"Mae arian gan y Gronfa Loteri Fawr eisoes wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ledled Cymru, a pharhawn i gefnogi'r bobl a'r cymunedau mwyaf anghenus"
Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru 2004-2009
Ymunodd Miss Wilding â Heddlu’r Tiroedd yn Jersey fel cadét ym 1967 ac fe’i hardystiwyd yn gwnstabl ym 1970. Ym 1971 fe drosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan lle gwasanaethodd yn bennaf fel ditectif gweithredol ledled Llundain ac ar unedau arbenigol yn New Scotland Yard. Daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu Swydd Gaint ym 1994, gyda chyfrifoldeb dros Bersonél, ac ym 1997 cymerodd gyfrifoldeb dros Ymgyrchoedd Troseddu, Cudd-wybodaeth a Chyswllt Ewropeaidd.
Ym 1998 trosglwyddodd i’r Heddlu Metropolitan fel Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol a gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Strategol a hefyd Ymgyrchoedd Arbenigol, lle bu'n bennaeth y Gyfarwyddiaeth Diogelwch ac Amddiffyn, gan gynnwys:
- diogelwch Gweinidogion
- y Teulu Brenhinol
- y Gangen Arbennig
- Maes Awyr Heathrow
- cudd-wybodaeth a'r uned arfau tân arbenigol
Astudiodd Miss Wilding droseddeg ym Mhrifysgol Llundain, mae ganddi Ddoethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Morgannwg ac mae hi'n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. mae hi'n Gydymaith y Sefydliad Rheoli Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Mae hi hefyd yn Aelod o'r Sefydliad Materion Rhyngwladol Brenhinol a'r Coleg Astudiaethau Amddiffyn Brenhinol. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr yr Elusen Crimebeat Genedlaethol.
O fewn Cymru, dynma ei chyflawniadau:
- Aelod Bwrdd y Gronfa Loteri Fawr
- Dyfarnwyd Medal Heddlu’r Frenhines iddi yng Ngwobrau'r Mileniwm 2000 am wasanaeth arbennig i’r heddlu
- Anrhydeddwyd Miss Wilding yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines yn 80 mlwydd oed pan dderbyniodd fedal Comander Ymerodraeth Prydain am ei gwasanaethau i’r heddlu
- Is-lywydd Age Cymru, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn Ymddiriedolwr Ieuenctid Heddlu De Cymru
- Cadeirydd Pwyllgor – Iechyd Meddwl
Mae Miss Wilding yn briod ac mae ganddi ddwy ferch sy'n oedolion.