"Rhoi pobl a chymunedau mewn rheolaeth. Cynyddu hyder, gwydnwch a chynaladwyedd y rhai mwyaf anghenus. Clymu bywyd dinesig trwy grantiau bach. Galluogi gobaith a chyfle i fudiadau sydd am wneud gwahaniaeth. Taflu goleuni ar yr hyn y mae angen ei newid a sut – hyn oll sy'n rhoi ystyr i weithio i’r Gronfa Loteri Fawr"
Cyn ymuno â'r Gronfa Loteri Fawr, roedd Dharmendra'n bennaeth Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yr Alban ac yna cyfarwyddwr Gwledydd, Rhanbarthoedd a Chymunedau ledled Prydain Fawr, gan ail-lunio ei strwythur rhanbarthol; cyflwynodd Pwyllgorau Gwlad; datblygodd ymagwedd a pholisi'r Comisiwn at ffydd; materion pobl ifanc, sipiswn a theithwyr, lloches a mewnfudo; lluniodd a chyflwynodd 'Getting Results' - ariannu ar sail canlyniadau ar gyfer cyrff cydraddoldeb hiliol, a sefydlodd y fenter Safe Communities. Tan 1999 bu'n gyfarwyddwr cyrff cydraddoldeb hiliol yn Yr Alban a Llundain.
Mae wedi cadeirio nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Yr Alban a Llundain, ac wedi sefydlu mudiadau cymunedol amrywiol sy'n ymdrin â hyfforddiant cyflogaeth, mentora pobl ifanc, eiriolaeth gymunedol a thai cymdeithasol.
Mae Dharmendra wedi bod yn ymgynghorydd i nifer o fudiadau statudol a gwirfoddol, Gweithrediaeth Yr Alban a grwpiau gweinidogion Whitehall. Mae'n Gadeirydd Fforwm Arianwyr yr Alban ac yn aelod byrddau nifer o gyrff y celfyddydau yn Yr Alban.