Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Dysgu o'ch prosiect

Mae'n bwysig dysgu o'ch profiad

Mae dysgu o'ch prosiect yn bwysig gan ei fod yn eich galluogi i:

  • ymchwilio i'r rhesymau pam mae pethau'n gweithio'n dda (neu pam nad ydynt yn gweithio'n dda) a gwneud newidiadau i'ch helpu i gyflawni eich canlyniadau
  • casglu gwybodaeth am effaith eich prosiect a fydd yn eich helpu i adrodd i arianwyr ac eraill am sut mae eich prosiect yn perfformio a sut rydych wedi'i addasu i amgylchiadau newidiol
  • siarad am eich effaith, eich cyflawniadau a'ch profiad a darparu tystiolaeth ohonynt, a nodi arfer da
  • creu diwylliant o fyfyrio a dadansoddi o fewn eich mudiad sy'n helpu pobl i wella ansawdd eu gwaith

Ynglŷn â gwerthuso a hunanwerthuso

Efallai eich bod yn casglu gwybodaeth yn rheolaidd i wirio sut gynnydd mae eich prosiect yn ei wneud. Bydd yr wybodaeth fonitro hon yn eich helpu i wirio cynnydd yn erbyn cynlluniau cytunedig, ac mi fydd yn ddefnyddiol o ran adrodd yn ôl i eraill yn eich mudiad ac i ymddiriedolwyr ac arianwyr. Efallai y byddwch hefyd am ateb cwestiynau allweddol, er enghraifft sut a pham y cyflawnwyd rhai canlyniadau penodol. Bydd hyn yn golygu dod â’ch gwybodaeth fonitro ynghyd a chasglu gwybodaeth ychwanegol, ei dadansoddi ac yna myfyrio arni a dysgu o'ch canlyniadau. Fel arfer gelwir hyn yn hunanwerthuso.

Mae gwerthuso’n mynd ymhellach ac yn ddyfnach na monitor. Mae gwerthuso’n ymchwilio i sut a pham y cyflawnwyd canlyniadau penodol (neu beidio fel y bo’n berthnasol). Mae hefyd yn ymchwilio i faterion ansawdd a gwerth, gan ofyn yn bwysicach: Beth oedd gwerth ac arwyddocâd y prosiect i’r sawl y bwriadwyd iddo gael effaith arnynt (ac eraill yr effeithiwyd arnynt)? Bydd hefyd, o bosib, yn adnabod canlyniadau ychwanegol ac annisgwyl yn sgil y prosiect.

Un ffordd o nodi'r gwahaniaeth rhwng monitro a gwerthuso yw eu hystyried yng nghyd-destun taith mewn car:

"Mae monitro'n casglu gwybodaeth ar faterion megis cyflymder cyfartalog, pellter a deithiwyd, tanwydd a ddefnyddiwyd, a yw'r daith yn dilyn y llwybr a gynlluniwyd ac a yw ar amser. Mae'r canlynol ymysg y cwestiynau y gellid eu gofyn fel rhan o werthuso â ai'r llwybr gorau oedd y llwybr a ddilynwyd, a fyddai'n well mynd ar y trên, a oedd hi'n werth mynd ar y daith yn y lle cyntaf." Scottish Homes, 1991

I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio’r ddysg yn sgil eich prosiect, gweler canllaw y Gronfa Loteri Fawr, Deall hunanwerthuso

Mwy o wybodaeth am fuddion dysgu a sut i ddefnyddio dysgu i wella eich prosiect

ADBORTH