Byddwn yn gofyn i chi bennu canlyniadau, dangosyddion, lefelau dangosyddion ac amserlenni ar gyfer eich prosiect, ac yn defnyddio'r rhain fel rhan o gontract eich grant, felly mae'n bwysig eich bod yn realistig ac yn hyderus wrth gynllunio eich prosiect.
Ni ddylai hyn eich atal rhag bod yn uchelgeisiol pan fyddwch yn cynllunio ac yn disgrifio eich prosiect. Mae'n bosib y bydd modd i'n staff drafod eich canlyniadau a'ch dangosyddion gyda chi yn ystod yr asesiad o'ch cais.
Oni bai bod nodiadau arweiniad y rhaglen yn nodi fel arall, byddwn yn gofyn i chi bennu canlyniadau, dangosyddion a lefelau dangosyddion y gallwch eu cyflawni o fewn cyfnod eich ariannu.
Mewn rhai achosion, megis gwelliannau hir dymor mewn iechyd, mae hyn yn golygu y bydd modd i chi adnabod canlyniadau dim ond yn y tymor byr yn ôl pob tebyg. Gyda rhai rhaglenni ni fyddwn ond yn ariannu rhan gyntaf eich prosiect, ond gallwn ofyn o hyd i chi adnabod eich canlyniadau ar ôl i'r ariannu ddod i ben os, er enghraifft, rydym wedi ariannu gwaith adeiladu sydd wedyn yn eich galluogi i ddarparu ystod o wasanaethau. Yn y cyfryw achos mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y defnyddir yr adeilad a p'un a yw'n gwella bywydau ei ddefnyddwyr.
Ar gyfer pob canlyniad, mae'n rhaid i bob dangosydd gynnwys lefel dangosydd terfynol sy'n dangos y cyfanswm newid a fydd wedi digwydd erbyn diwedd ein hariannu.
Gofynnwn am eich cynlluniau ar gyfer tracio cynnydd fel rhan o'ch cais. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi:
- esbonio yn eich cais lefel y newid y gobeithiwch ei gyflawni (e.e. faint o...) a'ch dangosyddion ar gyfer mesur cynnydd tuag ato o flwyddyn i flwyddyn
- esbonio sut y byddwch yn cywain gwybodaeth
- adrodd i ba raddau rydych yn cyflawni'r canlyniadau ar adegau rheolaidd, bob blwyddyn fel arfer
- dweud wrthym am unrhyw broblemau a gewch wrth gyflawni eich canlyniadau ac, os oes angen, gweithio gyda ni i'w goresgyn neu i adolygu eich ymagwedd
Deallwn fod amgylchiadau'n newid, ac y gall fod angen i chi addasu eich mesurau wrth i'ch prosiect symud yn ei flaen. Rydym yn hapus i drafod y fath newidiadau gyda chi yn ystod cyfnod eich prosiect.