Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Cymorth gyda chyhoeddusrwydd

Adnoddau i'ch helpu i hyrwyddo eich prosiect

Trefnu digwyddiadau

Bydd cynnal digwyddiad yn cynyddu ymwybyddiaeth o'ch prosiect ymysg pobl leol. Dyma rai enghreifftiau o'r digwyddiadau y gallwch eu cynnal:

  • Trefnu digwyddiad lansio er mwyn i'ch prosiect roi gwybod i'r gymuned leol a'r wasg beth y byddwch yn ei wneud.
  • Cynnal diwrnod agored i gynnwys pobl yn eich prosiect.
  • Dathlu cwblhau eich prosiect, er enghraifft, adnewyddu adeilad, cyfleusterau newydd, gweithgareddau diwedd rhaglen.

Gweithio gyda'r cyfryngau

Mae defnyddio'r wasg, y teledu a'r radio yn ffyrdd effeithiol o hyrwyddo eich prosiect. I gael gwybod mwy, darllenwch ein canllaw i ddeiliaid grantiau Hyrwyddo eich prosiect (PDF, 348KB). Gallwch lawrlwytho templedi ffurflen caniatâd tynnu lluniau a datganiad i'r wasg ar waelod y dudalen hon.

Ar-lein a chyfryngau cymdeithasol

Os nad oes gennych wefan eisoes, gallech roi cynnig ar greu gwefan syml megis blog. Mae www.wordpress.com yn defnyddio templed sy'n gadael i chi greu gwefan syml yn hawdd, ac mae ganddynt nifer o ganllawiau i'ch helpu chi.

Mae Cyfryngau Cymdeithasol yn cyfeirio at y ffordd y mae pobl yn cyhoeddi ac yn rhannu gwybodaeth ar-lein, ac isod mae rhai ffyrdd o wneud hyn.

  • Ymuno â gwefan rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook neu Twitter i rannu gwybodaeth a hyrwyddo eich prosiect, neu gallech drefnu 'Tweetup'. Gofalwch ddefnyddio #biglf ar twitter a hoffi ein tudalen ar Facebook: www.facebook.com/biglotteryfundwales
  • Uwchlwytho lluniau i wefannau rhannu lluniau megis Flickr. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr hawlfraint angenrheidiol gan y ffotograffydd a chaniatâd gan y bobl yn y lluniau.

Pethau i'w lawrlwytho

ADBORTH