalwyr, byddwn yn gwneud cyfraniad o hyd at 12.5 y cant o'r cyflog gan ddibynnu ar eich oedran, ynghyd â chyfraniad cyfatebol pellach o hyd at 3 y cant.

Talebau gofal plant

Cynigiwn gynllun aberthu cyflog ar gyfer talebau gofal plant er mwyn i chi elwa o'r manteision treth hael sy'n deillio o ddefnyddio'r cyfryw ddull o dalu am gostau gofal plant.

Cynllun Disgownt Cyflogeion

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu cynllun buddion disgownt sy'n cynnig ystod helaeth o ddisgowntiau i'ch helpu i arbed arian oddi ar siopa, teithio, gwyliau a llawer mwy.

Rhoi Wrth Ennill

Gallwch gefnogi eich hoff elusen neu elusennau trwy'r Cynllun Rhodd Uniongyrchol Rhoi Wrth Ennill, sy'n cael ei ddidynnu'n syth o'ch tâl. Mae rhoi'n uniongyrchol o'ch tâl yn ddi-dreth a bydd yr achosion rydych yn frwd o'u pleidiau nhw yn elwa o'ch cefnogaeth reolaidd.

Tocyn Tymor a Benthyciad Cycle2Work

Ar ôl i chi weithio gyda ni am fis rydych yn gymwys i ymgeisio am fenthyciad tocyn tymor di-log o hyd at £5,000, neu fenthyciad prynu beic o hyd at £1,000 i deithio i'r gwaith.

Amser i ffwrdd

Mae'r wythnos waith safonol i staff amser llawn yn 37 awr, gydag o leiaf 30 munud o egwyl ginio di-dâl bob dydd. Rydym yn cynnig ystod o opsiynau gweithio hyblyg ffurfiol ac anffurfiol ynghyd ag absenoldeb hael â thâl.

Gweithio hyblyg

Mae gweithio hyblyg yn galluogi timau ac unigolion i reoli'r cydbwysedd bywyd-gwaith, ac yn sicrhau ar yr un pryd bod y mudiad yn gallu gweithredu'n effeithiol. Ymysg yr opsiynau mae:
  • oriau rhan-amser
  • oriau cywasgedig
  • oriau gwaith ansafonol
  • gweithio oddi cartref ad hoc
  • rhannu swydd
  • oriau gwaith hyblyg

Gwyliau blynyddol hael

Yn ogystal â gwyliau banc cynigir 25 niwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn wrth ymuno â'r Gronfa Loteri Fawr, gan godi un diwrnod ar gyfer bob blwyddyn o gyflogaeth hyd at gyfanswm o 30 niwrnod. Rhoddir tri diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn - ar amser y Nadolig fel arfer. Bydd eich hawl yn amrywio yn unol â'ch dyddiad penodi, ac mae'n pro rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser.

Absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu â thâl

Bydd staff sy'n gymwys i dderbyn tâl mamolaeth statudol yn derbyn eu tâl llawn yn ystod 22 wythnos gyntaf eu habsenoldeb mamolaeth.

Absenoldeb tadolaeth â thâl

Bydd staff sy'n gymwys i dderbyn tâl tadolaeth statudol yn derbyn 10 niwrnod o dâl llawn.

Absenoldeb rhiant â thâl

Mae gan staff sydd wedi gweithio gyda ni am flwyddyn hawl i wythnos o absenoldeb rhiant ar dâl llawn bob blwyddyn os oes ganddynt un plentyn neu fwy o dan wyth mlwydd oed. Mae hyn yn ychwanegol at eu hawl i wyliau blynyddol.

Absenoldeb gwirfoddoli â thâl

Gall cyflogeion ofyn am hyd at ddau ddiwrnod o absenoldeb â thâl bob blwyddyn ar gyfer gwirfoddoli.

Absenoldeb dyletswydd gyhoeddus â thâl

Gall staff gymryd hyd at 18 niwrnod y flwyddyn i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus.

Egwyl gyrfa ddi-dâl

Gall staff gyda dwy flynedd o wasanaeth ofyn am egwyl gyrfa ddi-dâl o hyd at 50 wythnos bob pum mlynedd fel absenoldeb astudio, cyfnod sabothol neu deithio, neu i dreulio cyfnod estynedig gyda'u plant y tu hwnt i'w hawl i absenoldeb rhiant.

Datblygu

Mae'r Tîm Datblygu Dawn a Threfniadaethol yn y Gronfa Loteri Fawr yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddatblygu pobl er mwyn cynnal eich cymhelliant, a chynyddu eich sgiliau a'r galluoedd i gyrraedd eich potensial.

Tanysgrifiadau Proffesiynol

Os ydych mewn swydd lle mae aelodaeth o gymdeithas neu fudiad proffesiynol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â swyddogaeth eich rôl, gallwch gyflwyno hawl i'r ffioedd tanysgrifio gael eu had-dalu, hyd at uchafswm o un tanysgrifiad y flwyddyn.

Nawdd corfforaethol

Gall y Gronfa Loteri Fawr roi cefnogaeth ariannol i nifer bach o staff i ennill cymwysterau gan ddarparwyr cyrsiau allanol sy'n darparu sgiliau a gwybodaeth hynod werthfawr ar gyfer y swydd.

Hyfforddiant a mentora

Rydym yn gweithio i sefydlu diwylliant o hyfforddiant yn y Gronfa Loteri Fawr trwy weithdai, cyngor a chanllawiau, sesiynau 1:1 a'n rhwydwaith hyfforddiant ein hunain.

ADBORTH