Angen yw'r term a ddefnyddiwn i ddisgrifio problem neu fater, neu sefyllfa lle mae angen i rywbeth newid er mwyn i bethau wella ar gyfer person, grŵp o bobl, amgylchedd neu fudiad.
Mae'n bwysig adnabod angen oherwydd:
- bod meddu ar weledigaeth glir o'r hyn y bydd eich prosiect yn mynd i'r afael ag ef yn rhan sylfaenol o ddylunio ymagwedd eich prosiect
- bod mynegi'r angen yn eglur yn eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau o fynd i'r afael ag ef neu sut i gydweddu â phrosiectau eraill
- ei fod yn cadw pawb sy'n ymwneud â'r 'r prosiect yn canolbwyntio ar yr un blaenoriaethau
- ei fod yn eich helpu i ddiwygio ac addasu eich prosiect os bydd angen
- bod arianwyr am wybod bod gennych resymau da dros eich prosiect.
Os oes gennych syniad da pam rydych eisiau cael eich ariannu, fe fyddwch yn ymwybodol o broblemau neu anghenion nas diwallir o ganlyniad i'ch profiad eich hun, drwy ymchwil neu drwy ymwneud â mudiad neu grŵp. Wrth gynllunio prosiect mae'n hawdd gwneud y camgymeriad o ddechrau drwy ddisgrifio pwy rydych am weithio gyda nhw a'r hyn yr ydych eisiau ei wneud heb egluro'r angen rydych yn mynd i'r afael ag ef yn gyntaf. Ond mae dadansoddi'r angen yn ofalus yn gam cyntaf pwysig wrth gynllunio prosiect.
Darllen mwy am ffyrdd o ddiffinio angen a sut i ddarparu tystiolaeth o angen, cael cael cymorth wrth ddiffinio angen