Byddwn yn gofyn i chi fod yn eglur ynglŷn â nod eich prosiect a'r canlyniadau rydych eisiau eu cyflawni. Mae'r hyn a ddywedwch yn rhan bwysig o'r penderfyniad ar ba brosiectau a ariannwn ac o'r ffordd y byddwn yn monitro eich prosiect.
Pan fyddwch yn ymgeisio i ni, gofynnir i chi am hyd at bedwar canlyniad. Ni ddylen fod yn rhy fanwl a dylent ganolbwyntio ar y newidiadau pwysicach rydych am i'ch prosiect eu gwneud. Bydd angen hefyd i chi esbonio sut mae eich canlyniadau prosiect yn cefnogi canlyniadau cyffredinol y rhaglen sydd wedi'u disgrifio yn nodiadau arweiniad y rhaglen.
Er y gallwch ddisgrifio hyd at bedwar canlyniad, efallai bydd eich prosiect yn effeithiol trwy ganolbwyntio ar lai o ganlyniadau na hyn (ac mewn rhai achosion , mae rhaglen yn gofyn am nifer penodol o ganlyniadau).
Yr hyn sy'n bwysig yw bod y canlyniadau'n dangos y newid neu wahanaeth a ddaw ar gyfer unigolion, cymunedau neu fudiadau yn sgil y prosiect yn glir.