Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cronfa Loteri Fawr i ddadorchuddio £15m ar gyfer sgiliau digidol yn uwchgynhadledd Go ON UK

Area:
DU gyfan
Programme:

Release date:
11 5 2013

Y Prif Weinidog, David Cameron, yn galw ar fwy o fudiadau i gefnogi uchelgais Go ON UK i'r DU fod yn genedl fwyaf medrus y byd mewn sgiliau digidol

Fel rhan o'i hymrwymiad i helpu'r elusen Go ON UK i ddileu'r gagendor digidol, mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cyhoeddi buddsoddiad o hyd at £15 miliwn i adeiladu'r sgiliau y bydd eu hangen ar bobl a mudiadau ar draws y DU er mwyn manteisio'n llawn ar y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael.

Mae 16 miliwn o bobl yn y DU sydd â diffyg sgiliau ar-lein sylfaenol i wneud defnydd llawn a hyderus o'r offer digidol sydd ar gael iddynt, a 7.4 miliwn o bobl nad ydynt erioed wedi bod ar-lein.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn datblygu'r rhaglen ariannu gyda Go ON UK a fydd yn dod ag uwch arweinwyr digidol y DU ynghyd yn Uwchgynhadledd Prif Weithredwyr Sgiliau Digidol Go ON UK ac yn eu herio i ymrwymo eu mudiadau i chwarae eu rhan wrth wneud y DU yn genedl fwyaf medrus y byd mewn sgiliau digidol.

Bydd rhaglen y Gronfa Loteri Fawr, sydd yn y cam datblygu o hyd ar hyn o bryd, yn agor i geisiadau yn yr hydref ac mae'r Gronfa Loteri Fawr yn disgwyl ariannu nifer bach iawn o brosiectau DU gyfan i ganolbwyntio ar y cymunedau mwyaf anghenus. Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cyhoeddi'r rhaglen nawr er mwyn i ddarpar ymgeiswyr gael digon o amser i ystyried y mathau o bartneriaethau y bydd angen eu rhoi ar waith i gwrdd â'r her o wella sgiliau digidol ar draws y DU.

Amcan y Gronfa Loteri Fawr yw adeiladu ar lwyddiant enfawr y bartneriaeth traws-sector Go ON Liverpool a oedd yn cynnwys gwerth £100,000 o ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr ac a helpodd i gyflawni gostyngiad 55 y cant yn y nifer nad ydynt ar-lein yn y ddinas mewn 18 mis yn unig.

Yn cyhoeddi’r cynlluniau i roi hwb gwirioneddol i weithgarwch lleol presennol ac addasu'r glasbrint Go ON Liverpool trwy wneud sgiliau digidol yn flaenoriaeth ranbarthol, bydd Cadeirydd Go ON UK, y Farwnes Lane-Fox yn dadorchuddio cynlluniau heddiw i roi hwb i strategaeth cyflwyno sgiliau digidol Go ON UK yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn yr Hydref.

Meddai Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr, Peter Wanless: Mae gan y Gronfa Loteri Fawr £15 miliwn ar gael i'w ddyrannu i'r mudiadau a all ein darbwyllo ni fwyaf ynglŷn â sut y byddant yn defnyddio'r arian i droi pobl ddatgysylltiedig ac â diffyg diddordeb yn defnyddwyr gwasanaethau ar-lein hyderus.

“Rydym yn hysbysu pobl nawr er mwyn i ddarpar ymgeiswyr ddatblygu'r partneriaethau a chynlluniau mwyaf argyhoeddiadol y gallant. Rydym yn disgwyl ariannu dim ond llond llaw o brosiectau mawr, felly bydd y gystadleuaeth yn ddwys.

Meddai'r Farwnes Lane-Fox, Cadeirydd Go ON UK: “Mae buddsoddiad sgiliau digidol y Gronfa Loteri Fawr yn ein helpu i gyflwyno amcan Go ON UK o sicrhau buddsoddiad hollbwysig ar gyfer cynyddu sgiliau digidol pobl a mudiadau ar draws y DU. Ond mae arnom angen i fudiadau eraill chwarae eu rhan a gwneud yr un peth.

“Mae'r DU wedi adeiladu sylfaen ddigidol gref - mae isadeiledd dibynadwy a gwasanaethau o safon uchel yn gydrannau allweddol o economi ddigidol y DU, sy'n cyfrif am dros 8% o CMC - canran fwy nag unrhyw wlad arall yn y G20. Fodd bynnag, wrth i'r manteision gynyddu ar gyfer y rhai sydd ar-lein, gadewir y rhai nad oes ganddynt sgiliau ar-lein sylfaenol ar ôl ac ni fyddant yn gweld buddion llawn ein rhwydwaith cyfredol - heb sôn am y genhedlaeth nesaf.

“Yn dilyn llwyddiant Go ON Liverpool, eleni bydd Go ON UK a'i bartneriaid Sefydlu -Age UK, y BBC, y Gronfa Loteri Fawr, E.ON, EE, Grŵp Bancio Lloyds, Swyddfa'r Post a TalkTalk - yn anelu at roi hwb go iawn i weithgareddau partneriaid lleol a helpu i wella sgiliau ar-lein sylfaenol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Rydym yn hyderus y bydd modd i ni ddarparu tystiolaeth bellach o effaith gwaith partneriaeth wrth gynyddu sgiliau digidol a chreu partneriaeth y gellir ei hefelychu y byddwn yn ei chyflwyno ar draws y genedl dros y 18 mis nesaf."

Meddai'r Prif Weinidog, David Cameron: “Er mwyn i ni lwyddo yn y ras fyd-eang, mae'n hanfodol i ni sicrhau bod ein pobl a'n busnesau'n cydnabod y cyfleoedd y mae'r we yn eu cynnig, a meddu ar sgiliau digidol heb eu hail. Dyna pam mae'r Llywodraeth yn cefnogi uchelgais Go ON o wneud y DU yn genedl fwyaf medrus y byd mewn sgiliau digidol.
"Rydym yn buddsoddi tua £1 biliwn yn ein hisadeiledd digidol i sicrhau bod pawb yn y DU y gallu cael mynediad i fand eang cyflym a dibynadwy. Bydd y newidiadau hyn yn atgyfnerthu statws y DU fel economi ddigidol flaenllaw ac yn helpu i greu swyddi lleol a thwf digidol."

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: @LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales


Go ON UK:
Tara Maynard
Swyddfa: 020 7440 5700 | Symudol: 07921 337 162
E-bost: tara@go-on.co.uk 
www.go-on.co.uk
Trydar yn @Go_ON_UK

Nodiadau i Olygyddion

  • Nid yw 7.4 miliwn o oedolion y DU (15 y cant) erioed wedi defnyddio cyfrifiadur na'r we. Mynediad i'r We 2012 y Swyddfa Ystadegau Gwladol - Aelwydydd ac Unigolion, cyhoeddwyd Chwefror 2013.
  • Cyrhaeddwyd y ffigur 16M yn dilyn dadansoddiad pellach gan Ipsos MORI o'r data a ddeilliodd o ymchwil y BBC/Ipsos MORI, Understanding Digital Capabilities, ym mis Gorffennaf 2012. Daeth y dadansoddiad hwn i'r casgliad y gallai tua 35.4m, 69% o'r oedolion yn y DU gwblhau pob un o'r pedwar gweithgaredd ac na allai tua 16.0m, 31% o'r oedolion yn y DU. Sefydlodd dadansoddiad Ipsos MORI o'r data demograffig ar gyfer y 16M o ymatebwyr na allent gwblhau'r pedwar gweithgaredd ar hyn o bryd fod 21% mewn cyflogaeth amser llawn a 7% mewn cyflogaeth ran-amser. 29% (oherwydd talgrynnu) o 16M = 4.64M
  • Yn 'anaml' neu 'byth' y mae 35 y cant o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn chwilio am swyddi ar-lein, ac ni fyddai 17 y cant yn ymgeisio am swyddi sy'n gofyn am sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol. Arolwg Llythrennedd Ymddiriedolaeth y Tywysog 2013.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers mis Mehefin 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £6biliwn.
  • Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
  • Mae Go ON UK yn elusen ar draws sectorau a sefydlwyd yn 2012 i annog a chefnogi pobl, busnesau ac elusennau i fwynhau buddion bod ar-lein. Mae gan Go ON UK wyth prif weithredwr o'r DU o gwmpas ei fwrdd yn yr ystafell bwrdd – Age UK, y BBC, y Gronfa Loteri Fawr, E.ON, EE, Grŵp Bancio Lloyds, Swyddfa'r Post a TalkTalk. Ar y cyd, gweledigaeth Go ON UK yw gwneud y DU yn genedl fwyaf medrus y byd mewn sgiliau digidol.
  • Roedd Go ON Liverpool yn ymgyrch bartneriaeth traws-sector cenedlaethol a lleol. Ym mis Mehefin 2011, nid oedd 29% o oedolion (104,000 o bobl) yn Lerpwl erioed wedi bod ar-lein o'i gymharu â 17% yn genedlaethol. Mewn 18 mis, arweiniodd ymgyrch Go ON UK Liverpool at ostyngiad 55% yn nifer yr oedolion yn y ddinas nad oeddent erioed wedi mynd ar-lein, ac roedd gan Lerpwl 43,000 o ddefnyddwyr rhyngrwyd newydd (Arolwg Aelwydydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Roedd hyn yn cymharu â gostyngiad 13% yn genedlaethol. Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth wleidyddol, busnes a chymunedol; fe'i cefnogwyd gan bob un o'r 90 cynghorydd lleol, a chan 80 o bartneriaid lleol, pob un yn hyrwyddo neges o'r buddion penodol ac wedi'u targedu sy'n briodol ac yn ystyrlon i'r bobl a busnesau lleol a gyrhaeddwyd. Ar lawr gwlad, recriwtiwyd 1,500 o eiriolwyr digidol i gyflwyno'r neges a darparu hyfforddiant.

Tags

Themâu

  • Cynyddu sgiliau a hyder
  • Adnabod a diwallu angen
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Ariannu gwell
ADBORTH