Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiect gwasanaeth cynghori

Angen

Mae pobl yn yr ardal wledig hon yn ei chael hi'n anodd ddod o hyd i gyngor ar eu hawliau, yn enwedig pobl ar incwm isel. Mae hyn am nifer o resymau, gan gynnwys: lefelau hyder, lefelau llythrennedd, lefelau dealltwriaeth gwael ynglŷn â hawliau cyn cyrraedd pwynt argyfwng, diffyg cludiant fforddiadwy i wasanaethau lleol, diffyg amser neu ofal plant tra'n gwneud dwy swydd, problemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â diweithdra. Mae problemau ariannol a dyled yn achosi straen sy'n effeithio ar ansawdd bywyd ac iechyd meddwl buddiolwyr.

Tystiolaeth

Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.

  • Mae adborth a roddwyd i asiantaethau'r sector gwirfoddol gan 200 o gleientiaid a gasglwyd gan Gyngor ar Bopeth Chesterton yn 2010 a 2011 yn cynnwys gwybodaeth am y math o gyngor a dderbyniwyd yn flaenorol ac i ba raddau yr oedd yn ddefnyddiol, y prif anawsterau wrth hygyrchu gwasanaethau cyngor a sut y cafodd eu goresgyn.
  • Cadarnhaodd adolygiad o wasanaethau yn yr ardal yn ystod 2010 a 2011 gan Gyngor Swydd Derby fod pobl yn ei chael hi'n anodd ddod o hyd i gyngor ar eu hawliau, yn enwedig pobl ar incwm isel.
  • Ym mis Mehefin 2011, casglodd Cyngor Swydd Derby adborth gan grŵp ffocws o fudd-ddeiliaid lleol gan gynnwys 10 person lleol, 5 aelod o staff yr asiantaeth gynghori a 2 gyfreithiwr o'r cylch i siarad am atebion posib i'r bwlch mewn gwasanaethau. Daeth i'r casgliad fod angen estyn gwasanaethau presennol i ardaloedd gwledig ac y dylent fod yn haws i'w hygyrchu.
  • Dros y chwe mis diwethaf, mae asiantaethau cynghori yn Swydd Derby wedi adrodd am gynnydd o 30% mewn ymholiadau a rhestr aros o 40 o gleientiaid.
  • Cynhaliwyd arolwg o 110 o bobl nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau hawliau gan Top Survey UK ym mis Ionawr 2012. Fe'u cyrhaeddwyd trwy wasanaethau lleol eraill megis yr asiantaeth fudd-daliadau, cylchoedd chwarae, ffederasiwn tai ac ati Darparodd hyn wybodaeth am y mathau o gyfathrebu a fyddai'n gweithio orau i'w helpu i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau a'r prif rwystrau a allai eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaethau hynny.
  • Dangosodd grwpiau ffocws a gyflawnwyd gan CAB Chesterton ym mis Chwefror 2012 gyda 30 o ddarpar fuddiolwyr fod angen cymorth arnynt gyda rheolaeth ariannol, dyledion a lles gan fod y materion hyn yn peri straen a phryder iddynt a oedd yn effeithio ar ansawdd eu bywydau.
  • Mae meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol yn Swydd Derby wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n profi straen yn 2011 oherwydd eu sefyllfa ariannol ac yn adrodd nad ydynt yn gwybod at ba asiantaethau i'w cyfeirio.
  • Mae Strategaeth Cymunedau Cynaliadwy Cyngor Swydd Derby 2011/12 (gweler Pennod 2: Argymhellion) yn cyfeirio at yr angen am ganolbwyntio ar wella mynediad i gyngor a chefnogaeth ar gyfer grwpiau bregus.

Nod cyffredinol y prosiect

Mae pobl mewn aelwydydd ag incwm isel yn y rhan wledig hon o'r ardal yn cael gwell ansawdd bywyd o ganlyniad i well mynediad i gyngor o safon dda sy'n seiliedig ar hawliau.

Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect

  • Incwm cynyddol ar gyfer pobl ar incwm isel o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau cynghori a fydd yn gwella'u lles economaidd
  • Gallu cynyddol gwasanaethau cynghori i ymdrin â chleientiaid gwahanol mewn ardaloedd gwledig, gan ddarparu gwell mynediad i gyngor i bobl ar incwm isel
  • Mae pobl ar incwm isel yn profi llai o straen a phryder, o ganlyniad i gyngor ariannol sy'n arwain at les cynyddol

Tracio cynnydd

Canlyniad

Dangosydd

Lefel y Dangosydd

Amserlen

Incwm cynyddol ar gyfer pobl ar incwm isel o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau cynghori a fydd yn gwella'u lles economaidd

Swm y lles newydd a gynhyrchir gan y prosiect ar gyfer y rhai ar incwm isel

Mae 15 ym mlwyddyn un a 30 ym mhob blwyddyn ddilynol yn dangos incwm cynyddol o ganlyniad i'r cyngor a roddwyd

Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect

Mae 15 ym mlwyddyn un a 30 ym mhob blwyddyn ddilynol yn hygyrchu o leiaf un budd-dal newydd o ganlyniad i'r cyngor a roddwyd

Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect

At ei gilydd mae 95 o ddefnyddwyr gwasanaeth ar incwm isel yn adrodd am incwm cynyddol o ganlyniad i gyngor a roddwyd

Erbyn diwedd y prosiect

Gallu cynyddol gwasanaethau cynghori i ymdrin â chleientiaid gwahanol mewn ardaloedd gwledig, gan ddarparu gwell mynediad i gyngor i bobl ar incwm isel

Nifer y cleientiaid newydd  sy'n cael eu gweld gan wasanaethau cynghori

Mae 100 ym mlwyddyn un a 150 ym mhob blwyddyn ddilynol yn hygyrchu'r gwasanaeth mwy nag unwaith

Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect

Mae 100 o gleientiaid newydd bob blwyddyn yn cael eu cyfeirio i'r gwasanaeth

Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect

Mae'r gwasanaeth cynghori'n cynnig cyngor i gyfanswm o 425 yn fwy o gleientiaid ar incwm isel mewn ardaloedd gwledig

Erbyn diwedd y prosiect

Mae pobl ar incwm isel yn profi llai o straen a phryder, o ganlyniad i gyngor ariannol sy'n arwain at les cynyddol

Lefelau straen yn cael eu lleihau trwy hygyrchu cyngor yn rheolaidd

Mae 15 ym mlwyddyn un a 30 ym mhob blwyddyn ddilynol yn adrodd am lefelau is o straen a phryder o ganlyniad i hygyrchu'r gwasanaeth

Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect

Mae 15 ym mlwyddyn un a 30 ym mhob blwyddyn ddilynol yn mynegi dangosyddion o les meddyliol gwell megis llai o ddiffyg cwsg, yfed alcohol a gostyngiad mewn ymweliadau â'r meddyg o ganlyniad i hygyrchu'r gwasanaeth

Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect

At ei gilydd mae 95 o ddefnyddwyr gwasanaeth ar incwm isel yn adrodd am les cynyddol o ganlyniad i gyngor a roddwyd

Erbyn diwedd y prosiect

Gweithgareddau

  • Recriwtio staff, cwblhau cynllun busnes a dechrau marchnata
  • Sesiynau cyngor ariannol galw heibio a gynhelir dwywaith yr wythnos
  • Cymorthfeydd allgymorth a gynhelir bob mis o fewn canolfannau iechyd a chymunedol yn yr ardal wledig leol
  • Recriwtio a hyfforddi 10 gwirfoddolwr i ddarparu cyngor i'w cymheiriaid
  • Asesu ansawdd y cyngor trwy adolygiadau gan gymheiriaid ac arolygon

Dysgu

Dysgodd y prosiect fod rhai ymagweddau penodol yn gweithio'n well na rhai eraill mewn lleoliadau gwahanol, felly cafodd y rhain eu teilwra yn ystod yr ail flwyddyn i fwyafu'r effaith. Roedd rhai grwpiau defnyddwyr gwasanaeth yn fwy tebygol o roi adborth na rhai eraill ynglyn â'r gwasanaeth, ac felly roedd angen adolygu dulliau ymgynghori er mwyn cyrraedd y defnyddwyr gwasanaeth ar yr ymylon.

ADBORTH