Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Defnyddio dysgu i wella eich prosiect

Nid yw adrodd bob amser yn ddigon
Er y gall fesur cynnydd, ni fydd bob amser yn esbonio pam mae eich prosiect wedi perfformio'n dda, neu heb berfformio'n dda. Felly mae'n hanfodol edrych y tu hwnt i'r ffigurau (ac yn benodol y rhai annisgwyl) er mwyn i chi geisio deall beth sydd wedi digwydd. Dylech sicrhau eich bod yn cymryd amser i ystyried yr hyn y mae'r canfyddiadau'n ei ddweud wrthych a p'un a oes rhaid i chi gymryd camau i wella eich prosiect, neu p'un a ydynt yn codi materion y dylech ymchwilio ymhellach iddynt.

Gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwch wrth i chi ddatblygu strategaethau a gall eich helpu i asesu cynnydd wrth gyflawni eich amcanion strategol a gweithredol. Gall gwybodaeth am eich canlyniadau eich helpu i wneud eich gwaith yn fwy effeithiol, drwy eich helpu i nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y gallech ei newid neu ei wella. Os nad ydych yn cyflawni'r canlyniadau disgwyliedig, gall fod angen i chi:
  • ystyried darparu gwasanaethau gwahanol, neu'r un gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol, er mwyn cyflawni canlyniadau gwell
  • ailystyried canlyniadau eich prosiect
  • ailystyried nod eich prosiect
  • ailystyried sut y gall pobl hygyrchu eich gwasanaethau
  • ceisio ariannu pellach er mwyn i chi gyflwyno gwasanaethau'n well
Gall fod yn ddefnyddiol gwahaniaethu rhwng grwpiau gwahanol o fuddiolwyr, a chasglu gwybodaeth am ganlyniadau mewn ffordd sy'n rhoi cyfle i chi gofnodi a dadansoddi math a lefel y canlyniad a gyflawnir gan y grwpiau gwahanol hyn. Bydd hyn yn eich helpu i ateb cwestiynau megis:
  • Ydy pobl ifanc dan 15 oed yn cyflawni gwell canlyniadau na'r rhai dros 15 oed?
  • Ydy dynion yn cyflawni gwell canlyniadau na menywod?
Os oes pryderon ynglŷn â’ch cynnydd, mae bob amser yn fuddiol cyd-drafod y rhain gyda ni neu eich arianwyr eraill ac, o ddewis, cyn y terfyn amser adrodd. Mae'n well dangos eich bod wedi ystyried unrhyw broblemau, pam maent wedi codi a'r hyn y gallwch ei wneud amdanynt. Weithiau mi fydd ffactorau allanol nad oedd modd i chi eu darogan ac sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth. Neu efallai y byddwch yn gweld bod rhai agweddau ar eich gwaith yn profi'n annisgwyl o boblogaidd ac yn fwy llwyddiannus na rhai eraill. Fel arfer byddwn am weithio gyda chi i ddelio â’r annisgwyl ac mae'n bosib y byddwn yn hapus i gyd-drafod newidiadau i ganlyniadau cytunedig.
ADBORTH