Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cymorth gyda nodau ac amcanion

Cynllunio prosiectau

Mae'n werth buddsoddi cymaint o amser ag y gallwn yn cynllunio eich prosiect. Un ffordd ddefnyddiol o feddwl am eich nod, eich canlyniadau a'ch gweithgareddau yw trwy ddefnyddio Triongl Cynllunio CES[4]. Gall eich helpu i drafod a chofnodi'r hyn rydych am ei newid a sut y byddwch yn ei wneud, ac yna rhoi cyfle i chi brofi pa mor realistig y mae eich cynlluniau.

 

CES Planning Triangle

 

Rhowch eich nod cyffredinol yn haenen uchaf y triongl

I'ch helpu i bennu eich nod, ystyriwch pam rydych yn cynnig eich gwasanaethau penodol neu gymysgedd o wasanaethau. Pa effaith ydych chi'n gobeithio ei gweld? Mae'r nod cyffredinol yn disgrifio'n fras ac mewn geiriau cyffredinol y newid rydych am ei weld. Bydd bod yn realistig o ran eich nod yn eich helpu i adnabod canlyniadau realistig.

Dewiswch nod syml a'i eirio'n ofalus. Dylai fod yn rhywbeth y gallwch ei gyflawni neu ddylanwadu'n gryf arno o leiaf yn ystod eich prosiect. Er enghraifft, "creu cysylltiadau cadarnhaol â phobl ifanc yn y gymuned".

Cofiwch fod eich nod hefyd yn grynodeb o'ch esboniad o pam mae eich prosiect yn bodoli - a pham y dylid ei ariannu.

Rhowch eich canlyniadau yn haenen ganol y triongl

Beth mae angen iddo newid er mwyn i’ch prosiect gyflawni ei nod cyffredinol? Pa wahaniaethau y bydd eich prosiect yn helpu i’w gwneud ar gyfer eich buddiolwyr. Yr atebion i’r cwestiynau hyn yw canlyniadau eich prosiect. Efallai y bydd rhai o’r canlyniadau hyn yn digwydd yn gyflym tra y bydd rhai eraill yn cymryd amser hwy ac yn dibynnu ar gyflawni canlyniadau eraill, ond mae’n rhaid iddynt fod yn newidiadau a fydd yn digwydd erbyn diwedd y prosiect.

Gofalwch ddefnyddio geiriau newid wrth ddisgrifio eich canlyniadau, megis: mwy, gwell, llai, cynyddol. Mewn rhai achosion mae’n bosib y bydd eich canlyniadau’n ymwneud â chadw sefyllfa’n sefydlog neu atal pethau rhag gwaethygu.

Dylech sicrhau hefyd bod eich canlyniadau’n cyfeirio at newidiadau nad ydynt yn ymwneud â hanfodion eich prosiect yn unig. Er enghraifft, yn lle dweud bod pobl ifanc yn cyfeirio at benderfyniadau ynghylch rhedeg y prosiect, dylech ddweud bod pobl ifanc yn fwy hyderus ac yn gallu mynegi eu barn.

Gall fod yn anodd meddwl ar sail canlyniadau. Os bydd hyn yn digwydd, dechreuwch trwy ystyried pa weithgareddau y bwriadwch eu cynnal a gofynnwch pam rydych yn eu cynnal. At ba newidiadau fydd y gweithgareddau hynny’n arwain.

Peidiwch ag ysgrifennu gormod o ganlyniadau. Cadwch nhw’n fyr. Mae’n well canolbwyntio ar nifer bach o ganlyniadau a bod yn gwbl glir ynghylch yr hyn rydych yn ceisio ei gyflawni.

Rhowch weithgareddau eich prosiect yn haenen isaf y triongl

Gweler y dudalen Weithgareddau i gael cyngor ar weithgareddau.

Enghraifft o driongl cynllunio wedi'i gwblhau ar gyfer prosiect ieuenctid

CES Planning Triangle

 

Adolygu eich triongl cynllunio

Ar ôl i chi lenwi triongl, gwiriwch y canlynol:

  • Ydych chi wedi defnyddio geiriau newid yn yr haenau uchaf a chanol a geiriau gweithredu yn yr haenen isaf?
  • Ydy canol y triongl yn disgrifio'r newidiadau a ddaw ar gyfer eich buddiolwyr (neu yn achos mudiadau, y gymuned neu'r amgylchedd)?
  • Ydy gwaelod y triongl yn disgrifio'r hyn y bydd staff neu wirfoddolwyr yn ei wneud?

Gallwch edrych ar y triongl yn gyffredinol bellach i wirio bod y cynlluniau ar gyfer eich prosiect yn rhai realistig:

  • Edrychwch ar bob un o'ch canlyniadau yn yr haenen ganol. A fydd y gweithgareddau rydych wedi'u rhestru'n eich helpu'n realistig i gyflawni un neu fwy o'ch canlyniadau?
  • Nawr edrychwch ar y gweithgareddau. A oes gan bob un gyswllt uniongyrchol ag un neu fwy o'r canlyniadau? Os nac oes, pam mae'r gweithgaredd wedi'i gynnwys? Gall fod angen i chi ystyried p'un a yw'r gweithgaredd yn wirioneddol bwysig. Mae'n ddigon posib y bydd y gweithgaredd yn eich helpu i gyflawni newid arall. Os yw hyn yn wir, gall fod angen i chi gynnwys canlyniad arall. Gall eich helpu i wneud hyn os byddwch yn rhifo'r canlyniadau a rhoi'r rhif(au) perthnasol yn erbyn pob gweithgaredd.

Dyma fersiwn gwag o'r triongl i chi ei ddefnyddio:

4 Defnyddir ac addasir Triongl Cynllunio CES drwy garedigrwydd Charities Evaluation Services. 

ADBORTH