Rydym yn adfywio ein gwefan er mwyn i chi ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch yn fwy hwylus.
Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn gwneud newidiadau i'r ffordd y mae ein gwefan yn edrych. Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud hi'n gyflymach ac yn fwy hwylus i ddod o hyd i ariannu, cael mynediad i arweiniad a chefnogaeth a darllen am brosiectau a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae'r gwelliannau y byddwch yn eu gweld wedi cael eu gwneud wrth ymateb i adborth gan ein cwsmeriaid.
Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y wefan newydd, felly pan fyddwn yn dechrau gwneud y newidiadau hyn, bydd modd i chi anfon adborth atom yn hawdd gan ddefnyddio dolen hwylus sy'n ymddangos ar bob tudalen.
Rhagolwg o'r wefan newydd
Mae llywio syml ac uniongyrchol i'r gwledydd yn ei gwneud hi'n hawdd i weld cynnwys sy'n berthnasol i'ch ardal.
Mae bar llywio symlach ar frig y dudalen yn rhoi cyfle i chi ddod o hyd i gynnwys yn gyflymach.Mae'r wefan ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Mae'r uwch ddewislen newydd yn rhoi cyfle i chi weld pa dudalennau sydd ar gael ym mhob adran o'r ddewislen, felly nid oes angen i chi glicio'n ôl trwy'r amser i ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch.

Porwr Ariannu
Mae'r Porwr Ariannu yn ymddangos ar draws y wefan gyfan, ac wedi cael ei ddiweddaru er mwyn i chi weld yn gyflym pa rai o raglenni ariannu y Gronfa Loteri Fawr sydd ar gael yn eich ardal chi.

Gofyn i'r Gronfa
Defnyddiwch y teclyn Gofyn i'r Gronfa i ofyn cwestiwn.

Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn gwneud gwelliannau pellach i'n gwefan, sydd â'r nod o wneud eich profiad o ymgeisio am, a rheoli ariannu gyda'r Gronfa Loteri Fawr yn fwy clir, yn symlach ac yn fwy effeithlon.