Mae angen yn fater cymhleth, ond gellir ei gategoreiddio'n fras yn ôl y canlynol:1
- Anghenion materol - cael maeth digonol, cael rhywle i fyw, bod yn gynnes, cael cartref digonol, cludiant digonol, incwm digonol, cyflogaeth, eiddo a gweithgareddau sylfaenol, sgiliau a chymwysterau sylfaenol
- Anghenion seicolegol - iechyd meddwl, hunan-barch, cymhwysedd, annibyniaeth, perthnasoedd ansawdd da, diogelwch
Un ymagwedd at ddiffinio angen yw ystyried bod y rhai mewn angen yn wynebu diffyg adnoddau penodol neu eu bod yn wynebu rhwystrau penodol o ran cael mynediad i'r gefnogaeth, yr wybodaeth neu'r gofal y mae eu hangen arnynt.2
Er enghraifft, mae'n bosib bod gan unigolion neu grwpiau anghenion gan na allant gael mynediad i wasanaethau neu ymdrin â nhw'n rhwydd (efallai oherwydd diffyg sgiliau iaith neu gyfathrebu) neu gan nad ydynt yn byw rhywle sy'n agos i'r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen neu nad oes ganddynt gludiant. Gall pobl fod ag anghenion oherwydd rhwystrau i hygyrchu cymorth neu oherwydd rhwystrau diwylliannol, gwahaniaethu neu ddiffyg ffydd mewn cyrff statudol.
Er enghraifft, ystyriwch grŵp targed o fenywod sy'n profi trais yn y cartref. Y brif broblem a nodwyd yw'r cam-drin domestig parhaus a brofir gan fenywod yn yr ardal. Y rhesymau cudd dros hyn yw diffyg annibyniaeth bersonol ac ariannol y merched, hunan-barch isel a'r ffaith nad ydynt yn gweld unrhyw ddewis ar wahân i'w hamgylchiadau presennol. Mae'r anghenion yr ymdrinnir â nhw gan y prosiect yn cynnwys gallu cynyddol i wneud dewisiadau, argaeledd dewisiadau tai amgen i'r menywod a'u plant, datblygu hyder a hunan-barch a mynediad i gyngor ariannol a chyflogaeth.
Mae anghenion rhai grwpiau wedi'u cuddio'n fwy na rhai eraill. Er enghraifft, mae gan lawer o bobl ag anabledd dysgu ac anghenion cefnogi dwys anghenion hefyd sy'n ymwneud â phroblemau cysylltiedig megis byw mewn tlodi, diweithdra, unigedd cymdeithasol a gwahaniaethu.
Mae'r rhai mwyaf anghenus yn cynnwys pobl ag anghenion dwys lluosog neu'r rhai sydd wedi cwympo drwy'r rhwyd o systemau cefnogi, megis gwasanaethau statudol, sectorau'r teulu, gwirfoddol a chymunedol neu breifat.
Gall fod yn briodol i brosiect ymdrin â nifer o anghenion neu ganolbwyntio ar un neu ddau, gan ddibynnu ar faint neu faes arbenigol y mudiad.
Byddwch mor realistig a phenodol â phosib ynglŷn â'r anghenion rydych yn mynd i'r afael â nhw. Gall fod nifer mawr o anghenion nas diwallir, felly canolbwyntiwch ar y prif angen/anghenion rydych wedi'u nodi, a lluniwch ddatganiad clir. Mae hyn yn helpu sicrhau bod pobl eraill sy'n ymwneud â'ch prosiect yn rhannu dealltwriaeth, ond hefyd bod arianwyr eraill yn deall yr hyn rydych yn ceisio ei wneud. Efallai na fyddwch yn gwbl siŵr neu eglur ar y dechrau, ond dylai gweithio drwy'r arweiniad hwn eich helpu chi.
Mae gan brosiect sy'n dewis ymdrin ag un neu ddau o anghenion yn unig, ond sy'n gallu dangos dealltwriaeth dda o beth yw'r anghenion hynny a pham maent yn bodoli, well cyfle o gyflawni'i ganlyniadau na phrosiect sy'n ceisio ymdrin ag ystod o anghenion ond yn cynnig ychydig iawn o ddadansoddiad ynglŷn â pham.
Tystiolaeth: sut ydych chi'n gwybod?
Sut ydych chi'n gwybod bod yr angen nas diwallir yn bodoli, a pham? Bydd yn rhaid i chi ddarparu peth tystiolaeth diweddar a pherthnasol. Gall hyn ddod o gyfuniad o ffynonellau, megis:
- gofyn i bobl sydd â phrofiad o'r angen
- eich profiad eich hun, neu'r hyn rydych wedi'i weld
- ymchwil i raddfa'r angen
- ystadegau lleol am boblogaeth yr ardal neu lefelau amddifadedd (o'r cyfrifiad, er enghraifft, neu arolygon eraill a mwy diweddar) neu ystadegau eraill
- mentrau awdurdodau lleol neu strategaethau partneriaeth rhwng gwasanaethau'r sector statudol a gwirfoddol sy'n bodoli oherwydd bod yr angen wedi'i adnabod ac mae tystiolaeth ohono.
Nid yw rhai o'r grwpiau mwyaf anghenus yn ymgysylltu â gwasanaethau ac felly gallai tystiolaeth gyfredol neu ddiweddar o'u hanghenion fod yn anoddach i gael gafael arnynt.
Yn gyffredinol bydd y cyfnod amser a dreuliwch yn ymchwilio i angen yn gymesur â maint eich prosiect. Er enghraifft, bydd angen i brosiectau mwy ddangos sut mae eu prosiect yn cyfateb i strategaethau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol a'r dystiolaeth y maent yn seiliedig arni.
Os oes angen mwy o gymorth arnoch, edrychwch ar y dudalen Cymorth wrth Ddiffinio Angen.
1Addaswyd o: Sinking & Swimming: Understanding Britain's Unmet Needs. Sefydliad Young 2010
2Addaswyd o: Deep and persistent exclusion: interrogating the idea of the "bottom 2.5%" Sefydliad Young 2008.