Angen
Mae angen mwy o gyfleoedd integreiddio cymdeithasol hygyrch, lleol a fforddiadwy yn ystod y dydd ar bobl hŷn o leiafrifoedd ethnig.
Tystiolaeth
- Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.
- Mae adroddiadau 2010 a 2011 gan y mudiad Age Concern lleol wedi amlygu'r canlynol: Unigedd cynyddol pobl hŷn o gymunedau lleiafrifoedd ethnig nad Saesneg/Cymraeg yw eu hiaith gyntaf, lefelau uchel o amddifadedd ymysg y cymunedau hyn a gwasanaethau a chyfleusterau sy'n annigonol i'w cefnogi.
- Nododd cyfarfod ymgynghori a drefnwyd y llynedd gan Gymdeithas Cymunedau Actif ABC yr oedd 25 o bobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn bresennol ynddo, y byddent yn croesawu mwy o gyfleoedd am gyswllt cymdeithasol a gweithgareddau y tu allan i'r cartref i wella'u lles meddyliol a chorfforol.
- Ymgynghorwyd â 15 o ddarpar wirfoddolwyr o gymunedau BME lleol gan Gymdeithas Cymunedau Actif ABC yn hydref 2011 ynglŷn â'u cymhelliannau ar gyfer gwirfoddoli a'r hyn yr hoffent ei gael o'r prosiect. Dangosodd hyn eu bod nhw eisiau profiad gwaith a'r cyfle i ennill sgiliau a hyder.
- Chwe mis cyn y cais hwn cynhaliwyd arolwg gan Top Survey UK Ltd gyda phobl hŷn o leiafrifoedd ethnig nad ydynt eisoes yn rhan o grŵp cymdeithasol rheolaidd i gasglu gwybodaeth am ba fathau o wasanaethau y mae eu hangen arnynt a'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag hygyrchu gwasanaethau.
- Anfonwyd yr arolwg at 70 o aelwydydd pobl hŷn ac fe'u hargraffwyd mewn ieithoedd perthnasol, gyda chyfradd ymateb o 50%. Nododd y canfyddiadau yn sgil yr arolwg hwn fod pobl eisiau mwy o weithgareddau cymdeithasol ond eu bod yn profi rhwystrau iaith a diwylliannol i hygyrch gwasanaethau.
- Dangosodd ymgynghoriad Cyngor Westminster yn 2011 gyda 10 o fudd-ddeiliaid lleol fod mudiadau lleol eraill yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â phobl hŷn o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ethnig gan nad oeddent yn gallu darparu'r gefnogaeth sy'n ofynnol i oresgyn rhwystrau diwylliannol ac iaith.
- Dengys y rhagamcaniadau poblogaeth diweddaraf o awdurdod lleol Westminster ganran sy'n uwch na'r gyfartaledd o bobl hŷn BME yn yr ardal.
- Mae cynllun gweithredu diweddaraf yr awdurdod lleol (dyddiedig 2011/12) yn cynnwys blaenoriaeth o helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol ac yn eu cartrefi eu hunain.
Nod cyffredinol y prosiect
Gwella integreiddio cymdeithasol pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn y fwrdeistref trwy leihau unigedd a'u galluogi i gynnal eu hannibyniaeth.
Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect
- Mae pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig o ganlyniad i hygyrchu ystod o weithgareddau cymdeithasol.
- Mae pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn y fwrdeistref yn profi gwell lles seicolegol a chorfforol a fydd yn helpu i gynnal eu hannibyniaeth
- Mae gwirfoddolwyr y prosiect yn ennill hyder a sgiliau newydd a fydd yn cynyddu eu gallu i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth newydd
- Mae asiantaethau statudol a gwirfoddol lleol yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o'r rhwystrau diwylliannol ac iaith a wynebir gan bobl hŷn BME i'w helpu i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau mwy priodol yn ystod y dydd.
