Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Tystiolaeth o angen

Bydd angen i chi ddangos sut rydych chi'n gwybod bod yr angen nas diwallir yn bodoli, a darparu peth tystiolaeth ddiweddar a pherthnasol. Gall hyn ddod o gyfuniad o ffynonellau, megis:

  • gofyn i bobl sydd â phrofiad o'r angen
  • eich profiad eich hun neu'r hyn rydych wedi'i weld
  • ymchwil i raddfa'r angen
  • ystadegau lleol ynglŷn â'r boblogaeth yn yr ardal neu lefelau amddifadedd (er enghraifft, o'r cyfrifiad neu arolygon mwy diweddar eraill) neu ystadegau eraill.
  • mentrau neu strategaethau partneriaeth awdurdodau lleol rhwng gwasanaethau'r sector statudol a gwirfoddol sy'n bodoli gan fod eisoes tystiolaeth ac ymwybyddiaeth dda o'r angen

Nid yw rhai o'r grwpiau mwyaf anghenus yn ymwneud â gwasanaethau ac felly mae'n anoddach ddod o hyd i dystiolaeth gyfredol neu ddiweddar o'u hanghenion.

Yn gyffredinol, bydd yr amser a dreuliwch yn ymchwilio i angen yn cyfateb i faint eich prosiect. Er enghraifft bydd angen i brosiectau mwy ddangos sut mae eich prosiect yn cydweddu â strategaethau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol a'r dystiolaeth sy'n sail iddynt.

Wrth ddadansoddi'r anghenion rydych yn ceisio eu diwallu, mae'n bwysig parhau i ateb y cwestiwn "pam?".

Gall fod nifer o broblemau cudd a gall ymchwilio i'r rhesymau helpu'n wirioneddol i egluro pa anghenion y byddwch yn mynd i'r afael â nhw a pha resymau na fyddwch, ynghyd â'r ymagwedd orau at ddylunio eich prosiect

ADBORTH