Mae nawdd corfforaethol yn mynd yn fwyfwy poblogaidd ar gyfer llawer o fudiadau gan fod cwmnïau'n edrych yn ffafriol ar brosiectau sy'n gymdeithasol gyfrifol. Un o'r manteision a ddaw yn sgil hyn yw bod gan brosiectau cymunedol well cyfle nag erioed o gael eu hystyried, ond yr anfantais yw y byddwch yn wynebu cystadleuaeth frwd. Gan y gall ddod o hyd i nawdd gorfforaethol, neu yn wir, ariannu o bron unrhyw ffynhonnell, gymryd amser maith nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau ystyried hyn.
Amcan y llyfryn hwn yw eich helpu i ddeall beth mae cwmnïau'n chwilio amdano pan fyddant yn cynnig nawdd. Fe'i dyluniwyd i'ch helpu i gyflwyno eich prosiect mor dda â phosib. Mae pob noddwr, a phob prosiect a noddir, yn wahanol, felly bydd yn rhaid i chi feddwl yn galed am yr hyn sydd fwyaf perthnasol i'ch mudiad chi. Dylech sicrhau hefyd eich bod yn dewis ac yn targedu darpar noddwyr mewn ffordd mor effeithiol â phosib.
Arweiniad Ariannu'r dyfodol (PDF, 365kb)