Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Prosiect lles

Angen

Mae angen gwell darpariaeth chwarae a mwy o gyfleoedd i rhyngweithio â phlant eraill ar blant ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn y ddinas. Mae rhieni a gofalwyr yn teimlo'n unig ac fe hoffent gael mwy o gyswllt gyda rhieni plant eraill ag ASA.

Tystiolaeth

Mae'r wybodaeth a ddarperir isod yn enghraifft. Wrth gyfeirio at ymgynghori neu ymchwil, dylech gynnwys dyddiadau i ddangos pryd y digwyddodd (yn ddelfrydol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau ei fod yn ddiweddar) ac i egluro ffynhonnell y dystiolaeth.

  • Cyflawnodd y cwmni Play for Kids ymgynghoriad mewn digwyddiad i fudd-ddeiliaid ym mis Mehefin 2011. Nododd 50 o rieni i blant ag awtistiaeth fod yna ychydig iawn o ddarpariaeth chwarae yn yr ardal ac o ganlyniad i hynny roedd ganddynt bryderon am sgiliau cymdeithasol a rhyngweithio eu plant. Mynegodd rhieni bryderon hefyd ynghylch rhwydweithiau cefnogi cyfyngedig
  • Mae archwiliad o ddarpariaeth chwarae bresennol a gwblhawyd ym mis Tachwedd 2011 gan Gyngor Millnock yn nodi'r diffyg darpariaeth mewn cyfleusterau i blant ag ASA.
  • Mae ymchwil o Brifysgol Newcastle wedi nodi bod gan blant ag ASA well ansawdd bywyd pan fyddant yn rhyngweithio â chymheiriaid heb ASA, ac mae rhieni'n teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth trwy ryngweithio gyda rhieni plant eraill ag ASA.
  • Ymgynghorwyd ag 20 o staff a gwirfoddolwyr mewn ysgolion cynradd ac arbennig lleol, gwirfoddolwyr ar gynlluniau chwarae a cheidwaid chwarae gan Play For Kids Company ym mis Ionawr 2012 ynglŷn â'u hyder wrth oruchwylio plant ag ASA i ryngweithio â'u cymheiriaid a darparu cyngor i rieni ar chwarae integredig. O'r rhai yr ymgynghorwyd â nhw, dywedodd 16 y byddent yn gwerthfawrogi mwy o gyngor ac arweiniad ar y mater.
  • Adlewyrchir yr angen am y prosiect mewn rhannau penodol o strategaeth Gwerthfawrogi Pobl y llywodraeth, sydd â'r nod o wella cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu.

Nod cyffredinol y prosiect

Cynyddu mynediad i ddarpariaeth chwarae ar gyfer plant ag ASA a chaniatáu i blant ag ASA integreiddio â'u cymheiriaid (heb ASA) ac elwa o gefnogaeth a gwasanaethau arbenigol

Canlyniad(au) ar gyfer y prosiect

  • Mae gan blant ag ASA well hyder a sgiliau cymdeithasol, gan ganiatáu gwell integreiddio â'u cymheiriaid
  • Mae gan staff a gwirfoddolwyr well dealltwriaeth o'r anawsterau y mae plant ag ASA yn eu hwynebu ac maent yn fwy hyderus wrth ddarparu arweiniad i rieni a gofalwyr
  • Mae rhieni plant ag ASA yn teimlo'n llai unig ac wedi'u cefnogi'n well trwy rannu eu profiadau

Tracio cynnydd

Canlyniad

Dangosydd

Lefel y Dangosydd

Amserlen

Mae gan blant ag ASA well hyder a sgiliau cymdeithasol, gan ganiatáu gwell integreiddio â'u cymheiriaid

Nifer y plant ag ASA sy'n rhyngweithio'n gynyddol â'u cymheiriaid ac sy'n dangos mwy o hyder

Nifer y plant sy'n rhyngweithio'n gynyddol â'u cymheiriaid yn ôl arsylwadau gan staff: 15

Bob blwyddyn

Nifer y plant  â hyder a sgiliau cymdeithasol cynyddol yn ôl arsylwadau gan staff: 10

Erbyn diwedd blwyddyn dau

Cyfanswm nifer y plant sy'n rhyngweithio'n gynyddol â'u cymheiriaid yn ôl arsylwadau gan staff: 45

Erbyn diwedd y prosiect

Mae gan staff a gwirfoddolwyr well dealltwriaeth o'r anawsterau y mae plant ag ASA yn eu hwynebu ac maent yn fwy hyderus wrth ddarparu arweiniad i rieni a gofalwyr

Lefelau dealltwriaeth staff a gwirfoddolwyr ynglŷn â'r anawsterau y mae plant ag ASA yn eu hwynebu

5 aelod o staff a chynrychiolwyr 3 budd-ddeiliaid yn adrodd am ddealltwriaeth gynyddol o'r problemau y mae plant ag ASA yn eu hwynebu

Bob blwyddyn

Mae 15 o staff a chynrychiolwyr 9 budd-ddeiliad yn adrodd eu bod yn teimlo'n fwy hyderus wrth gynghori rhieni a gofalwyr

Erbyn diwedd y prosiect

Mae rhieni plant ag ASA yn teimlo'n llai unig ac wedi'u cefnogi'n well trwy rannu eu profiadau

Lefelau cefnogaeth ar gyfer rhieni plant ag ASA

Mae 12 rhiant i blant ag ASA yn ymwneud â grwpiau cefnogi cymheiriaid

Bob blwyddyn

Mae 24 rhiant i blant ag ASA yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig

Erbyn diwedd y prosiect

Mae cyfanswm o 35 o rieni i blant ag ASA yn adrodd y teimlant eu bod yn cael mwy o gefnogaeth

Erbyn diwedd y prosiect

Gweithgareddau

  • Recriwtio a hyfforddi staff
  • Sefydlu canolfan chwarae a gosod cyfarpar
  • Cynnal digwyddiad lansio gyda 5 mudiad budd-ddeiliaid a 30 o rieni
  • Cynnal 4 seminar y flwyddyn i rieni
  • Darparu hyfforddiant i ddau o rieni bob blwyddyn ar sefydlu grwpiau cefnogi cymheiriaid
  • Cynnal tair sesiwn cynyddi ymwybyddiaeth gyda gwirfoddolwyr, staff a budd-ddeiliaid, gan gynnwys ysgolion, cynlluniau chwarae a cheidwaid chwarae

Dysgu

Erbyn diwedd blwyddyn un nododd y prosiect mai dim ond ychydig o blant heb ASA oedd yn mynd i'r cyfleusterau chwarae ac felly nid oedd yn bosib cyflawni'r canlyniad o gynyddu rhyngweithio â chyfoedion. Ym mlwyddyn dau rhoddwyd blaenoriaeth i farchnata'r ddarpariaeth chwarae i amrywiaeth eang o rieni yn ogystal ag annog brodyr a chwiorydd plant ag ASA i ddod lle bo'n briodol.

ADBORTH