Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiect adeiladu cyfalaf

Angen

Mae angen darparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau cymunedol lleol ac annog gwell cyfranogiad cymunedol.
Mae angen gwell cyfleusterau ar y gymuned i hygyrchu'r gwasanaethau hyn. Mae'r neuadd bresennol mewn cyflwr gwael ac mae ganddi fynediad gwael i'r rhai sydd â phroblemau symudedd. Oherwydd ei chyflwr adfeiliedig, mae llawer o ddefnyddwyr presennol a photensial yn cael eu troi i ffwrdd. Mae hefyd yn rhy fach ar gyfer y galw presennol gyda lle i un gweithgaredd ar y mwyaf ddigwydd ar yr un pryd.

Tystiolaeth

Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.

  • Yn 2010 cynhaliodd Cymdeithas Gymunedol XYZ ymarfer ymgynghori yn y pentref a'r cylch ynglŷn â'r mathau o wasanaethau a gweithgareddau yr hoffai pobl gael mynediad atynt ynghyd â'u blaenoriaethau ar gyfer y math o gyfleuster y mae ei angen. Rhoddwyd holiadur i bob aelwyd yn y pentref a derbyniwyd cyfradd ymateb o 60%, gyda 95% o ymatebwyr o blaid neuadd wedi'i hadnewyddu a'i hestyn. Roedd llawer o drigolion yn pryderu bod pobl hŷn yn y pentref yn unig a heb fod ag unrhyw gyfleoedd cymdeithasol priodol yn lleol.
  • Nodwyd amrywiaeth o weithgareddau aml genhedlaeth trwy'r ymgynghoriad yn 2010, gan gynnwys ioga, cadw'n heini, grwpiau rhieni a phlant bach, addysg i oedolion ac amrywiaeth o grwpiau cerdd a dawnsio. Nid oes gan y neuadd bresennol y gallu na'r cyfleusterau i ddarparu ar gyfer llawer o'r rhain.
  • Mae gwybodaeth am batrymau o'r defnydd o neuaddau cymunedol a gasglwyd gan Gymdeithas Gymunedol XYZ yn datgelu bod y neuadd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan grwpiau niferus ac yn llawn dop o leiaf mis ymlaen llaw. Dim ond un grŵp ar y tro sy'n gallu defnyddio'r neuadd oherwydd ei dyluniad a'i chynllun gwael. Datgelodd hyn hefyd fod rhai grwpiau wedi'u tangynrychioli.
  • Nododd adborth a gafwyd gan Gymdeithas Gymunedol XYZ gan 70% o ddefnyddwyr presennol yn ystod 2011 yr angen am gyfleusterau gwell. Mae'r adeilad allan o ddefnydd yn aml oherwydd systemau awyru a gwresogi gwael.
  • Datgelodd ymchwil a gyflawnwyd yn y cylch gan Top Survey UK Ltd yn ystod y chwe mis cyn ein cais fod pum pentref allan o saith gerllaw heb feddu ar neuadd o gwbl neu y bu'n rhaid iddynt ei chau. Mae'r neuadd agosaf 20 milltir i ffwrdd gyda'i holl le yno wedi'i neilltuo.
  • Dengys data 2011 awdurdod lleol South Hams ar amddifadedd lefelau sylweddol o amddifadedd ac unigedd gwledig, a mynediad gwael i wasanaethau a chludant cyhoeddus (gyda chyfeirbwynt priodol e.e. gwefan). Mae Cymdeithas Gymunedol XYZ wedi ychwanegu at y data hwn gyda gwybodaeth briodol gan ddarparwyr gwasanaeth cyfredol yn South Hams er mwyn adnabod bylchau yn y ddarpariaeth.
  • Cynhaliodd Cymdeithas Gymunedol XYZ arfarniad opsiynau ym mis Chwefror 2012, gan edrych ar ystod o atebion gwahanol, gan gynnwys defnyddio cyfleusterau lleol eraill neu adeiladu neuadd newydd. Daeth yr arfarniad i'r casgliad mai adnewyddu ac estyn y neuadd bresennol yw'r ateb gorau.

Nod cyffredinol y prosiect

Darparu cyfleuster cymunedol a fydd yn cynnig ystod o wasanaethau a digwyddiadau cymunedol i gynyddu dinasyddiaeth weithredol a lleihau unigedd i drigolion lleol.

Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect

  • Mynediad gwell i ystod o wasanaethau cyfredol a newydd, gweithgareddau a digwyddiadau gan drigolion lleol, gan arwain at welliannau amlwg mewn lles
  • Mae trigolion yn adrodd am ymdeimlad cynyddol o gymuned trwy fod â chyfranogiad cynyddol mewn cyfarfodydd, gweithgareddau a phrosiectau lleol
  • mae trigolion hŷn  a mwy bregus yn teimlo'n llai unig trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol newydd.

