Gan eich bod yn eglur bellach ynglŷn â’ch nod a chanlyniadau, mae angen i chi esbonio sut y byddwch yn dangos y newid y mae eich prosiect yn ei gyflawni dros amser.
Mae dau gam i'r broses hon:
- deall ac adnabod arwyddion newid (gan ddefnyddio 'dangosyddion')
- mesur i ba raddau y mae newid yn digwydd (tracio cynnydd)
Pam mae tracio cynnydd yn bwysig?
Bydd tracio cynnydd yn eich helpu i:
- wybod a yw eich prosiect yn gwneud y gwahaniaeth a fwriedir
- deall yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, a'ch helpu i wneud newidiadau i'ch prosiect os bydd angen i chi
- tracio cynnydd a darparu gwybodaeth i'ch ariannwr/arianwyr
- dysgu o'ch prosiect.
Yn y Gronfa Loteri Fawr mae gennym ddiddordeb mewn deall faint o newid neu welliant a ddaw yn gyffredinol o ariannu prosiect penodol.
Darllenwch ein Harweiniad ar ddangosyddion a'n Harweiniad ar fonitro
Tracio cynnydd - rhestr wirio pwyntiau allweddol
- Ydych chi wedi adnabod o leiad un dangosydd ar gyfer pob canlyniad?
- Ydy eich dangosyddion yn disgrifio'r arwyddion a fydd yn eich hysbysu p'un a yw newid yn digwydd ai beidio?
- Ydych chi wedi disgrifio graddfa neu lefel y newid y dymunwch ei chyflawni ar bwyntiau allweddol yn erbyn y prosiect, ac erbyn diwedd y prosiect?
- Pa ddulliau byddwch yn eu defnyddio i dracio eich dangosyddion?
- Sut ydych chi'n gwybod p'un ai hon yw'r ffordd fwyaf priodol o gywain gwybodaeth?
- Ydy eich dangosyddion yn realistig?
|