Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Llawenydd mawr i grwpiau cymunedol ar ôl i £3.6 miliwn wneud sblash mawr

Area:
Yr Alban
Programme:

Release date:
12 7 2010

Mae eglwys, pwll nofio a grwp sgiliau syrcas ymysg y rhai sy'n dathlu heddiw ar ôl derbyn mwy na £3.6 miliwn i helpu adfywio eu hardaloedd. Dyfarnwyd £3,699,686 i bum grwp drwy'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) - partneriaeth rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nod y rhaglen yw darparu ariannu cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau megis tir ac adeiladau o sefydliadau sector cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol.

Roedd Ymddiriedolaeth Eglwys Gymunedol Tywi yn Sir Gâr wrth ei bodd â chlywed eu bod wedi derbyn £798,202. Caiff yr arian ei ddefnyddio i adeiladu ale fowlio ar safle'r ffatri pecynnu caws St Ivel gynt yng Nghaerfyrddin. O dan y cam datblygu cyntaf bydd yr ale hefyd yn cynnwys cronfa fwyd, gan roi parseli bwyd i deuluoedd anghenus, a hefyd cyfleuster ailgylchu dodrefn. Bydd gwaith datblygu yn y dyfodol yn gweld caffi a chanolfan gynadledda'n cael eu creu.

Meddai'r llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth, Lynne Collinson, "Mae'n newyddion gwych ac yn golygu y gallwn ddiwallu anghenion ein cymuned o ran cael cyfleuster hamdden o'r radd flaenaf a fydd hefyd yn ariannu prosiectau i helpu'r rhai sy'n wynebu caledi yn y cyfnod economaidd anodd hwn.

“Mae'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan bobl leol a Chyngor Sir Gâr wedi bod yn rhyfeddol, ond ni fyddai modd i ni fwrw 'mlaen heb yr ariannu sylweddol yma gan y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

Dyfarnwyd £774,638 i Nofit State Community Circus Ltd yng Nghaerdydd i drawsnewid ysgoldy sy'n gysylltiedig ag  Eglwys Fethodistaidd y Drindod yn Adamsdown i ganolfan ar gyfer addysg a hyfforddiant syrcas gymunedol.

Mae'r grwp, sydd wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Nghapel Ebeneser, Stryd Siarl, Caerdydd, yn bwriadu gwneud yr adeilad newydd yn ganolfan hyfforddiant syrcas proffesiynol. Bydd yn defnyddio'r arian i gynyddu nifer y gweithdai wythnosol a dyblu nifer yr dosbarthiadau meistr, sesiynau hyfforddi a phrosiectau gwyliau ysgol. Mae'n amcangyfrif y bydd nifer y bobl sy'n elwa ohoni'n codi o 17,000 i 36,400 y flwyddyn. Bydd lle hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer tri grwp cymunedol arall.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol y grwp syrcas, Alison Woods,  "Rydym wrth ein boddau. Bydd yn golygu y gallwn greu cartref penodedig newydd i'r gymuned syrcas yng Nghaerdydd a galluogi cannoedd yn fwy o bobl leol i ymuno â ni a mynd yn rhan o'r teulu Nofit State."

Mae tua £800,000 wedi gwneud sblash mawr yng Ngwynedd lle bydd Harlech and Ardudwy Leisure yn defnyddio'r arian i redeg pwll nofio Harlech. Cyflwynodd pobl leol gynllun busnes i redeg y pwll, a oedd dan fygythiad o gael ei gau, fel ymddiriedolaeth gymunedol. Mae trigolion, ysgolion a chlybiau nofio lleol i gyd yn defnyddio'r pwll, ac mae cynlluniau i ddarparu caffi a wal ddringo.

Bydd Menter Môn Cyf yn Ynys Môn yn defnyddio £594,875 i gefnogi trosglwyddo Neuadd Tref Llangefni o'r cyngor sirol lleol. Caiff y neuadd, a adeiladwyd ym 1841, ei thrawsnewid i swyddfeydd newydd ar gyfer hyd at chwe sefydliad, lle i ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ac ystafelloedd seminar a chyfarfod. Ymysg y nodweddion eraill fydd ardaloedd gweithgareddau cymunedol a menter gymdeithasol, a stiwdio cerddoriaeth i bobl ifanc.

Yn olaf, dyfarnwyd £731,971 i Groundwork Caerffili er mwyn iddynt drosglwyddo Ty Mynyddislwyn o'r cyngor lleol a rhedeg gweithgareddau gan gynnwys cyngor ar gyflogaeth a hyfforddiant, gwirfoddoli amgylcheddol a hyrwyddo cynaladwyedd. Bydd mentrau crefft lleol hefyd yn elwa.

Meddai'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, AC, "Mae'r prosiectau hyn yn dangos y potensial am adfywio tir ac adeiladau segur, gan weddnewid cyfleusterau cymunedol.

“Mae llawer o asedau cyhoeddus yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio hyd eithaf eu potensial, ond erbyn hyn mae'r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn grymuso'r gymuned i ddefnyddio'r tir a'r adeiladau hyn i ddiwallu eu hanghenion.”

Ychwanegodd Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru a Chadeirydd y Pwyllgor CAT, Mike Theodoulou y sylw canlynol, "Mae'r rhaglen eisoes yn helpu cymunedau yng Nghymru i fod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i ddod o hyd i asedau a'u cynorthwyo. Mae hyn yn cynhyrchu buddion helaeth i bobl leol, gan gynnwys creu incwm a chyflogaeth."

Gall grwpiau ymgeisio am ariannu drwy'r rhaglen o hyd. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk, ffoniwch 029 2067 8200, ffôn testun 0845 602 1659 neu e-bostiwch cat@cronfaloterifawr.org.uk

Gwybodaeth Bellach

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr - Ben Payne 02920 678 224
Cyswllt y tu allan i oriau: 07500 951707
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun:  0845 6021 659

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn hyrwyddo trosglwyddo asedau sector cyhoeddus am gost sy’n sylweddol is na phris y farchnad drwy drefniadau trosglwyddo rhydd-ddaliad neu brydles. Mae’r rownd ariannu hon yn rhoi cyfwerth ag £1.7 miliwn i grwpiau cymunedol er mwyn iddynt greu mentrau cymdeithasol ffyniannus sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.
  • Yng Nghymru mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu bron £1 miliwn yr wythnos mewn arian y Loteri ar gyfer achosion da, sy'n golygu, ynghyd â dosbarthwyr eraill y Loteri, bod y rhan fwyaf o bobl ar draws Cymru o fewn ychydig filltiroedd i brosiect a ariennir gan y Loteri.  
  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd yn swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd i Achosion Da. O ganlyniad i hyn mae dros £24 biliwn wedi’i godi a mwy na 330,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol

Buddiolwyr

  • Mudiadau'r Sector Gwirfoddol a Chymunedol

Themâu

  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd
  • Iechyd a lles
  • Cymunedau Cryfach

Categori

  • Adfywio
ADBORTH