Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ynglŷn â’r Gronfa Loteri Fawr

Dosbarthwr mwyaf arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am ddosbarthu 40 y cant o'r holl arian a godir gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da (tua 13 ceiniog o bob punt sy'n cael ei gwario ar docyn Loteri). Mae hyn gwerth cyfanswm o tua £600 miliwn eleni.

Ers mis Mehefin 2004, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £4.4 biliwn i brosiectau sy'n cefnogi iechyd, addysg, yr amgylchedd a dibenion elusennol. Dyfernir 80-90% o'n hariannu i fudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol.

Rydym yn cyflwyno ariannu ledled y DU, yn bennaf trwy raglenni sydd wedi'u teilwra'n benodol i anghenion cymunedau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn ogystal â rhai rhaglenni sy'n cwmpasu'r DU gyfan.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn dosbarthu ariannu nad yw'n dod o'r Loteri ar ran cyrff cyhoeddus megis yr Adran Addysg a'r Swyddfa Cymdeithas Sifil. Mwy o wybodaeth am y Gronfa Fawr, cangen y Gronfa Loteri Fawr sy'n ymdrin ag ariannu nad yw'n dod o'r Loteri Genedlaethol

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gorff cyhoeddus anadrannol a noddir gan Swyddfa'r Cabinet

ADBORTH