Angen
Mae angen gwell gwasanaethau cefnogi ar reolwyr elusennau lleol i gryfhau eu mudiadau er mwyn iddynt fodloni'r galw am wasanaethau'n well a chynrychioli anghenion cymuned wledig.
Tystiolaeth
Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.
- Cyflawnwyd arolwg lleol y llynedd gan Darryside Local Infrastructure Group gyda 30 o fudiadau SGCh. Nododd hyn yr angen am wasanaethau cefnogi gwell ar gyfer eu rheolwyr
- Amlygodd arolygon awgrymiadau staff o sampl o 10 SGCh ym mis Medi 2011 yr angen hwn hefyd
- Daeth 38 o bobl o ystod o fudiadau sy'n cynrychioli grwpiau SGCh i ddigwyddiad ymgynghori eleni a drefnwyd gan Darryside Local Infrastructure Group. Nododd yr ymgynghoriad hwn yr angen am gyfathrebu mwy effeithiol rhwng sectorau a diffyg gwybodaeth am strategaethau'r llywodraeth a gododd bryderon am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i gymunedau lleol
- Nododd ymchwil genedlaethol a gyflawnwyd gan Top Survey UK Ltd yng ngwanwyn 2011 broblemau o ran gallu yn y sector SGCh
- Mae'r angen am y prosiect yn dylanwadu'n glir ar elfennau penodol o fenter Gallu Cymunedol 2011 yr awdurdod lleol a'r isadeiledd rhanbarthol yn Strategaeth y Sector Gwirfoddol a Chymunedol (2011-15) Amlygodd y strategaethau hyn yr angen am gryfhau gallu grwpiau cymunedol lleol.
Nod cyffredinol y prosiect
Darparu gwasanaethau cefnogi a chyfleoedd cynrychioli gwell ar gyfer rheolwyr elusennau SGCh ar draws sir wledig i ddiwallu anghenion y gymuned leol yn well
Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect
- Mae mudiadau SGCh y sir yn fwy gwybodus am y gwasanaethau cefnogi sydd ar gael ac mae ganddynt well mynediad iddynt, gan eu galluogi i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer pobl leol
- Mae rheolwyr SGCh yn adrodd eu bod yn fwy hyderus, a gyda gwell gallu i ddiwallu anghenion eu cymunedau ar y pwynt cyswllt cyntaf.
- Mae gan reolwyr SGCh yr ardal sgiliau gwell o ran rheoli prosiectau, cyllid a staff a fydd yn gwella effeithiolrwydd eu mudiad
- Mae rheolwyr SGCh yn fwy hyderus ac yn gysylltiedig â rhwydweithiau lleol, gan arwain at gynrychiolaeth gynyddol o anghenion a blaenoriaethau gwledig mewn polisïau a strategaethau lleol
Tracio cynnydd
|
Canlyniad
|
Dangosydd
|
Lefel y Dangosydd
|
Amserlen
|
|
Mae mudiadau SGCh y sir yn fwy gwybodus am y gwasanaethau cefnogi sydd ar gael ac mae ganddynt well mynediad iddynt, gan eu galluogi i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer pobl leol
|
Lefel yr wybodaeth am wasanaethau cefnogi
|
Mae 12 mudiad SGCh yn y sir yn adrodd eu bod yn fwy gwybodus am y gwasanaethau cefnogi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sydd ar gael iddynt
|
Bob blwyddyn
|
|
Mae 15 o fudiadau SGCh yn adrodd am gynnydd sylweddol mewn mynediad i wasanaethau cefnogi
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae 20 o fudiadau'n ffurfio rhwydwaith cefnogi ac yn meddu ar wybodaeth gynyddol o'r gwasanaethau sydd ar gael ar draws y wlad
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Gwasanaeth mwy cynhwysfawr i bobl leol
|
Mae 20 o fudiadau SGCh yn adrodd am gynnydd o 100% yn nifer y cyfeiriadau a gyflawnir ar gyfer pobl leol
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae rheolwyr elusennau'n adrodd eu bod yn fwy hyderus, a gyda gwell gallu i ddiwallu anghenion eu cymunedau ar y pwynt cyswllt cyntaf
|
Lefelau hyder defnyddwyr y llinell gymorth
|
Mae 50 o ddefnyddwyr y llinell gymorth yn adrodd eu bod yn fwy hyderus wrth ymdrin â materion o fewn eu mudiad
|
Bob blwyddyn
|
|
Mae cynnydd o 25% yn y defnydd o'r llinell gymorth
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae arolwg o bobl sy'n defnyddio mudiadau SGCh y maent yn rhan o'r cynllun yn dangos yr oedd o leiaf 90% o ddefnyddwyr yn fodlon bod gwasanaethau wedi diwallu eu hanghenion yn dda
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae gan reolwyr elusennau yn yr ardal sgiliau gwell o ran rheoli prosiectau, cyllid a staff a fydd yn gwella effeithiolrwydd eu mudiad
|
Mae rheolwyr elusennau lleol wedi gwella'u sgiliau rheoli prosiectau, rheoli ariannol a rheoli staff
|
At ei gilydd mae 40 o reolwyr elusennau lleol wedi hygyrchu'r cynllun mentora cymheiriaid a/neu gyrsiau hyfforddi (12 ym mlwyddyn un, 14 ym mlwyddyn dau a thri)
|
Bob blwyddyn
|
|
Mae 12 o reolwyr elusennau lleol yn adrodd am gynnydd yn eu hyder o ran eu sgiliau rheoli eu hunain
|
Bob blwyddyn
|
|
Mae 12 o reolwyr elusennau lleol yn ymgeisio i wneud cymhwyster proffesiynol mewn rheoli
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
|
Mae rheolwyr elusennau yn fwy hyderus ac yn gysylltiedig â rhwydweithiau lleol, gan arwain at gynrychiolaeth gynyddol o anghenion a blaenoriaethau gwledig mewn polisïau a strategaethau lleol
|
Cyfranogiad cynyddol mewn datblygu strategaethau a pholisïau gwledig
|
Mae 20% o reolwyr elusennau (24 o bobl) yn cynyddu/dechrau eu cyfranogiad mewn cyfarfodydd rhwydweithiau gwledig
Mae 70% o reolwyr (80 o bobl) yn adrodd eu bod yn teimlo'n fwy gwybodus am bolisïau a strategaethau lleol
|
Erbyn diwedd y prosiect
|
Gweithgareddau
- Sefydlu llinell gymorth dros y ffôn i roi cyngor ar ystod helaeth o faterion, gan gynnwys recriwtio, iechyd a diogelwch, rheoli staff, rheolaeth ariannol a rheoli prosiectau
- Marchnata rhwydweithiau a fforymau lleol
- Sefydlu gwasanaeth mentora cymheiriaid gydag wyth o gyfranogwyr
- Datblygu pecynnau hunangymorth a chanllawiau cyfeirio wedi'u teilwra a'u dosbarthu i 50 o elusennau lleol
- Cyflwyno hyfforddiant i 15 o reolwyr elusennau lleol
- Cynnal cynhadledd flynyddol gyda 40 o elusennau lleol
- Sefydlu grŵp llywio rhyng-asiantaeth i gwrdd bob chwarter
- Cynhyrchu diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd a phenderfyniadau strategaeth/polisi rhanbarthol newydd
Dysgu
Erbyn diwedd blwyddyn dau, dysgodd y prosiect fod 15 o reolwyr elusennau lleol (50%) wedi nodi meysydd ar gyfer gwelliant trefniadaethol o ganlyniad i fentora cymheiriaid, ond dim ond un o'r rhain oedd wedi rhoi newid ar waith. Yna ffoniwyd rhai o'r sawl nad ydynt yn rhoi'r newid ar waith; datgelodd hyn fod hyn yn aml oherwydd gwrthwynebiad gan y pwyllgor ymddiriedolwyr/rheolwyr. Arweiniodd hyn at gynllunio prosiect newydd ar ddatblygu ymddiriedolwyr.