Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiect amgylcheddol

Angen

Mae angen mynd i'r afael â'r dirywiad yn fannau gwyrdd yr ardal er mwyn gwella lles trigolion yn gyffredinol a chefnogi'r economi leol (gallech ychwanegu nod amgylcheddol, er enghraifft gwella cynefinoedd lleol, os yw'n berthnasol i'ch prosiect)

Tystiolaeth

Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.

  • Mae Cyngor Dinas Y Drenewydd wedi derbyn cwynion trwy gydol 2010 a 2011 gan fusnesau a phobl leol ynglŷn â gordyfiant a sbwriel. Mae wedi clirio'r ardal i ryw raddau ond mae'r adnoddau sydd ar gael yn gyfyngedig.
  • Nododd digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd y llynedd gan New Growth Charity, y daeth 36 o bobl o'r gymuned leol a busnesau lleol iddo, feysydd o bryder a darparodd awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir mynd i'r afael â'r pryderon hyn
  • Cwblhaodd 120 o drigolion lleol arolwg a ddosbarthwyd gan Top Survey UK Ltd ym mis Tachwedd 2011. Dangosodd y canlyniadau fod gan 76% ddiddordeb mewn dysgu sgiliau newydd a bod 81% eisiau ymwneud yn fwy â chynnal a chadw mannau gwyrdd lleol a chymryd perchnogaeth arnynt.
  • Mae ystadegau 2010 yn cadarnhau gradd amddifadedd lluosog yr ardal mewn perthynas â chyflogaeth, sgiliau ac iechyd
  • Mae cofnodion cyfarfodydd aml-asiantaeth misol yn yr ardal trwy gydol 2010 a 2011 yn amlygu problemau fandaliaeth a thaflu sbwriel
  • Gwnaeth astudiaeth genedlaethol a gyflawnwyd gan Top Survey UK Ltd yn 2011 gyswllt rhwng lles cadarnhaol pobl a'r amgylchedd o'u cwmpas

Nod cyffredinol y prosiect

Gwella lles pobl yn yr ardal leol trwy weithredu amgylcheddol ymarferol, gan arwain at well cynefinoedd bywyd gwyllt lleol.

Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect

  • Mwy o gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol gan arwain at bobl leol yn dysgu sgiliau newydd
  • Gwell cyfranogiad cymunedol wrth reoli a chynnal a chadw mannau gwyrdd lleol, gan arwain at ostyngiad mewn fandaliaeth a thaflu sbwriel
  • Gwell amgylcheddau lleol gan arwain at ddefnydd cynyddol o fannau gwyrdd gan bobl leol a lles cynyddol yn y gymuned

Gwell amgylcheddau lleol gan arwain at ddefnydd cynyddol o fannau gwyrdd gan bobl leol a lles cynyddol yn y gymuned

Tracio cynnydd

Canlyniad

Dangosydd

Lefel y Dangosydd

Amserlen

Mwy o gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol gan arwain at bobl leol yn dysgu sgiliau newydd

Nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol ymarferol am y tro cyntaf a chaffael sgiliau newydd

Cyfranogiad gan bobl nad ydynt wedi ymwneud yn flaenorol â gweithgareddau amgylcheddol ymarferol: 50

Y flwyddyn

Pobl sy'n dysgu sgiliau trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol: 35

Y flwyddyn

Cyfranogiad gan bobl nad ydynt wedi ymwneud yn flaenorol â gweithgareddau amgylcheddol ymarferol: cyfanswm o 220, gyda chyfanswm o 50 sydd â diddordeb mewn parhau i gymryd rhan

Erbyn diwedd y prosiect

Gwell cyfranogiad cymunedol wrth reoli a chynnal a chadw mannau gwyrdd lleol, gan arwain at ostyngiad mewn fandaliaeth a thaflu sbwriel

Nifer y grwpiau cymunedol sy'n rheoli ac yn cynnal a chadw mannau gwyrdd gwell

Sefydlir 3 grŵp a arweinir gan y gymuned bob blwyddyn i gynnal a chadw ardaloedd

Erbyn diwedd bob blwyddyn

Mae 10 o bobl yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau newydd

Bob blwyddyn

Mae 100 o bobl sy'n cymryd rhan mewn arolwg yn teimlo y gallant leisio eu barn yn gynyddol mewn cynlluniau amgylcheddol lleol.

Erbyn diwedd y prosiect

Gwell amgylcheddau lleol gan arwain at ddefnydd cynyddol o fannau gwyrdd gan bobl leol a lles cynyddol yn y gymuned

Nifer ac ansawdd y llwybrau troed/ mannau gwyrdd

Mae dau lwybr troed/ man gwyrdd newydd wedi cael eu clirio ac yn cael eu defnyddio gan gerddwyr

Y flwyddyn

Mae 100 o bobl sy'n cymryd rhan mewn arolwg yn dweud bod ansawdd yr amgylchedd wedi gwella

Erbyn diwedd y prosiect

Mae pobl yn adrodd am les corfforol a chymdeithasol gwell

Mae 50 o unigolion yn adrodd am iechyd corfforol gwell trwy ddangosyddion megis cymryd rhan yn gynyddol mewn gweithgareddau iechyd a ffitrwydd a llai o ymweliadau â'r meddyg

Erbyn diwedd bob blwyddyn

Mae 35 o bobl yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig o ganlyniad i gymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol cymunedol

Bob blwyddyn

Mae 150 o bobl sy'n cymryd rhan mewn arolwg yn nodi eu bod yn teimlo'n dda o ran byw yn y gymuned

Erbyn diwedd y prosiect

Gweithgareddau

  • Datblygu wyth sesiwn gadwraeth gydag ysgolion yn yr ardal
  • Datblygu pum sesiwn gwybodaeth a chyngor mewn tri ward ar draws yr ardal
  • Cynnal 10 sesiwn ddysgu mewn tri ward ar draws yr ardal
  • Cynnal 5 niwrnod glanhau gyda phobl ifanc a phobl hŷn mewn tri ward
  • Sefydlu tri man tyfu llysiau cymunedol
  • Mynd ar dri ymweliad ag ardaloedd eraill i ddysgu o arfer da mewn lleoedd eraill
  • Clirio'r goed ac ailblannu ar bedwar safle ar draws yr ardal

Dysgu

Dysgodd y prosiect fod dau grŵp o bobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan:

  • y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth amser llawn yr oeddent eisiau gweithgareddau yn ystod y dydd, yn aml i ddarparu cyswllt cymdeithasol a datblygu sgiliau
  • y rhai sy'n gweithio, a gyda theuluoedd, sy'n ffafrio gweithgareddau penwythnos i'r teulu cyfan

Adolygwyd y mathau o weithgareddau cadwraeth i sicrhau bod rhywbeth ar gael i'w gynnig i'r ddau grŵp, a hyrwyddwyd y rhain drwy gylchlythyr yr ysgol leol a busnesau etc fel y bo'n briodol.

ADBORTH