Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Ceisiadau caffael uniongyrchol

Sut mae'r Gronfa'n caffael ceisiadau'n uniongyrchol

Beth yw caffael uniongyrchol a pham ydym ni'n ei ddefnyddio?

Caffael uniongyrchol yw'r broses o wahodd mudiad (neu bartneriaeth) unigol i ymgeisio am ariannu er mwyn cyflwyno prosiect penodedig sy'n helpu i gyflwyno un neu fwy o amcanion strategol y Gronfa Loteri Fawr. Rhoddodd Deddf y Loteri Genedlaethol 1998 y pŵer i ni (a holl ddosbarthwyr eraill y Loteri) gaffael ceisiadau'n uniongyrchol.

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio caffael uniongyrchol yn anaml - gwnaed 14 o ddyfarniadau'n unig trwy'r dull hwn yn ystod 2010/11 o'i gymharu â 14,000 trwy ein rhaglenni dros yr un cyfnod. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ceisiadau a gaffaelwyd yn uniongyrchol ledled y DU wedi cynnwys y Cinio Mawr trwy Brosiect Eden, NCVO ar gyfer eu prosiect Ariannu Cynaliadwy, Canolfan Ymchwil y Trydydd Sector gyda Phrifysgol Birmingham a Charchar EM y Parc yn Ne Cymru.

Mae ein rhaglenni cystadleuol yn anelu at gyflwyno'r canlyniadau a diwallu'r anghenion y mae ein Bwrdd a Phwyllgorau wedi'u pennu fel blaenoriaethau ar ein cyfer. Mae'r rhaglenni hynny naill ai'n rhai sy'n agored yn gyffredinol, fel Pawb a'i Le neu wedi'u targedu'n strategol, fel Awydd am Arloesi. Yn anaml iawn, mae ein dadansoddiadau yng ngham datblygu'r rhaglen yn dangos mai dim ond un mudiad fyddai yn y sefyllfa orau i gyflwyno'r canlyniad rydym wedi'i flaenoriaethu, gan olygu felly mai cais a gaffaelir yn uniongyrchol fyddai'r cam mwyaf effeithiol.

Yn yr un modd, pan fydd mudiad yn cysylltu â'r Gronfa Loteri Fawr yn ceisio ariannu ar gyfer ei gynnig, maen nhw fel arfer yn cael eu cyfeirio i'n rhaglenni cystadleuol neu, os nad yw hynny'n briodol, yr ymagwedd gyffredinol yw i ni eu hysbysu nad yw'r cynnig yn cyfateb i unrhyw un o'n hamcanion strategol. Dim ond pan fydd cytgord sylweddol rhwng y cynnig a'r amcanion strategol y byddwn yn ystyried caffael uniongyrchol.

Sut mae caffael uniongyrchol yn gweithio?

Mae pum prif gam i gaffael uniongyrchol:

Cam un: Cwmpasu

Creu'r cysylltiad rhwng un neu fwy o amcanion strategol y Gronfa Loteri Fawr (fel y'u pennir gan ein Bwrdd neu Bwyllgorau) a'r prosiect penodol a allai gyflwyno yn erbyn hynny. Mae'n rhaid i ni fod yn siŵr nad oes modd cyflawni hyn trwy raglen gystadleuol, ac rydym yn adnabod y canlyniadau penodol y byddwn yn asesu yn eu herbyn. Mae'n bosib y byddwn yn adnabod yr angen ac yn chwilio am fudiad i'w gyflwyno neu, fel arall, profi cynnig gan fudiad sydd wedi cysylltu â ni yn erbyn ein blaenoriaethau.

Cam dau: Achos busnes

Paratoi'r achos ffurfiol dros gaffael uniongyrchol i'r Bwrdd neu bwyllgor perthnasol. Mae hyn yn cynnwys amlinellu pam bod mudiad (neu bartneriaeth) benodol yn y sefyllfa orau i fedru cyflwyno'r canlyniadau a bennwyd yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol. Yn y cam hwn, mae'r Bwrdd/Pwyllgor yn penderfynu p'un a ddylid gwahodd cais ai beidio.

Cam tri: Asesu

Mae'n rhaid asesu'r cais a gaffaelir yn uniongyrchol yn unol â meini prawf clir y cytunwyd arnynt ymlaen llaw sy'n ymwneud â'r canlyniadau rydym yn chwilio amdanynt a'r safonau ansawdd y disgwyliwn i'r prosiect eu cyrraedd.

