Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Seren Bank of Dave yn targedu chwyldro mewn canolfannau swyddi

Area:
DU gyfan
Programme:

Release date:
2 4 2013

Mae Dave Fishwick, y miliynydd bysiau mini a seren Bank of Dave, yn ceisio mynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc trwy ail-lunio canolfannau swyddi fel rhan o gyfres ar Channel 4 a allai weld gwerth £2 miliwn o arian loteri'n cael ei fuddsoddi yn y cynllun.

Mae Dave wedi ymuno â'r elusen ieuenctid The Foyer Federation i dreialu siop swyddi 'wib', a ddylunnir ac a redir gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae'r Foyer Federation wedi dyfeisio prosiect ble, yn lle'r ddi-waith yn mynd i ganolfannau swyddi, mae cyflogwyr yn mynd atyn nhw mewn siopau doniau gwib mewn cymunedau difreintiedig, o arcedau siopa a gorneli strydoedd.

Yr amcan yw ysbrydoli pobl ifanc ddi-waith a sicrhau lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr na fyddent fel arall yn ystyried eu hurio nhw.

Yr hyn nad yw'r bobl ifanc dan sylw yn ei wybod yw eu bod yn cael eu hasesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr ac os ydynt yn llwyddiannus y byddant yn helpu i sicrhau £2 miliwn er mwyn i'r Foyer Federation sefydlu eu prosiect yn Ne Cymru, Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae'r prosiect yn ymddangos yn nhrydedd bennod y gyfres deledu newydd sbon, The Secret Millions a ddarlledir am 8pm ar nos Sul 7 Ebrill. Mae'r gyfres yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn ymuno â Channel 4 i amlygu syniadau radical ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r problemau mawr ym Mhrydain. Mae'r prosiectau'n cael eu hasesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr ac, os ydynt yn llwyddiannus gallant wireddu eu syniadau gyda chyfran o gronfa ariannu werth £10 miliwn The Secret Millions, y swm mwyaf erioed i gael ei ddosbarthu ar gyfres Channel 4.

Roedd Peter Wanless, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr, yn rhan o ffilmio'r asesiad cyfrinachol. Meddai: “Roedd yn wych gweld prosiect ar waith, cyn penderfynu p'un a oedd yn deilwng i dderbyn buddsoddiad pellach ai beidio. Mae mynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc yn bwysig ac yn gymhleth a bu'n rhaid i lawer o bethau ddod ynghyd ar fyrder er mwyn i Foyer Federation wneud eu cynnig yn llwyddiant. Bydd yn rhaid i bobl wylio i gael gwybod sut mae pethau wedi gweithio allan ar gyfer pobl ifanc yn Harlow.'

Meddai Jane Slowey, Prif Weithredwr Foyer Federation: ‘‘Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ymwneud â'r bartneriaeth newydd arloesol hon rhwng y Gronfa Loteri Fawr a Channel 4. Mae'r gyfres wedi rhoi cyfle i ni ddangos sut y gall meddwl pendant ac ymagwedd radical newydd greu sgwrs gwahanol rhwng pobl ifanc a chyflogwyr, sy'n datblygu ac yn hyrwyddo eu doniau ar gyfer y byd gwaith."

Meddai Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen Channel 4, Emma Cooper: “Mae wedi bod yn wych i wylio doniau Channel 4 yn cefnogi'r achosion syfrdanol hyn. Gyda'r hinsawdd ariannol anodd mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl mewn ffyrdd hynod o flaengar. Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan, ac mae'r gyfres hon yn amlygu pa mor bwysig y mae i gefnogi syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus a chynaliadwy.”

Yn ystod y gyfres, bydd pum prosiect yn gweithio gyda thîm brwdfrydig a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4 - Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke. www.channel4.com/secretmillions

Mae'r gyfres 5 x 60m wedi'i chynhyrchu gan RDF Television (un o gwmnïau Zodiak Media) a Twenty Twenty (un o gwmnïau Shed Media). Y cynhyrchwyr gweithredol yw Tayte Simpson (RDF Television) a Meredith Chambers (Twenty Twenty).

Channel 4 ar gyfer The Secret Millions: Cécile Quinney: 020 7306 1095 neu cquinney@channel4.co.uk
Foyer Federation: Joel Attar 020 3116 6931 neu joel@foyer.net
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk

Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/

Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF

Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â'r £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr

Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.

Ynglŷn â'r Gronfa Loteri Fawr

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6bn.
  • Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gronfa Loteri Fawr ofyn i'r cyhoedd helpu i ddylunio a datblygu rhaglen grantiau, o ddewis themâu'r rhaglen i'r mathau o brosiectau a buddiolwyr y maen nhw eisiau iddynt gael eu hariannu.

Ynglŷn â Foyer Federation

Mae Foyer Federation yn fudiad nid er elw sy'n helpu i drawsnewid amgylchiadau ac agor doniau pobl ifanc sydd wedi wynebu rhwystrau yn eu bywydau. Ers 1992, mae wedi gweithio gyda phobl ifanc i greu ymagweddau newydd gan ddatblygu'r sgiliau a'r adnoddau y mae arnynt eu hangen i ffynnu.

Mae ein hymgyrchoedd a mentrau blaengar wedi'u harwain trwy rwydwaith o 120 o ganolfannau dysgu a llety achrededig a elwir yn 'Foyers'. Mae'r Cynteddau hyn yn darparu rhaglenni y cytunir arnynt ar y cyd wedi'u teilwra ar gyfer hyd at 10,000 o bobl ifanc 16-25 oed sy'n eu galluogi i hygyrchu cyfleoedd tai, dysgu, datblygiad personol, hyfforddiant a chyflogaeth.


Tags

Buddiolwyr

  • Heb fod Mewn Addysg Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Cynyddu sgiliau a hyder
  • Adnabod a diwallu angen
ADBORTH