Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Pedwar syniad euraidd i gadw'r ysbryd Olympaidd a Pharalympaidd yn effro

Area:
DU gyfan
Programme:

Release date:
1 5 2013

Ymunodd medalydd efydd Paralympaidd y gamp taflu maen, Rob Womack, a’r Neidiwr Hir, Chris Tomlinson, â phlant Côr Arwyddo Kaos ar yr Orbit yn y Parc Olympaidd wrth i bedwar dyfarniad etifeddiaeth y Gronfa Loteri Fawr gael eu gwneud i ddatblygu ysbrydoliaeth ac ysbryd 2012

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn buddsoddi £5.3m mewn pedair menter DU gyfan ysbrydoliaethus a fydd yn ysbrydoli ac yn ymgysylltu â thros ddwy filiwn o bobl i sicrhau bod ysbryd 2012 yn parhau i fynnu mewn cymunedau hyd at 2014 a'r tu hwnt.

Mae'r Arglwydd Coe, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, medalydd aur dwbl y Gemau Olympaidd Andrew Triggs Hodge MBE a'r cystadleuwr naid hir Olympaidd Chris Tomlinson i gyd yn cefnogi'r cynlluniau.

Mae'r ariannu'n cael ei ryddhau cyn i Ymddiriedolaeth ‘Ysbryd 2012’ y Gronfa Loteri Fawr, a sefydlwyd yn hwyr y llynedd, gael ei sefydlu'n ffurfiol.

Meddai Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr, Peter Ainsworth: “Bydd gwerth dros £5 miliwn o weithgareddau'n cychwyn yn ystod y misoedd i ddod, gan ddechrau gydag ymgyrch Pedal On UK Sustrans, digwyddiad beicio torfol, a chan barhau gydag amrywiaeth o weithgareddau hyd at yr haf nesaf. Y nod yw cyflymu a pharhau â'r newidiadau mewn agweddau ac ymddygiad pobl a ysbrydolwyd yn 2012 - gan sicrhau eu bod yn parhau i ddylanwadu ar gymunedau ac unigolion ar draws y DU.

“Gydag adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn rhybuddio o'r perygl y bydd y brwdfrydedd a gynhyrchwyd gan y 70,000 o wirfoddolwyr Llundain 2012 yn pylu, rydym yn defnyddio'r arian y byddwn yn ei dderbyn o werthu'r Pentref Olympaidd i sefydlu'r 'Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012' i sicrhau bod yr ysbryd gwirfoddoli'n parhau.”

Y pedwar prosiect DU gyfan y mae'r Gronfa Loteri Fawr yn eu cefnogi yw: Get set to Make a Change; Join In; Pedal On UK a Britain’s Personal Best.

Gyda £2.5m, bydd y Sefydliad Olympaidd Prydeinig, cangen elusennol y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig (BOA), mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Baralympaidd Brydeinig (BPA), yn cyflwyno ‘Get Set to Make a Change’. Bydd Get Set yn creu rhwydwaith o unigolion ifanc mewn cymunedau sydd wedi'u hysbrydoli gan y Gwerthoedd Olympaidd a Pharalympaidd, i gyflwyno prosiectau a fydd yn helpu eu cymunedau i fynd yn lleoedd gwell i fyw. Bydd pobl ifanc ar draws y DU yn cael eu hannog i fod yn fwy actif o fewn eu cymunedau trwy'r defnydd o sioeau ffordd hyrwyddo, gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a gwefan sy'n darparu adnoddau dysgu i gefnogi ymgysylltu mewn ysgolion, astudiaethau achos a gweithdai.

Meddai'r Arglwydd Coe, Cadeirydd BOA: “Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae Get Set to Make a Change yn bwriadu defnyddio etifeddiaeth Gemau 2012 i barhau i ysbrydoli pobl ifanc i weithio yn eu cymunedau, cyflwyno prosiectau sy'n cefnogi Gwerthoedd y Gemau Olympaidd, sef rhagoriaeth, parch a chyfeillgarwch a Gwerthoedd y Gemau Paralympaidd, sef penderfyniad, cyfanrwydd, dewrder a chydraddoldeb.”

Meddai Cadeirydd BPA, Tim Reddish: "Dyma newyddion gwych. Ein huchelgais ar gyfer Llundain 2012 oedd sicrhau y gallai cynifer o bobl â phosib weld pa mor wych y mae campau Paralympaidd, a chan fod cynifer o bobl yn cymryd rhan bellach, mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar hwn. Get Set to Make a Change yw'r un o'r ffyrdd y gobeithiwn wneud hyn."

Bydd yr Ymddiriedolaeth Join In yn defnyddio £1.5m i adeiladu ar arbenigedd a brwdfrydedd 'Games Makers' 2012. Bydd cyfres o fentrau a digwyddiadau, yn dechrau ym mis Gorffennaf eleni, blwyddyn ar ôl seremoni agor Llundain 2012, yn annog 'Games Makers', ac eraill i ddefnyddio'r wefan Join In a'r App symudol i adnabod pwy y mae angen eu cymorth arnynt mewn cymunedau lleol ar draws y DU a'u paru i fyny.