Nid yw'r swyddogion sy'n ymwneud â datblygu'r achos dros y caffael uniongyrchol a chyfathrebu â'r mudiad a gaffaelir yn uniongyrchol yn ymwneud ag asesu'r cais er mwyn i'r asesiad aros yn wrthrychol.

Cam pedwar: Gwneud penderfyniad

Mae'r Bwrdd neu Bwyllgor priodol yn derbyn yr adroddiad asesu ac yn penderfynu p'un a ddylid ei ariannu ai beidio ar sail ei argymhellion.

Cam pump: Rheoli'r grant

Os bydd dyfarniad yn cael ei wneud, mae'r cam hwn yn cynnwys gwneud taliadau a monitro cynnydd yn erbyn y canlyniadau cytunedig, nes bod y grant yn cael ei gau.

Ystyriaethau pellach

Nid yw caffael uniongyrchol yn llwybr cyflym na hwylus i ariannu, ac felly rydym yn ei ddefnyddio'n anaml iawn. Er hynny, mae wedi ein galluogi i ariannu rhai prosiectau hynod arloesol ac unigryw, y byddent fel arall wedi bod y tu hwnt i gwmpas ein rhaglenni.

Mae rhai agweddau heriol ar gaffael uniongyrchol:

  • Mae'r dadansoddiad cychwynnol i bennu'r gyfatebiaeth â'r amcanion strategol, a datblygu'r achos busnes, yn feichus.
  • Mae'r asesiad o'r cais ymysg y rhai mwyaf trwyadl a wnawn ac o safbwynt yr ymgeisydd mae'n ddwysach na llawer o'n rhaglenni cystadleuol.
  • Cafwyd enghreiftiau pan nad yw cynnig wedi symud y tu hwnt i gam yr achos busnes neu wedi methu yn y cam asesu, gan i ni benderfynu na fydd yn cyflwyno'r canlyniadau a ragwelwyd yn y lle cyntaf.
  • Gan fod caffael uniongyrchol yn ymwneud â dim ond un mudiad (neu bartneriaeth), nid ydym fel arfer yn cyhoeddi unrhyw beth yn gyhoeddus nes bod dyfarniad yn cael ei wneud. Mae hyn er mwyn diogelu enw da'r ymgeisydd rhag ofn y byddwn yn gwrthod y cais yn y cam asesu. Gwaetha'r modd, mae hyn hefyd yn cyfyngu i ba raddau y gallwn drafod y broses caffael uniongyrchol pan fydd ar waith.

Mae gan yr ymagwedd rai manteision clir hefyd:

  • Gellir ei defnyddio i lenwi bylchau os nad yw amcan neu ganlyniad â blaenoriaeth yn cael ei gyflwno trwy ein rhaglenni cystadleuol.
  • Mae'n cydnabod nad ariannu sy'n ymateb i alw fydd yr ateb bob tro, a bod angen cael mynediad i ystod ehangach o ymagweddau cyflwyno er mwyn ceisio atebion arloesol neu unigryw.
  • Gallwn gael perthynas fwy pwrpasol gyda'r ymgeisydd wrth ddisgrifio'r canlyniadau rydym yn chwilio amdanynt.
  • Gallwn ddysgu gwersi gan ymarferion caffael uniongyrchol llwyddiannus ac aflwyddiannus er mwyn cyfeirio ein gwaith yn y dyfodol (gan gynnwys rhaglenni'r dyfodol).

Cynlluniau at y dyfodol

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn anelu'n barhaus at wella'r ffordd a ariannwn. Mae ein myfyriadau diweddar ar ein hymagwedd caffael uniongyrchol wedi'n harwain at yr ystyriaethau canlynol:

  • Byddwn yn ymchwilio i ymagwedd "alw am syniadau" sy'n egluro pa amcanion a blaenoriaethau rydym yn canolbwyntio arnynt ar adeg benodol ac sy'n darparu mwy o gyfle i ymgysylltu â ni.
  • Byddwn yn ystyried p'un a allwn gyhoeddi ar gam cynharach ein bod yn caffael cais yn uniongyrchol gan fudiad penodol.
  • Wrth gyhoeddi dyfarniad byddwn yn dweud p'un a yw wedi deillio o gais a gaffaelwyd yn uniongyrchol.
  • Byddwn yn parhau i ariannu trwy lwybrau agored a chystadleuol ar gyfer y mwyafrif o'n rhaglenni, ac yn defnyddio caffael uniongyrchol dim ond o dan amgylchiadau eithriadol.
ADBORTH