Pam ydym ni'n gofyn am wybodaeth gydraddoldeb?
Rydym yn gofyn am wybodaeth gydraddoldeb oherwydd:
- ein bod eisiau gwybod pwy sy'n elwa o'r prosiectau a ariannwn, er mwyn i ni ddarganfod p'un a oes angen i ni roi mwy o gefnogaeth i rai ymgeiswyr, targedu ein hariannu neu newid sut rydym yn rhedeg ein rhaglenni
- ein bod yn awyddus i ddysgu sut y gall ein hariannu gyrraedd ystod mor eang â phosib o bobl
- trwy rannu'r hyn a ddysgwn, y gall y rhai sy'n rhedeg prosiectau gael gwybod sut i gyrraedd yr ystod ehangach o bobl a allai elwa ohonynt.
Byddwch chi'n gweld ei fod yn ddefnyddiol hefyd!
Trwy gasglu gwybodaeth gydraddoldeb bydd modd i chi:
- ddarganfod pwy sydd, a phwy sy ddim, yn elwa o'ch prosiect
- sicrhau eich bod yn cyrraedd pawb a allai elwa ohono trwy wneud newidiadau i'ch prosiect os bydd angen
- dangos arfer da a rhannu eich dysgu gyda ni, arianwyr eraill a'ch cymuned.
Gallwch lawrlwytho ein canllaw Cydraddoldeb i ddeiliaid grantiau ar waelod y dudalen hon.
Sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon?
Byddwn yn adolygu'r hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym ac mae'n bosib y byddwn yn cysylltu â chi gyda chwestiynau.
Os nad yw eich prosiect yn cyrraedd pawb a allai elwa ohono neu os oes gwendidau yn eich dull o gywain tystiolaeth, mae'n bosib y byddwn yn gofyn i chi wneud rhai newidiadau i'ch prosiect
Pan fyddwch wedi gorffen eich prosiect, byddwn yn graddio pa mor effeithiol yr oedd o ran cyrraedd pawb a allai elwa ohono. Bwrw'ch golwg ar ein canllaw i ddeiliaid grantiau, Materion Cydraddoldeb.