Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Beth fydd y Gronfa'n gofyn am ddysgu

Mae rhai pethau penodol y byddwn yn gofyn i chi am ddysgu

Byddwn yn gofyn i chi adrodd am gynnydd tuag at eich canlyniadau arfaethedig, ond rydym hefyd yn eich annog i hunanwerthuso er eich budd eich hun.

Gallwch wneud hyn eich hun, neu gallwch gyflogi gwerthuswr allanol i'ch helpu (ac i gefnogi'r ffordd yr ydych yn cywain gwybodaeth i adrodd ar eich canlyniadau i ni). Credwn fod hunanwerthuso, a'r dysgu a ddaw yn sgil hynny, yn helpu prosiectau a mudiadau i ddatblygu a gwella, felly rydym yn hapus i ystyried ariannu'r gost o wneud hynny.

Y newyddion da yw ei fod yn debygol y bydd gorgyffwrdd sylweddol rhwng yr wybodaeth a gasglwch i adrodd i ni a'r hyn y mae ei angen arnoch ar gyfer hunanwerthuso, er y mae'n bosib y byddwch am gywain mwy o wybodaeth ar gyfer hunanwerthuso, gan ddibynnu ar y ddysg benodol rydych wedi'i hadnabod sy'n ddefnyddiol i'ch mudiad, neu efallai er mwyn cydweithio ag eraill sy'n gweithio yn eich maes chi.

Bydd y nodiadau arweiniad ar gyfer pob un o'n rhaglenni yn dweud wrthych p'un a oes gennym unrhyw ofynion penodol ar gyfer hunanwerthuso, neu gefnogaeth ar waith ar eich cyfer. I gael gwybod mwy am hunanwerthuso, ewch i'r tudalennau ymchwil.

ADBORTH