Mae gweithgareddau yn:
- pennu'r hyn a gaiff ei wneud, sut y caiff ei wneud, pwy fydd yn ei wneud a phryd er mwyn cyflawni eich canlyniadau
- ffurfio prif gynnwys cynllunio eich prosiect
- pennu'r adnoddau a'r gyllideb y mae eu hangen arnoch i redeg eich prosiect.
Ar ôl i chi adnabod y newidiadau rydych am eu cyflawni, gallwch gynllunio nawr sut i beri iddo ddigwydd. Y gweithgareddau yw'r tasgau, y camau gweithredu a'r gwasanaethau a fydd yn creu'r newidiadau y bydd eich prosiect yn eu cyflwyno. Nhw yw craidd proses gynllunio'r prosiect, gan nodi'r hyn a fydd yn digwydd, sut bydd yn digwydd, pwy fydd yn ei wneud a phryd. Dylai fod mai'r rhain yw'r ffordd fwyaf priodol ac effeithiol o fynd i'r afael â'r angen/anghenion y mae'r prosiect yn ymdrin ag ef/â nhw.
Disgrifir gweithgareddau orau gan ddefnyddio geiriau gweithredu i ddisgrifio'r hyn y bydd y sawl sy'n gweithio ar y prosiect yn ei wneud mewn gwirionedd, megis: darparu, rhedeg, trefnu, neu gynhyrchu.
Yng ngham cynllunio cychwynnol y prosiect, (er enghraifft wrth ddefnyddio'r triongl cynllunio), mae gweithgareddau wedi'u nodi orau ar lefel fras drwy ystyried y ffordd orau o gyflawni'r canlyniadau, cyn symud ymlaen i bennu lefelau ac amserlenni gweithgareddau.
Pan fyddwch yn cyrraedd cam cynllunio manwl y prosiect (er enghraifft, cyn i chi baratoi eich cais am arian), dylai'r gweithgareddau fod yn rhai penodol a mesuradwy, felly yn hytrach na nodi "sgyrsiau yn y ganolfan gymunedol" yn unig, dylech bennu rhywbeth fel "un sgwrs yn y ganolfan gymunedol bob mis am ddwy flynedd, gyda phob un yn denu 30 o bobl ifanc ar gyfartaledd".
Po fwyaf penodol yw'r gweithgareddau, mwyaf fydd eich cywirdeb wrth bennu eich cyllideb a chynllunio eich adnoddau.