Rydym am i'r cyhoedd wybod ble mae arian Loteri'n cael ei wario yn eu cymuned. Trwy ddefnyddio'r logo hwn, gall pobl weld bod arian y Loteri wedi cefnogi eich gwaith.
Ar waelod y dudalen hon gallwch lawrlwytho logos y Gronfa Loteri Fawr ym mhob fformat, ynghyd â'n llyfryn Gofynion Cydnabyddiaeth Grant, sy'n eich hysbysu am y ffyrdd gwahanol y gallwch ddefnyddio'r logos.
Cwestiynau ynghylch defnyddio logo'r Gronfa Loteri Fawr
Oes rhaid i mi ddefnyddio'r logo?
Oes - trwy dderbyn eich dyfarniad rydych wedi ymrwymo i ddefnyddio ein logo i gydnabod eich grant yn gyhoeddus. Gofyniad o'ch contract grant yw hwn. Mae cydnabod eich grant yn rhan o'ch contract gyda ni, ac mae peidio â chydnabod yn torri'r contract hwnnw. Rydym yn monitro prosiectau'n agos am gydnabyddiaeth, ac yn cysylltu â phob prosiect nad yw'n dilyn y canllawiau hyn.
Ble dylwn ddefnyddio'r logo?
Dylai pob derbynnydd grant gydnabod cefnogaeth y Gronfa Loteri Fawr wrth gynhyrchu unrhyw ffurf ar ddeunyddiau hyrwyddo neu gyhoeddusrwydd, gan gynnwys eich gwefan, datganiadau i'r wasg, taflenni, posteri, llyfrynnau, adroddiadau blynyddol a deunyddiau papur, megis papur pennawd.
Wrth hysbysebu swydd a ariennir gennym, dylai ein logo ymddangos yn yr hysbyseb.
Os oes gennych adeilad, yn enwedig os cafodd ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, dylid gosod plac ar ôl cwblhau'r gwaith adeiladu. Mae'n rhaid gosod baneri safle pan fydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.
Pam bod yn rhaid i ni ddilyn cynifer o reolau?
Mae'r gwaith celf yn eiddo i Gomisiwn y Loteri Genedlaethol (NLC). Mae gennym drwydded i'w ddefnyddio ac i roi caniatâd i chi i'w ddefnyddio fel amod o dderbyn grant gennym ni. Mae angen i ni ddilyn y rheolau y mae NLC wedi'u pennu, a sicrhau eich bod chi'n gwneud hynny hefyd.
Beth os ydych wedi ariannu aelod o staff, gwasanaeth neu rywbeth na allwn roi plac arno?
Mae lleoedd eraill y gallwch roi ein logo - ar eich gwefan, mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd neu mewn hysbysebu. Mae mwy o arweiniad yn y llyfr Gofynion Cydnabyddiaeth Grant. Y pwynt allweddol yw eich bod yn cydnabod eich grant ac rydym yn hyblyg o ran sut rydych yn gwneud hyn.
Mae gennych ddau liw - oes rhaid i mi ddefnyddio un yn benodol?
Daw ein logo mewn dau opsiwn lliw llawn: pinc a glas. Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio un yn unig, neu gallwch ddefnyddio'r ddau (ond nid ar yr un pryd). Os na allwch ddefnyddio'r rhain, gallwch ei ddefnyddio mewn du neu wyn ar ardal o liw tywyll solet. Ni ellir newid, animeiddio neu drin logos mewn unrhyw ffordd.
Pa fformat ffeil y dylwn ei ddefnyddio.
Gallwch lawrlwytho'r logo o'n gwefan mewn amrywiaeth o fformatau - gofalwch eich bod yn defnyddio'r un cywir at eich diben chi:
| Arwyddion |
EPS |
| Nwyddau (megis balwnau neu grysau-T) |
EPS |
Deunyddiau papur i'w hargraffu
|
EPS |
| Ar-lein |
GIF |
| PowerPoint |
JPEG |
Templedi electronig
|
JPEG |
Graddfa fawr
|
EPS |
Mae isafswm meintiau ar gyfer argraffu, ond beth os yw hynny'n rhyw fawr i fynd ar fy ngherdyn busnes neu bapur pennawd?
Mae gennym isafswm maint i sicrhau bod ein logo'n glir ac yn hawdd i'w ddarllen. Os yw'r meintiau hyn yn dal yn rhy fawr i'ch diben chi, cysylltwch â'r tîm brandio ar 020 7211 1728 / 1856 a byddwn yn ceisio eich helpu chi.
Ni allaf agor fersiwn EPS y logo.
I agor y gwaith celf hwn mae angen i Adobe PhotoShop neu Illustrator fod wedi'i osod ar eich cyfrifiadur. Pecynnau safonol yw'r rhain ar gyfer dylunio, argraffu a chynhyrchu. Os ydych yn gofyn i ddylunydd gynhyrchu unrhyw beth ar eich cyfer, byddan nhw'n gallu agor y fformat hwn.
Gallwch anfon y fformatau hyn trwy e-bost hyd yn oed os na allwch eu hagor. Os ydych yn dylunio'r eitem eich hun ac mae angen y fformat hwn arnoch (yn enwedig os ydych yn gwneud unrhyw beth sy'n mynd i fod yn fawr), gallwch ofyn i'ch cwmni argraffu agor y gwaith celf hwn ar eich cyfer os ydych yn marcio'r lleoliad yn eich gwaith celf ar gyfer y logo.
Beth mae CMYK yn ei olygu?
Lliwiau'r broses argraffu yw'r rhain. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys yr inciau y mae pob argraffydd yn eu defnyddio ar gyfer unrhyw broses argraffu lliw, yn hytrach na liw arbennig a fyddai'n costio mwy. Nhw yw lliwiau unrhyw argraffydd swyddfa safonol hefyd. Os hoffech gynhyrchu ein logo yn y lliwiau fflwroleuol cryf, dylech ddefnyddio'r gwaith celf pantone sydd ar gael ar y wefan hon. Cyfeirir at y rhain gan eu rhifau cyfeirnod pantone (P801, 813 a 2747).
Ydy'r deunyddiau cydnabyddiaeth ar gael mewn ieithoedd cymunedol?
Cynhyrchwn ddeunyddiau cydnabyddiaeth mewn ieithoedd cymunedol ar gais. Anfonwch eich cais mewn e-bost i branding@biglotteryfund.org.uk
Sut gallaf sicrhau fy mod wedi defnyddio logo'r Gronfa Loteri Fawr yn gywir?
Os ydych yn ansicr ynglŷn â defnyddio ein logo ar eich deunyddiau, ffoniwch ni ar 020 7211 1728/1856 neu anfonwch e-bost i branding@biglotteryfund.org.uk a byddwn yn falch o helpu.