Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Hunanwerthuso

Canllaw i brosiectau a gefnogir gan y Gronfa Loteri Fawr

Mae gan hunanwerthuso lawer o fuddion ar eich cyfer chi a'ch prosiect. Mae'n amlygu eich cyflawniadau yn ogystal â meysydd i'w datblygu, ac yn eich helpu i wneud cynnydd tuag at eich canlyniadau prosiect. Mae'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi adrodd i arianwyr cyfredol neu ddarpar arianwyr, ac yn eich helpu i wella'r ffordd rydych yn rhedeg eich gwasanaethau.

Bydd llawer o'r mudiadau a'r grwpiau sy'n derbyn ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr yn cynllunio ac yn cyflawni rhyw fath o werthusiad o'u prosiect. Fe'ch anogir i hunanwerthuso a llunio cyllideb i ymdrin â'r gweithgaredd hwn.

Gyda rhai rhaglenni ariannu, mynnwn fod prosiectau'n hunanwerthuso fel amod o'n grant.

Lawrlwytho ein Canllaw i Hunanwerthuso (PDF, 622kb)

 


ADBORTH