Tracio cynnydd
|
Canlyniad
|
<><><><>
>
Dangosydd |
<><><><>
>
Lefel y Dangosydd |
<><><><>
>
Amserlen |
<><><><>
>
<><><><>
>
| Mae pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig o ganlyniad i hygyrchu ystod o weithgareddau cymdeithasol |
<><><><>
>
Nifer y bobl hŷn o leiafrifoedd ethnig sy'n adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig
|
Mae 50 o bobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn hygyrchu gwasanaethau cymdeithasol newydd
Mae 65 o bobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn nodi eu bod wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd
At ei gilydd mae 150 o bobl hŷn lleiafrifoedd ethnig yn y fwrdeistref yn nodi eu bod yn teimlo'n llai unig
|
Erbyn diwedd bob blwyddyn
Erbyn diwedd bob blwyddyn
Erbyn diwedd y prosiect
|
<><><><>
>
| Mae pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn y fwrdeistref yn profi gwell lles seicolegol a chorfforol a fydd yn helpu i gynnal eu hannibyniaeth |
<><><><>
>
Y newid mewn teimladau pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig o ran eu lles seicolegol a chorfforol
|
Mae 10 ym mlwyddyn un a 25 ym mlwyddyn 2 a 3 yn dangos gwell iechyd trwy gymryd rhan yn gynyddol mewn gweithgareddau iechyd a ffitrwydd
Mae 25 o bobl hŷn yn mynd ar wibdeithiau dydd ac yn nodi eu bod yn teimlo'n fwy annibynnol ac yn hyderus wrth fynd allan a defnyddio cludiant
At ei gilydd mae 85 o bobl hŷn o leiafrifoedd ethnig yn nodi eu bod yn teimlo'n hapusach ac yn uwch eu cymhelliad
|
Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect
Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect
Erbyn diwedd y prosiect
|
<><><><>
>
| Mae gwirfoddolwyr y prosiect yn ennill hyder a sgiliau newydd a fydd yn cynyddu eu gallu i ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant , addysg neu gyflogaeth newydd |
<><><><>
>
Sgiliau a hyder gwirfoddolwyr
|
Mae 10 gwirfoddolwr yn dangos sgiliau sylfaenol uwch megis cynllunio, cyfathrebu a TG trwy fynd i sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr
Mae 10 gwirfoddolwr yn dangos gwell hyder trwy hwyluso sesiynau gweithgareddau ar gyfer buddiolwyr hŷn
Mae 30 o wirfoddolwyr wedi ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant, addysg a/neu gyflogaeth newydd
|
Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect
Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect
Erbyn diwedd y prosiect
|
<><><><>
>
| Mae asiantaethau statudol a gwirfoddol lleol yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o'r rhwystrau a wynebir gan bobl hŷn BME i'w helpu i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau mwy priodol yn ystod y dydd |
<><><><>
>
|
Datblygir 5 gwasanaeth sy'n ddiwylliannol briodol
Mae 7 asiantaeth yn adrodd am well dealltwriaeth o'r rhwystrau y mae pobl hŷn BME yn eu profi
|
Erbyn diwedd bob blwyddyn o'r prosiect
Erbyn diwedd y prosiect
|
Gweithgareddau
- Mae pobl hŷn yn derbyn o leiaf un ymweliad yr wythnos gan wirfoddolwyr bod yn gyfaill
- Cynnal clwb cinio bob wythnos ar gyfer o leiaf 30 o wirfoddolwyr
- 20 o fuddiolwyr i ddod i glybiau ymarfer corff a chyfrifiaduron bob wythnos
- Recriwtio, hyfforddi a datblygu15 gwirfoddolwr, y bydd y mwyafrif ohonynt yn medru siarad iaith ychwanegol berthnasol
- Cynnal pedwar digwyddiad/gweithdy ymwybyddiaeth ar gyfer darparwyr gwasanaeth dydd lleol yn y sector statudol a gwirfoddol
Dysgu
Dysgodd y prosiect fod lefelau ymwneud âr prosiect yn amrywio rhwng dynion a menywod - gan eu hysgogi i ddod o hyd i'r rheswm dros hynny ac i addasu ymagwedd y prosiect. Gwirfoddolodd nifer uwch o bobl na'r hyn a ddisgwyliwyd - gan helpu'r prosiect i ystyried estyn y gwasanaethau a gynigir a chynllunio at y dyfodol, ond rhoddodd hyn cryn bwysau ar adnoddau staff hefyd. Helpodd rhannu dysgu gyda mudiadau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg iddynt wella cydraddoldeb rhyw yn eu prosiectau a chynllunio'n well ar gyfer rolau rheoli gwirfoddolwyr.