Ffeithiau allweddol
Ardal: Cymru
Derbynnydd grant: Carchar EM y Parc
Prosiect: Invisible Walls
Rhaglen: Efelychu ac Arloesedd
Dyddiad y dyfarniad: Ionawr 2012
Swm a ddyfarnwyd: £3,137,466
Derbyniodd Carchar a Sefydliad Troseddwyr Ifanc EM y Parc fwy na £3.1 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr i redeg ei brosiect Invisible Walls, sydd â'r nod o weithio gyda throseddwyr a'u teuluoedd yn ystod eu dedfryd ac ar ôl cael eu rhyddhau i atal aildroseddu ac ymdrin â phroblemau cymdeithasol lluosog a chymhleth eraill.
Treuliodd Gavin Williams, cyn-garcharor yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, 15 mlynedd i mewn ac allan o’r ddalfa ac arweiniodd ei broblemau camddefnyddio sylweddau cynyddol at chwalfa yn ei berthynas gyda’i deulu. Ond erbyn hyn, ar ôl derbyn cefnogaeth gan y Rhaglen Ymyraethau Teuluol yn y carchar, a chan y prosiect Invisible Walls a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, mae Gavin yn lân, mae wedi adfer cysylltiadau gyda’i deulu ac mae hyd yn oed wedi sefydlu busnes celf ar ei liwt ei hun.
“Pan es i’r carchar y tro cyntaf nid oeddwn erioed wedi codi brwsh paent yn fy mywyd, ond pan ddechreuais dynnu darluniau ar gyfer fy mhlant fel rhan o’r rhaglen, gwnes i weld bod gyda fi ddawn go iawn,” meddai Gavin.
“Mae fy mhaentiadau a murluniau i’w gweld ym mhobman ar waliau’r carchar. Yn ogystal â’r prosiect yn rhoi help i mi ddod o hyd i ddawn newydd, helpodd y gefnogaeth barhaus i mi gysylltu â’m teulu eto. Gweithiodd y tîm yn y Parc y tu hwnt i gred i drefnu ymweliadau ar fy nghyfer i, a gwnaethant siarad â’m teulu i ddweud wrthynt sut yr oeddwn yn dod ymlaen. Gwnaethant agor Uned Ymyraethau Teuluol gydag ardal i deuluoedd, a hwyluso’r ymweliadau fel y gallai teuluoedd ddod i amgylchedd llai ffurfiol i siarad â chi.”
“Yn y carchar, llwyddais i ennill ystod o gymwysterau, sef rhywbeth y credais na fyddwn byth yn ei wneud. Cofrestrais ar gyfer pob cwrs a gafodd ei gynnig, a chwblheais nhw i gyd. Roedd y cymwysterau a gefais o hynny’n wych o ran fy helpu gyda’r hyn yr oeddwn eisiau ei wneud.
“Helpodd tîm y Parc i mi ddechrau ymwneud ag Ymddiriedolaeth y Tywysog pan adewais y carchar, a helpodd yn ei dro i sefydlu fy hun fel arlunydd hunangyflogedig. Mewn dim o amser roeddwn yn gweithredu fel arlunydd ar fy liwt fy hun - mae busnes wedi bod yn wirioneddol dda, a dw i wedi cael cymorth parhaus gan y Parc ers i mi gael fy rhyddhau.”