Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiect pontio i gyflogaeth

Angen

Mae angen gwell mynediad ar bobl ag anableddau yn y dref i gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Tystiolaeth

Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.

  • Mae gan Gyngor Darlington ddata o 2010 a 2011 ar gyflogi pobl anabl sy'n dangos bod canran y bobl ag anableddau mewn cyflogaeth yn sylweddol is na'r boblogaeth yn gyffredinol. Dengys ymchwil ar draws y wlad a gyflawnwyd gan Top Survey UK Ltd yn 2011 fod pobl ag anableddau'n teimlo bod yna rhwystrau i hygyrchu cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Anfonwyd holiaduron gan Fforwm Cyflogadwyedd Darlington i gyfleusterau gofal dydd y llynedd. Dychwelwyr 30 o holiaduron a dangosodd y rhain yr hoffai 50% roi cynnig ar swydd ond eu bod ag ofn cymryd y cam cyntaf, yr hoffai 73% weithio mewn gweithle 'diogel' gyda grŵp o bobl anabl eraill, gydag 82% yn datgan yr hoffent gael mynediad i gwrs i'w helpu i ddod o hyd i swydd.
  • Datgelodd ymgynghori ag asiantaethau cyflogaeth lleol gan  Fforwm Cyflogadwyedd Darlington fod diffyg ymwybyddiaeth o rai o anghenion pobl ag anableddau ac nad oedd ganddynt yr adnoddau i ddarparu'r lefel o gefnogaeth sy'n ofynnol gyda'r grŵp targed hwn.
  • Mae'r angen am y prosiect yn cysylltu'n uniongyrchol â rhannau penodol o Strategaeth Byw'n Annibynnol y Llywodraeth a strategaeth gyflogaeth 2011/12 yr awdurdod lleol, sy'n amlygu'r angen am well mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl ag anableddau

Nod cyffredinol y prosiect

Gwella hunanhyder, hunan-barch a sgiliau cyflogadwyedd pobl ag anableddau trwy eu cefnogi i hygyrchu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect

  • Mae gan bobl ag anableddau hunanhyder cynyddol ac fe allant wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.
  • Mae gan bobl ag anableddau sgiliau cyflogadwyedd gwell.
  • Mae pobl ag anableddau'n ymwneud yn gynyddol â swyddi a chyfleoedd hyfforddi priodol.
  • Mae asiantaethau cyflogaeth a chyflogwyr lleol yn teimlo'n fwy gwybodus am anghenion cefnogaeth pobl ag anableddau ac yn teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chynnig cyfle hyfforddiant neu gyflogaeth iddynt.

Tracio cynnydd

Canlyniad

Dangosydd

Lefel y Dangosydd

Amserlen

Mae gan bobl ag anableddau hunanhyder cynyddol ac fe allant wneud dewisiadau mwy gwybodus am eu cyflogadwyedd yn y dyfodol

Lefelau hunanhyder cleientiaid

Mae 10 o gleientiaid yn cael swyddi fel gwirfoddolwyr ac maent yn ddigon hyderus i weithio'n annibynnol.

Bob blwyddyn o'r prosiect

Mae 20 o gleientiaid yn gwneud cynlluniau gweithredu cyflogaeth bersonol

Bob blwyddyn o'r prosiect

At ei gilydd bydd 125 o gleientiaid yn adrodd bod eu lefelau hunanhyder i holi ac ymgeisio am swyddi ac ymgymryd â chyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli wedi gwella

Erbyn diwedd y prosiect

Mae gan bobl ag anableddau sgiliau cyflogadwyedd gwell

Mae cleientiaid yn adrodd am sgiliau Iaith, Mathemateg a TG sylfaenol gwell ynghyd â sgiliau cadw amser a dibynadwyedd gwell

Mae staff y prosiect yn adrodd bod prydlondeb a dibynadwyedd wedi gwella ar gyfer cyfanswm o 25 o gleientiaid

Bob blwyddyn o'r prosiect

Dyfernir cymwysterau Sgiliau Sylfaenol i 90 o gleientiaid

Erbyn diwedd y prosiect

Mae 100 o gleientiaid yn adrodd bod ganddynt fwy o hyder yn eu sgiliau eu hunain a'u gallu i'w defnyddio mewn amgylchedd gwaith

Erbyn diwedd y prosiect

Mae pobl ag anableddau'n ymwneud yn gynyddol â swyddi a chyfleoedd hyfforddi priodol

Lefelau ymgymryd â hyfforddiant neu gyflogaeth

Mae 5 cleient yn ymgymryd â lleoliadau gwaith a gefnogir

Bob blwyddyn

Mae 20 o gleientiaid wedi cael swyddi

Erbyn diwedd y prosiect

Mae  50 o gleientiaid wedi manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant pellach

Erbyn diwedd y prosiect

Mae asiantaethau cyflogaeth a chyflogwyr lleol yn teimlo'n fwy gwybodus am anghenion cefnogaeth pobl ag anableddau ac yn teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chynnig cyfle hyfforddiant neu gyflogaeth iddynt

Mae nifer o asiantaethau'n adrodd am newidiadau cadarnhaol sy'n gwneud i bobl ag anableddau deimlo eu bod yn cael cefnogaeth well

Mae 8 o gyflogwyr ac asiantaethau lleol yn adrodd am ymagwedd well at bobl ag anableddau ac maent wedi gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle

Bob blwyddyn

Mae 15 yn fwy o leoliadau gwaith a gefnogir ar gael ar gyfer pobl ag anableddau

Erbyn diwedd y prosiect

Mae 100 o bobl ag anableddau'n adrodd eu bod yn cael eu cefnogi'n well yn y gweithle

Erbyn diwedd y prosiect

   

Gweithgareddau

  • Recriwtio dau weithiwr cefnogi
  • Sefydlu strwythurau gwaith partneriaeth gyda chyflogwyr lleol a'r awdurdod lleol
  • Darparu 3 diwrnod hyfforddi bob blwyddyn ar gyfer cyflogwyr lleol ac asiantaethau cyflogaeth
  • Darparu cefnogaeth i 20 o bobl ag anableddau i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli
  • Darparu 15 o gyfleoedd cyflogaeth a gefnogir mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol
  • Cynnal chwe chwrs mewn hyfforddiant teithio, cyllidebu, sefydlu cyfrif banc a chynllunio gyrfa
  • Cynnal pedwar cwrs TGCh
  • Cynnal tri chwrs chwe wythnos ar lunio CV, chwilio am swyddi a thechnegau cyfweliad

Dysgu

Nododd y prosiect fod cleientiaid yn fwy hyderus ac â sgiliau gwell, ond bod cyfleoedd cyflogaeth yn gyfyngedig. O ganlyniad i hyn datblygwyd maes gweithgaredd newydd, i weithio gyda chyflogwyr lleol i gynyddu cyfleoedd drwy gynllun 'profiad gwaith'.

ADBORTH