Ffeithiau allweddol
Ardal: Cymru
Derbynnydd y grant: Aberconwy Mind
Prosiect: Conwy Refrain
Rhaglen: Iechyd meddwl
Dyddiad y dyfarniad: Ebrill 2008
Swm a ddyfarnwyd: £596,756
Cafodd ei fwlio'n ddifrifol ac aeth ei gaethineb i alcohol mor wael y dechreuodd ddioddef pyliau o epilepsi.
Heddiw mae Lyndon James, sy'n 45 oed ac yn hanu o Landudno, yn hynod o ddiolchgar ei fod yn dal yn fyw ar ôl carcharu ei hun drwy alcoholiaeth ar hyd y rhan fwyaf o'i fywyd. Dim ond pan fu farw ei gyfaill ers 20 mlynedd o gamddefnyddio alcohol yr agorodd ei lygaid o'r diwedd, gan benderfynu i oresgyn ei broblemau gydag alcohol cyn iddo wynebu'r un dynged.
“Roeddwn mewn uned dysgwyr araf yn yr ysgol a ches i fy mwlio'n ddifrifol oherwydd hynny,” mae'n cofio.
“Roedd yn ofnadwy, bydden nhw'n piso arna i a phob math o beth. Daeth y bwlio i ben pan adewais yr ysgol, ond roedd fy hyder eisoes wedi cael ei ddinistrio. Felly, pan es i allan gyda ffrindiau gwelais fod yfed yn fy ngwneud i'n llawer mwy hyderus, a pho fwyaf yr yfais gwell oedd fy hyder. Gallwn roi'r teimladau o fod yn ddiwerth i gefn fy mhen. Roedden nhw yno o hyd, ond wedi'u cuddio gan alcohol."
Ar ei waethaf, byddai Lyndon yn yfed wyth neu naw peint o chwerw bob dydd ac yna prynu poteli o win i yfed cyn mynd i'r gwely ar ei ffordd adref. Mae wedi bod yn sobr ers dros bedwar mis bellach, ac yn teimlo bod ganddo awydd newydd am fywyd diolch i'r gefnogaeth a dderbyniodd gan y prosiect Refrain yng Nghonwy a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr.
"Duw a ŵyr ble y byddwn hebddo", mae'n cyfaddef "Credaf yn onest y byddwn wedi marw. Maen nhw'n fy helpu i chwilio am gyfleoedd gwaith a hyd yn oed rhywfaint o waith gwirfoddol. Mae'n dda i gael rhywun y tu hwnt i'r teulu y gallwch eistedd i lawr a siarad â nhw heb eu bod yn troi eu trwyn i fyny arnoch."
Derbyniodd y prosiect Conwy Refrain, a redir ar y cyd gan Aberconwy Mind a CAIS, dros hanner miliwn o bunnoedd (£596,756) o dan raglen Iechyd Meddwl gwerth £15 miliwn y Gronfa Loteri Fawr. Ei nod yw hyrwyddo ailsefydlu ac annibyniaeth pobl sy'n cwympo i mewn i'r bylchau rhwng gwasanaethau, o ran iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.