"Fel cymdeithas, mae gennym rwymedigaeth i ddod â gwir welliannau i'r rhai mwyaf anghenus. Rwy'n ymrwymedig i wasanaethu'r grwpiau hyn ac i sicrhau bod y Gronfa Loteri Fawr yn parhau i weithio ar y cyd, cymryd rhan yn llawn ac ariannu mewn ffordd effeithiol er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol barhaol i bobl a chymunedau ledled ein gwlad. "
Mae Rajay Naik yn Gyfarwyddwr Llywodraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus yn y Brifysgol Agored - Prifysgol fwyaf Ewrop. Yn y Gronfa Loteri Fawr mae'n Gadeirydd Rhaglenni DU. Yn 2009 fe'i penodwyd gan Peter Mandelson a David Willetts yn un o chwe aelod panel ar yr Adolygiad Annibynnol trawsbleidiol o Ariannu Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr (Adolygiad Browne). Mae hefyd yn Gomisiynydd Comisiwn Sefydlog yr Adran Iechyd ar Ofalwyr ac yn Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Cofentri.
Yn flaenorol gweithiodd Rajay yng Nghyngor Dinas Cofentri ar waith i gynnwys dinasyddion mewn gwneud penderfyniadau; Swyddfa'r Trydydd Sector o fewn Swyddfa'r Cabinet ar bolisi'r sector gwirfoddol, a rheolodd rhaglen yr Her Tai Coffi Cenedlaethol gyda Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Mae Rajay yn gyn-Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Prydain ac yn gyn-ymddiriedolwr yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol, v a Sefydliad Changemakers. Roedd yn Aelod o'r Cyngor Sgiliau a Dysgu, fe'i comisiynwyd gan NESTA i greu 'Learner Voice' ac ar hyn o bryd mae'n gwneud ei bumed flwyddyn o wasanaeth fel Llywodraethwr City College, Cofentri - un o golegau Addysg Bellach mwyaf y DU.
Mae Rajay yn Gymrawd RSA ac yn Llysgennad Dinas Cofentri, Make Your Mark, a Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth. Mae ganddo raddau israddedig ac ôl-raddedig o Brifysgol Warwig.