Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Arian mawr i roi gobaith i bobl anabl

Area:
DU gyfan
Programme:

Release date:
6 3 2013

Bydd gan blant anabl yn Ethiopia ac oedolion yn Tanzania ddyfodol mwy disglair diolch i grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £720,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae'r prosiectau ymhlith chwech sy'n derbyn ariannu gan raglen Cymunedau Rhyngwladol y Gronfa Loteri Fawr, sy'n cefnogi prosiectau yn mynd i'r afael ag achosion tlodi ac amddifadedd ynghyd â'r effaith y maen nhw'n ei chael ar fywydau pobl.

Bydd prosiect yn Ethiopia yn derbyn £499,142 i wella cyfleoedd i blant anabl wrth iddynt dyfu i fyny. Bydd Disability and Development Partners yn helpu i feithrin newid diwylliant mewn ysgolion trwy wneud eu rhaglenni hyfforddi'n gwbl gynhwysol i bobl anabl. Bydd adran hyfforddiant addysg anghenion arbennig yn cael ei sefydlu yn y coleg hyfforddi athrawon lleol, ble bydd y gweithgareddau ymysg athrawon yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o anableddau, iaith arwyddion a Braille. Mae'r prosiect yn anelu at gefnogi 5,290 o blant ysgol gynradd anabl, 570 o blant oedran ysgol uwchradd a 300 o oedolion ifanc.

Meddai Swyddog y Prosiect Simon Godziek: "Pan wnaethom siarad â phobl ifanc anabl yn Hawassa yn ne Ethiopia, dywedwyd wrthym pa mor anodd y mae iddynt fynd i'r ysgol ac ennill bywoliaeth. Gwnaethom glywed bod eu diffyg cyfleoedd addysg a'r gwahaniaethu y maen nhw'n ei wynebu bob dydd yn golygu mai ychydig iawn o gyfleoedd sydd ganddynt, neu ddim o gwbl, i ddarparu ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd, gan olygu bod llawer wedi'u condemnio i fywyd o dlodi.

“Gyda'n mudiad partner, Handicap National, yn Ethiopia, penderfynwyd helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc anabl, o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol trwodd i'r byd gwaith. Byddwn yn sefydlu adran addysg anghenion arbennig yn y coleg hyfforddi athrawon lleol er mwyn i bob athro/athrawes newydd wybod sut i ddiwallu anghenion plant anabl yn y dosbarth. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phedair canolfan hyfforddiant sgiliau yn Hawassa, gan roi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth iddynt fedru cynnwys pobl anabl ifanc yn eu rhaglenni. Ac yna byddwn yn sefydlu rhai o'r bobl ifanc anabl yn eu busnesau bach eu hunain.

"Y canlyniad fydd cyfleoedd gwell - y cyfle i blant ac oedolion ifanc anabl fynd i'r ysgol i gael eu hyfforddi mewn crefft, dianc rhag tlodi a byw bywydau mwy cyflawn.

Yn y cyfamser bydd pobl anabl yn rhanbarth Lake Victoria, Tanzania, yn elwa o grant gwerth £223,807 i'w helpu i ennill sgiliau a chyflogaeth. Bydd Disability Aid Abroad yn hyfforddi pobl ag anableddau ac yn darparu hyfforddiant am ddim i gyflogwyr, i'w helpu i ddechrau yn y farchnad lafur fel gweithwyr hunangyflogedig. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwnïo, weldio, prosesu bwyd a sgiliau busnes. Bydd y buddiolwyr yn derbyn hyfforddiant ar sut i reoli cydweithfeydd a gwybodaeth am hawliau cyflogaeth.

Meddai Peter Ainsworth, Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr: “Mae pobl anabl yn y DU yn wynebu llawer o heriau o'r math sydd deng waith yn waeth mewn rhannau o'r byd sy'n datblygu. Gall pobl anabl wynebu rhwystrau enfawr i gyflogaeth gan arwain at sbiral gynyddol o dlodi y mae ychydig iawn o obaith o ddianc ohoni. