Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Offer cynllunio prosiectau

Mae'r Gronfa wedi ariannu offer canlyniadau

Triongl Cynllunio CES

Gall Triongl Cynllunio CES eich helpu i drafod a chofnodi'r hyn yr ydych eisiau ei newid a sut y byddwch yn ei wneud, ac yna'n rhoi cyfle i chi brofi pa mor realistig y mae eich cynlluniau.

Gallwch lawrlwytho templed o'r triongl ar waelod y dudalen.

Seren Ganlyniadau (Triangle Consulting)

Sêr Canlyniadau (Outcomes Stars)

Set o offer sy'n cefnogi ac yn mesur newid wrth weithio gyda phobl dros amser.

Gall defnyddio'r offer hyn symbylu gweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth, helpu i greu cynllun cefnogi a darparu tystiolaeth o ganlyniadau ar draws prosiect neu fudiad. Mae fersiynau ar-lein yn cynnig y potensial i feincnodi. Mae'r rhan fwyaf o fersiynau ar gael i'w defnyddio am ddim ar ffurf copi caled, gyda ffi bach am drwydded ar gyfer fersiynau ar-lein.

SOUL Record

SOUL record

Pecyn offer mesur canlyniadau meddal yr ymchwilir iddynt ac a ddatblygir gan gonsortiwm o Sector Gwirfoddol Swydd Norfolk a'r Ganolfan Ymchwil.

Mae'r pecyn offer yn helpu i fesur cynnydd canlyniadau meddal a dysgu anffurfiol, megis cynnydd mewn hyder, hunan-barch a chymhelliad. Fe'i rhennir i adrannau sy'n berthnasol i oedolion, plant a phobl ifanc. Mae'n defnyddio tair prif fethodoleg: holiaduron sy'n canolbwyntio ar atebion, taflenni gwaith un i un a thechnegau arsylwi.

Rickter Scale (The Rickter Company)

The Rickter Scale

Offeryn mesur canlyniadau meddwl.

Mae'n broses cynllunio asesu a gweithredu sy'n seiliedig ar fwrdd rhyngweithiol a ddelir yn y llaw, sydd wedi'i ddylunio'n benodol i fesur tracio cynnydd meddal a'r cynnydd a wnaed.

Prove it! (nef consulting)

Prove it!

Pecyn offer sydd wedi'i ddylunio i helpu rheolwyr prosiectau cymunedol i werthuso eu prosiectau eu hunain.

Mae'r pecyn offer yn dilyn tri cham: penderfynu beth i'w fesur gyda bwrdd stori, gan gasglu gwybodaeth gydag arolwg ac edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd gyda gweithdy i fyfyrio ar y prosiect. Mae taflenni gwaith a chyfarwyddiadau ar gyfer ystod o ymarferion cymryd rhan a gwerthuso, ynghyd â dogfennau i helpu gyda chynllunio ac adrodd am werthuso.


Lawrlwythwch gopi o dempled y Triongl Cynllunio CES (dogfen word 52KB)


ADBORTH