Angen
Mae angen ffyrdd effeithiol o fynd i'r afael â phroblemau sy'n effeithio ar fywydau trigolion yr ystadau tai lleol.
Tystiolaeth
Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.
- Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd rhwng cymdeithasau tenantiaid a thrigolion lleol yn 2010 a 2011 - mae cofnodion ar gael sy'n amlygu'r problemau a nodwyd, megis diffyg cydlyniant cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Ym mis Mehefin 2011 cynhaliwyd proses ymgynghori ym mhob ystâd gan Gymdeithas Hollybrush i adnabod anghenion pobl leol. Ymatebodd 200 o bobl i arolygon, gan amlygu pryderon megis pobl hŷn sy'n profi unigedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyfleoedd annigonol i leisio eu barn mewn materion lleol. Teimlodd trigolion nad oedd gwasanaethau a mudiadau lleol yn gwrando arnynt a gwneud digon i helpu gyda'r pryderon hyn.
- Helpodd ymgysylltu â'r gymuned leol a'r cyngor lleol gan Gymdeithas Hollybrush yn gynnar yn 2011 i ddatblygu syniadau a nodi camau gweithredu i greu strategaeth ar gyfer yr ardal. Cyflawnwyd hyn trwy gyfres o ddigwyddiadau celf a chymdeithasol cymunedol rhwng Mawrth a Rhagfyr 2011. Casglodd y broses hon syniadau dros y naw mis diwethaf gyda grwpiau presennol ac aelodau'r gymuned nad ydynt yn ymwneud â grwpiau ar hyn o bryd.
- Dilynwyd y digwyddiadau hyn gan grwpiau ffocws a redir gan Gymdeithas Hollybrush yn gynnar yn 2012 i greu map o'r strategaeth gyffredinol. Gofynnodd y broses am gyfraniadau gan 250 o bobl rhwng 8 ac 80 oed.
- Mae ystadegau'r Mynegai Amddifadedd Lluosog yn graddio'r ardal fel y 52il mwyaf difreintiedig allan o 354 awdurdod lleol yn Lloegr. Nododd Asesiad o Anghenion Tlodi Plant yr ardal fod un plentyn o bob pedwar yn byw mewn tlodi, gan ei graddio fel yr 2il fwyaf difreintiedig allan o 48 awdurdod lleol yn y rhanbarth. Mae'r asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd yn nodi problemau penodol sy'n gysylltiedig ag iechyd yn yr ardal, gan gynnwys gordewdra, deiet gwael a chyfraddau ymarfer corff isel, sy'n gysylltiedig ag incwm isel a diweithdra uchel.
- Mae'r prosiect yn gweddu'n glir i elfennau penodol o Strategaeth Cymunedau Cynaliadwy 2011/12 yr awdurdod lleol.
Nod cyffredinol y prosiect:
Lleihau unigedd a gwella ansawdd bywydau cymunedau eithriedig ar y ddwy ystâd a chynyddu cyfranogiad mewn rhwydweithiau a gweithgareddau lleol
Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect
- Mae trigolion lleol yn teimlo'n llai unig o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhwydweithiau neu weithgareddau cymdeithasol newydd
- Mae trigolion lleol yn teimlo bod ganddynt fwy o berchnogaeth ar eu cymuned leol, a mwy o lais ar faterion sy'n effeithio arnynt
- Mae gwasanaethau'n ymateb yn well ac yn meddu ar well dealltwriaeth o anghenion pobl leol, a fydd yn eu helpu i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau mwy priodol ar yr ystadau.
Tracio cynnydd
|
Canlyniad
|
Dangosydd
|
Lefel y Dangosydd
|
Amserlen
|
|
Mae trigolion lleol yn teimlo'n llai unig o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhwydweithiau neu weithgareddau cymdeithasol newydd
|
Nifer y prosiectau newydd a lefelau cymryd rhan
|
Sefydlwyd 3 phrosiect newydd
|
Erbyn diwedd blwyddyn dau
|
|
Mae 40 o bobl leol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Nifer sy'n teimlo'n llai unig
|
Mae 50 o bobl yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig trwy ymwneud â'u cymdogion a chymryd rhan mewn gweithgareddau
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae trigolion lleol yn teimlo bod ganddynt fwy o berchnogaeth ar eu cymuned leol a mwy o lais ar faterion sy'n effeithio arnynt
|
Nifer yr unigolion sy'n ymwneud â materion lleol
|
Mae 8 o bobl wedi dechrau ymwneud â fforymau a phartneriaethau lleol
|
Bob blwyddyn
|
|
Mae 10 o bobl wedi mynd yn 'eiriolwyr' cymunedol
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
At ei gilydd mae 23 aelod o'r gymuned ar yr ystadau'n teimlo'n fwy hyderus mewn rôl eiriolaeth
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae gwasanaethau'n ymateb yn well ac yn meddu ar well dealltwriaeth o anghenion pobl leol, a fydd yn eu helpu i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau mwy priodol ar yr ystadau
|
Y nifer sy'n defnyddio'r gwasanaethau
|
Mae sampl o 50 o bobl leol yn adrodd bod ganddynt well mynediad i wasanaethau lleol
|
Bob blwyddyn
|
|
Mae mudiadau'n adrodd am gynnydd 20 y cant yn y defnydd o wasanaethau lleol
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mudiadau sy'n adrodd am ddealltwriaeth well
|
Mae 18 o fudiadau lleol yn adrodd am ddealltwriaeth well o anghenion eu defnyddwyr trwy adborth o fforymau ac eiriolwyr cymunedol
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
Gweithgareddau
- Cynnal tri chyfarfod cymunedol ym mhob ystâd i gefnogi'r gymuned wrth nodi anghenion a rhedeg prosiectau
- Cyflawni gwaith adeiladu gallu, gan ddarparu chwe sesiwn hyfforddi, a chefnogaeth un i un ar gyfer 25 aelod o'r gymuned
- Helpu trigolion i sefydlu pum grŵp cymdeithasol ar bob ystâd
- Cyflawni gweithgareddau lobïo ac eiriolaeth a lledaenu gwybodaeth rhwng cymunedau a'r Cyngor
- Cynnal tri digwyddiad cymunedol ar bob ystâd
Dysgu
Archwiliodd y prosiect pa grwpiau o bobl oedd yn fwy tebygol o fod yn cymryd rhan, gan gymryd oedran, ethnigrwydd, rhyw ac anabledd i ystyriaeth. Yna cafwyd trafodaeth am sut i gynnwys y rhai sydd wedi'u tangynrychioli.