Bydd Join In yn gweithio gyda miloedd o glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol ar draws y DU ac yn eu hannog i agor eu drysau yr haf yma a chofrestru aelodau a gwirfoddolwyr newydd. Cynhelir digwyddiad ar 19 Gorffennaf ym Mharc Olympaidd Queen Elizabeth i ddod â'r holl wirfoddolwyr Llundain 2012 ynghyd a'u hysbrydoli i fynd allan yn eu cymunedau lleol i wirfoddoli.

Meddai Cadeirydd Join In, Syr Charles Allen: “Rydym wrth ein boddau â bod yn gweithio gyda'r Gronfa Loteri Fawr i sicrhau etifeddiaeth wirfoddoli Llundain 2012. Yr haf yma, mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer helpu i greu miloedd o wirfoddolwyr newydd. Rydym yn cynnal digwyddiad cyffrous ym Mharc Olympaidd Queen Elizabeth i ofyn i wirfoddolwyr Llundain 2012 i fynd allan yn eu cymunedau a gwneud gwahaniaeth yn ogystal â gweithio gyda chlybiau lleol ar draws y DU. Yn gweithio gyda'r 'Games Makers', Llysgenhadon y Ddinas ac eraill, mae Join In yn helpu i newid tirwedd wirfoddoli'r DU er mwyn cyflwyno etifeddiaeth ragorol yn sgil y Gemau.”

Bydd ymgyrch Pedal On UK Sustrans yn derbyn nawdd o £360,000. Bydd y digwyddiad beicio, a arweinir gan dîm craidd o wirfoddolwyr, yn teithio ar hyd llawer o'r llwybrau cerdded a beicio newydd ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ymunir ag ef gan enwogion, 'Games Makers', grwpiau cymunedol, ysgolion a gwirfoddolwyr er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r llwybrau newydd hyn a'r buddion y maen nhw'n eu creu ar gyfer cymunedau a'r amgylchedd.

Yn adeiladu ar lwyddiannau beicio yn 2012, bydd arwyr megis Bradley Wiggins a Victoria Pendleton yn fodelau rôl ysbrydoliaethus. Ymwelir â chymunedau ar draws y DU, gan ddechrau yn Ne Lloegr a gorffen yn Glasgow lle bydd digwyddiadau dathlu a gwyliau'n cael eu cynnal, gan gynyddu ymwybyddiaeth o effaith beicio ar faterion megis gordewdra, cydlyniant cymunedol a mynediad i bawb, yn ogystal ag annog pobl i ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli.

Meddai German Dector-Vega, Cyfarwyddwr Sustrans yn Llundain: “Mae llwyddiant 2012 wedi ysbrydoli pobl ar hyd a lled y wlad i fynd ar eu beiciau a chadw'n actif. Bydd Pedal On UK yn ysbrydoli balchder cymunedol ac yn dangos y gwahaniaeth enfawr y mae cerdded a beicio ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn ei wneud i fywydau pobl. Ar draws y DU gall miliynau o bobl o bob oedran a gallu ddefnyddio'r llwybrau beicio a cherdded hyn bellach i gyrraedd ysgolion, siopau, gwaith a ffrindiau'n hwylus ar feic, ar droed neu mewn cadair olwyn.

Bydd Society Network Foundation yn defnyddio £1m ar gyfer Britain’s Personal Best (BPB), ymgyrch cynnwys y cyhoedd sydd â'r nod o rymuso ac ysbrydoli cymunedau i gyflawni her o'u dewis a rhannu eu stori er mwyn herio ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Gall yr heriau gynnwys unrhyw beth o 'Rwyf am roi'r gorau i ysmygu' i 'Rwyf am wirfoddoli'n fwy'. Bydd BPB yn cefnogi cyfranogwyr yn eu hymdrechion ar-lein lle bydd modd iddynt greu her neu ymuno ag un er mwyn cyflawni camp bersonol, gwirfoddoli neu godi arian at achos lleol. Ym mis Hydref, bydd penwythnos cyfranogiad torfol yn gwahodd trigolion y DU i brofi rhywbeth newydd gyda'u cymuned, wedi'u cefnogi gan 2000 o wirfoddolwyr.

Cadeirydd Society Network Foundation (SNF), Martyn Rose: "Uchelgais Britain's Personal Best's yw efelychu'r egni gymdeithasol a ddangoswyd yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd y llynedd. Yn gweithio gyda channoedd o fudiadau cymdeithas sifil, byddwn yn creu penwythnos blynyddol o gyfranogiad torfol sy'n cysylltu cyflawniad personol â rhyngweithio mewn grŵp, gwirfoddoli a chodi arian elusennol."

Croesawyd y newyddion gan y Farwnes Grey-Thompson, sydd wedi cael ei henwi fel un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012: “Hoffwn weld yr ysbryd rhyfeddol a gafodd ei feithrin gan Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn parhau i gynyddu ar draws y wlad dros y blynyddoedd i ddod. Yn ogystal â helpu i newid canfyddiadau a datblygu dealltwriaeth o anableddau, mae'r Gemau hefyd wedi darparu ysbrydoliaeth.

