HafanAriannuPorwr ariannuArwyr yn Ôl Arwyr yn Ôl Yn rhoi cyfle i gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd ddychwelyd i feysydd y gad Tweet Ardal:DU gyfanMaint yr ariannu:£150 - £5,500Cyfanswm ar gael:Dd/BTerfyn amser ymgeisio:Gweld manylion y rhaglen Beth yw amcan y rhaglen? Mae'r cynllun Arwyr yn Ôl 2 yn darparu arian Loteri i helpu cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd a fu yn y gad ac sy'n byw yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon i gymryd rhan mewn ymweliadau coffáu (yn y DU a thramor) er mwyn nodi pen-blwydd y digwyddiadau a arweiniai at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Pwy all ymgeisio? Cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon a fu yn y gad tramor neu ochr yn ochr â Lluoedd Arfog Prydain a'r Cynghreiriaid. Gall cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd deithio yng nghwmni priod a/neu ofalwr. Mae gweddwon cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd hefyd yn gymwys yn y mwyafrif o achosion. Er mwyn i gynifer o gyn-filwyr â phosib fedru manteisio ar y cyfle hwn, gallwn ariannu un ymweliad yn unig ar gyfer pob cyn-filwr neu weddw. Mae hyn yn golygu na fyddai modd i ni ariannu ail ymweliad os yw cyn-filwr eisoes wedi derbyn ariannu i fynd ar ymweliad coffáu. Beth gallwch chi ymgeisio amdano? Bydd y swm y byddwn yn ei ddyfarnu'n swm penodol fesul cyn-filwr, gan ddibynnu ar nifer y bobl sy'n cymryd rhan a'r gyrchfan. Mae hyn yn golygu y bydd swm y grant a ddyfarnwn yn dibynnu ar ble y byddwch yn mynd ar eich ymweliad. Dogfennau cysylltiedig Arwyr yn Ôl 2 - Ffurflen gais TagiauMath o fudiadUnigolyn Mudiad gwirfoddol neu gymunedol BuddiolwyrCyn-filwyr
Ardal:DU gyfanMaint yr ariannu:£150 - £5,500Cyfanswm ar gael:Dd/BTerfyn amser ymgeisio:Gweld manylion y rhaglen Beth yw amcan y rhaglen? Mae'r cynllun Arwyr yn Ôl 2 yn darparu arian Loteri i helpu cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd a fu yn y gad ac sy'n byw yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon i gymryd rhan mewn ymweliadau coffáu (yn y DU a thramor) er mwyn nodi pen-blwydd y digwyddiadau a arweiniai at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Pwy all ymgeisio? Cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon a fu yn y gad tramor neu ochr yn ochr â Lluoedd Arfog Prydain a'r Cynghreiriaid. Gall cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd deithio yng nghwmni priod a/neu ofalwr. Mae gweddwon cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd hefyd yn gymwys yn y mwyafrif o achosion. Er mwyn i gynifer o gyn-filwyr â phosib fedru manteisio ar y cyfle hwn, gallwn ariannu un ymweliad yn unig ar gyfer pob cyn-filwr neu weddw. Mae hyn yn golygu na fyddai modd i ni ariannu ail ymweliad os yw cyn-filwr eisoes wedi derbyn ariannu i fynd ar ymweliad coffáu. Beth gallwch chi ymgeisio amdano? Bydd y swm y byddwn yn ei ddyfarnu'n swm penodol fesul cyn-filwr, gan ddibynnu ar nifer y bobl sy'n cymryd rhan a'r gyrchfan. Mae hyn yn golygu y bydd swm y grant a ddyfarnwn yn dibynnu ar ble y byddwch yn mynd ar eich ymweliad. Dogfennau cysylltiedig Arwyr yn Ôl 2 - Ffurflen gais TagiauMath o fudiadUnigolyn Mudiad gwirfoddol neu gymunedol BuddiolwyrCyn-filwyr