Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Nodau a chanlyniadau

Dangos pa wahaniaeth a ddaw yn sgil eich prosiect

Nod a chanlyniadau

Mae'r nod yn ddatganiad byr o ddiben cyffredinol eich prosiect. Y canlyniadau yw'r newidiadau penodol sy'n digwydd o ganlyniad i'ch prosiect.

Pam maen nhw'n bwysig?

Gan eu bod yn:

  • helpu i ffocysu popeth a wnewch
  • esbonio pam mae'r newidiadau a ddaw yn sgil eich prosiect i ddiwallu'r anghenion rydych wedi'u hadnabod
  • esbonio pam y dylid ariannu eich prosiect.

Unwaith y byddwch yn deall yr angen am eich prosiect, mae dwy elfen allweddol o ran disgrifio'r gwahaniaeth rydych am ei wneud:

  • eich nod cyffredinol - datganiad byr o ddiben cyffredinol eich prosiect
  • eich canlyniadau arfaethedig - y newidiadau penodol rydych am eu gweld yn sgil eich prosiect

Nodau

Mae'r nod cyffredinol yn crynhoi diben eich prosiect a'r effaith y bydd yn ei chael. Mae'n helpu rhoi ffocws i bopeth a wnewch. Dewiswch nod syml a'i eirio'n ofalus. Dylai fod yn un frawddeg ac yn rhywbeth y gallwch ei gyflawni neu ddylanwadu'n gryf arno o leiaf yn ystod eich prosiect, er enghraifft: "Creu cysylltiadau cadarnhaol â phobl ifanc yn y gymuned". Dylai'r anghenion rydych wedi'u nodi eich helpu i lunio'ch nod.

Canlyniadau

Canlyniadau yw'r newidiadau y gall eich prosiect eu gwneud dros amser i ymdrin â’r angen/anghenion rydych wedi'i adnabod. Nhw yw'r hyn sy'n deillio o'r hyn a wnewch, yn hytrach na'r gweithgareddau neu'r gwasanaethau a ddarparwch. I bobl, gall hyn gynnwys pethau megis gwell iechyd, sgiliau newydd, mwy o hyder, neu gael swydd.

Disgrifir canlyniadau orau gyda geiriau sy'n cyfleu newid, megis: mwy, gwell, llai, cynyddol. Mewn rhai achosion mae canlyniadau'n ymwneud â chadw sefyllfa'n sefydlog neu atal pethau rhag gwaethygu.

Gan ddibynnu ar eich prosiect, gall fod canlyniadau ar lefelau gwahanol, gan gynnwys:

  • i unigolion a theuluoedd, er enghraifft mae tadau'n gwella'u sgiliau magu plant gan arwain at berthnasoedd teuluol cryfach
  • i gymunedau, er enghraifft mae llai o bobl ifanc yn ymwneud ag ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol o ganlyniad i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cadarnhaol
  • i’r amgylchedd, er enghraifft mae gwelliannau i gynefinoedd lleol yn arwain at lefelau uwch o fioamrywiaeth ymysg rhywogaethau
  • i fudiadau, er enghraifft mae gan elusennau sgiliau a gallu cynyddol i ddiwallu anghenion lleol
  • i systemau a strwythurau, er enghraifft gostyngiad mewn tagfeydd ar draws y ddinas o ganlyniad i gynyddu nifer y llwybrau beicio

Gall prosiect unigol adnabod canlyniadau ar nifer o lefelau. Er enghraifft, gallai canolfan teuluoedd adnabod canlyniadau ar gyfer plant, eu teuluoedd ac ysgolion lleol.

Hyd yn oed mewn prosiectau bach iawn sydd wedi'u targedu gyda dim ond un neu ddau o ganlyniadau, mae'n bosib gwahaniaethu o hyd rhwng y nod a'r canlyniad. Er enghraifft, gall fod gan brosiect cyngor budd-daliadau bach i rieni sengl nod cyffredinol o "mynd i'r afael â thlodi ymysg rhieni sengl di-waith yr ardal" gyda chanlyniad o “gynyddu sicrwydd ariannol ymysg rhieni sengl gan arwain at ostyngiad mewn straen a phryder”.

Nod a chanlyniadau - rhestr wirio pwyntiau allweddol

  • Ydy eich nod yn crynhoi diben cyffredinol eich prosiect mewn un frawddeg? 
  • Ydy eich nod yn adlewyrchu? 
  • ydych chi wedi defnyddio geiriau sy'n mynegi newid (er enghraifft: 'mwy', 'gwell', 'llai', 'cynyddol') i ddisgrifio eich canlyniadau, i ddweud beth fydd yn wahanol erbyn diwedd y prosiect? 
  • oes gan eich canlyniadau gyswllt clir â'r angen rydych wedi'i adnabod? 
  • Ydy eich canlyniadau'n disgrifio newidiadau clir, penodol a realistig? 
  • Ydych chi wedi cyfyngu eich canlyniadau i nifer sy'n ymarferol (gofynnwn am hyd at bedwar)?

ADBORTH