“Mae'r mentrau sy'n cael eu hariannu heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr yn datblygu dyhead Ymddiriedolaeth ysbryd 2012 i sicrhau etifeddiaeth barhaus.”

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888

Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers mis Mehefin 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £6biliwn.
  • Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
    Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
    Ar 23 Medi cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawr y byddai'n sefydlu ymddiriedolaeth i gyflwyno etifeddiaeth Olympaidd a Pharalympaidd mewn cymunedau ar draws y DU. Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi addo y bydd yr holl arian y mae'n ei dderbyn o werthu'r Pentref Olympaidd, sy'n debygol o fod rhwng £30 a £40 miliwn, yn cael ei ymrwymo i Ymddiriedolaeth Ysbryd 2012. Mae pum Ymddiriedolwr wedi'u penodi hyd yn hyn Dugald Mackie (Cadeirydd), Y Farwnes Sue Campbell, John Gartside, Y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Syr Nicholas Kenyon, Paul Cuttill a Syr Harry Burns.
  • Bydd ymgyrch Pedal On UK Sustrans yn defnyddio'r rhwydwaith beicio Connect 2 a ariannwyd yn rhannol gyda gwerth £50m o Ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. mae map o'r rhwydwaith ar gael yn: Rhwydwaith Beicio Connect 2
  • Bydd Ymddiriedolaeth Join In - The Join In Summer yn cychwyn ar 27 Gorffennaf ac yn parhau tan 9 Medi. Mae mwy na 1,000 o ddigwyddiadau eisoes wedi'u cofrestru. Mae mwy o wybodaeth yn Join In
  • Get Set - Mae'r Sefydliad Olympaidd Prydeinig a'r Gymdeithas Baralympaidd Brydeinig yn dod ynghyd i barhau â chyflwyno rhaglen addysg Llundain 2012, 'Get Set', fel rhan o etifeddiaeth Llundain 2012 a bydd yn parhau fel y rhaglen Olympaidd a Pharalympaidd swyddogol ar gyfer ysgolion ar draws y DU. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Get Set
  • Cynhelir y penwythnos Britain's Personal Best cyntaf rhwng 4 a 6 Hydref 2013 ac fe'i cefnogir gan ystod eang o fudiadau cymdeithas sifil gan gynnwys y Sefydliad Codi Arian, Cymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol, Cymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol Yr Alban, CSV, Groundwork UK, Conffederasiwn y GIG, NAVCA, 21st Century Legacy Trust, v Inspired a'r Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau
  • Dengys ymchwil a gyhoeddwyd gan Legacy Trust UK ar 30 Ebrill 2013:
    • Mae Llundain 2012 wedi ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc hyderus, gysylltiedig a medrus.
    • Credodd 84% fod Llundain 2012 wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r DU
    • Mae 73% o'r rhai a fu'n ymwneud â Llundain 2012 wedi symud ymlaen i gymryd rhan mewn prosiect arall o ganlyniad i'w cyfranogiad.
    • Mae 61% yn cytuno yr oedd Llundain 2012 wedi trawsnewid bywydau pobl ifanc
    • Aeth effaith Llundain 2012 y tu hwnt i chwaraeon i fod yn arddangosfa o ddiwylliant Prydeinig
  • Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.legacytrust.org.uk
  • Mae'r cystadleuwr naid hir Chris Tomlinson yn ddawn mewn athletau ym Mhrydain ers tro. Mae wedi cymhwyso ar gyfer tair gêm Olympaidd trwy gyrraedd Athens yn 2004, Beijing yn 2008 a Llundain yn 2012. Wedi'i ariannu gan y Loteri ers 2001, neidiodd Chris i'r amlwg mewn athletau uwch pan, yn 20 oed yn unig, dorrodd record naid hir Prydain a oedd wedi bodoli ers 34 mlynedd. Daeth yn ddeiliad naid hir Prydain eto yn 2007 ac yn 2011. Mae Chris wedi ennill arian ym Mhencampwriaeth Dan Do y Byd ac efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop 2010.
  • Mae’r rhwyfwr Andrew Triggs Hodge MBE yn Fedalydd Aur dwbl y Gemau Olympaidd ac yn Bencampwr y Byd dwbl. Enillodd ei fedal aur cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Beijing a’i ail yn Llundain 2012 gyda’i gymheiriaid Tom James, Pete Reed ac Alex Gregory. Cystadlodd Andrew Hefyd yn Athens 2004 yn nigwyddiad yr wyth o ddynion, gan orffen yn y 9fed safle. Mae tymor 2013 hefyd wedi gweld Andrew yn ymuno â chymheiriaid 2012 Peter Reed ac Alex Gregory yn y digwyddiad wyth o ddynion yn Sydney ac mae’r newid wedi bod yn fuddiol gan iddynt rasio’n dda ac ennill medal aur yn Nghwpan y Byd Sydney 2013

Tags

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Iechyd a lles
  • Cefnogi Newidiadau Cadarnhaol
  • Adnabod a diwallu angen
  • Cynyddu sgiliau a hyder

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH