Gall dysgu seiliedig ar ganlyniadau gryfhau eich mudiad drwy eich galluogi i adolygu eich gwaith yn effeithiol gan ddefnyddio tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio sydd, yn ei dro, yn eich cefnogi i wella a mireinio'r gwasanaethau a ddarparwch. Gall eich helpu i nodi ymagweddau blaengar a chyfrannu at eich adroddiadau blynyddol i fudd-ddeiliaid.
Gall dysgu o ganlyniadau eich prosiect a sut y cyflawnwyd y rhain gyfeirio cynllunio strategol a phrosesau rhoi ar waith ac adolygu eich mudiad. Gall dysgu o sut rydych yn cyflawni eich canlyniadau ddarparu trosolwg o sut rydych yn cynllunio ac yn gweithredu'n fewnol neu'n gweithio gyda phartneriaid allanol.
Defnyddiwch eich gwybodaeth ganlyniadau i amlygu eich llwyddiant. Gallech ddosbarthu crynodeb o'ch canlyniadau a dysgu allweddol i brosiectau a mudiadau eraill rydych yn gwybod amdanynt, ei ddarparu i'ch buddiolwyr, neu ei ddefnyddio i ymgeisio am ariannu, parhau â’ch prosiect neu ei ddatblygu. Gall hyd yn oed ddysgu o'r hyn nad yw'n gweithio neu o ganlyniadau annisgwyl fod yn hynod werthfawr o ran datblygu ymagweddau newydd neu gyfrannu at ddatblygiadau a chyd-drafodaeth bolisi.