Yn y dyfodol rydym eisiau i bob mudiad a ariannwn helpu pobl i fwynhau gwell ansawdd bywyd nawr, heb gyfaddawdu ansawdd bywyd cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn galw'r syniad hwn, sy'n cwmpasu tri maes allweddol cysylltiedig, yn ddatblygu cynaliadwy:
Amgylcheddol
Er enghraifft, gallai prosiect sy'n cynnal gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc hyrwyddo ailgylchu mewn clwb ieuenctid.
Economaidd
Er enghraifft, gallai prosiectau gwledig sy'n cyflogi pobl leol helpu i gynnal gwasanaethau lleol megis siop pentref.
Cymdeithasol
Er enghraifft, gallai prosiect sy'n creu cysylltiadau rhwng pobl iau a hŷn mewn cymuned helpu i gynnal gweithgareddau mwy traddodiadol megis gwau.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein canllaw datblygu cynaliadwy (PDF, 114kb)