Tracio cynnydd

Canlyniad

Dangosydd

Lefel y Dangosydd

Amserlen

Mynediad gwell i ystod o wasanaethau cyfredol a newydd, gweithgareddau a digwyddiadau gan drigolion lleol, gan arwain at welliannau amlwg mewn lles

Nifer y bobl sy'n elwa o hyfforddiant ieuenctid lleol, gofal iechyd a gwasanaethau hamdden seiliedig yn yr adeilad

Mae 100 o bobl newydd yn hygyrchu gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau

Erbyn diwedd blwyddyn un

Mae 200 o ddefnyddwyr newydd yn ymwneud â gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau bob blwyddyn

Erbyn diwedd blwyddyn dau a thri

Mae 550 o bobl yn adrodd am welliannau i'w lles o ganlyniad i gael mynediad i wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau

Erbyn diwedd y prosiect

Nifer y gwasanaethau/gweithgareddau newydd

Mae un gweithgaredd newydd a anelir at bobl hŷn yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno

Erbyn diwedd blwyddyn un

Mae un gweithgaredd newydd a anelir at bobl anabl yn cael ei ddatblygu a'i gyflwyno

Erbyn diwedd blwyddyn dau

At ei gilydd mae 10 gweithgaredd newydd a anelir at grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd (e.e. pobl hŷn, pobl anabl) yn cael eu datblygu a'u cyflwyno

Erbyn diwedd y prosiect

Mae trigolion yn adrodd am ymdeimlad cynyddol o gymuned trwy fod â chyfranogiad cynyddol mewn cyfarfodydd, gweithgareddau a phrosiectau lleol

Y nifer a'r ystod o bobl sy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus ac yn teimlo eu bod yn cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau

25 o bobl newydd ym mlwyddyn un a 35 ym mlwyddyn dau sy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus

Erbyn diwedd blwyddyn un a dau

Mae 70% (77) o bobl sy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn adrodd am deimlo eu bod yn cymryd rhan yn gynyddol wrth wneud penderfyniadau

 Erbyn diwedd y prosiect

Mae cyfanswm y bobl sy'n cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn cynyddu gan gyfanswm o 110 ac mae'n cynnwys pobl iau a phobl hŷn a'r rhai ag anableddau

Erbyn diwedd y prosiect

Mae trigolion hŷn a mwy bregus yn teimlo'n llai unig trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol newydd

Nifer y bobl sy'n adrodd am newidiadau cadarnhaol i'w bywydau cymdeithasol

Mae 20 o bobl hŷn a mwy bregus yn adrodd eu bod yn gadael y tŷ'n amlach

Bob blwyddyn

Mae 30 o bobl hŷn a mwy bregus yn adrodd eu bod wedi gwneud cyfeillion newydd

Bob blwyddyn

Mae 100 o bobl hŷn a mwy bregus yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig

Erbyn diwedd y prosiect

Gweithgareddau

  • Lansio adeilad mwy wedi'i adnewyddu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
  • Hyrwyddo a marchnata'r neuadd o fewn y pentref a'r pentrefi gerllaw
  • Darparu 12 o gyrsiau addysg a hyfforddiant oedolion newydd ynghyd â grŵp gweithgareddau cymdeithasol i bobl hŷn.
  • Dod o hyd i adborth gan 100 o ddefnyddwyr newydd a phresennol ar y neuadd newydd a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu.
  • O leiaf 20 o wirfoddolwyr a buddiolwyr lleol i gymryd rhan yn uniongyrchol wrth reoli a rhedeg yr adeilad a'r prosiect trwy grŵp llywio newydd.
  • Cynrychiolaeth ar y pwyllgor rheoli gan bobl leol a grwpiau sy'n defnyddio'r adeilad.
  • Ymgynghori a chyfranogiad cymunedol parhaus i ddigwydd yn y pentref lleol a'r cylch.

Dysgu

Dysgodd y prosiect nad oedd rhai grwpiau'n defnyddio'r adeilad o hyd - felly cyflawnwyd arolwg arall i gael gwybod pam ac er mwyn cyfeirio'r gwasanaethau a gynigir. Datgelodd y prosiect beth dysg diddorol am rwystrau i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau'n lleol a rannwyd gyda'r awdurdod lleol fel rhan o'i ymgynghoriad ar ei strategaeth cynnwys y gymuned.

ADBORTH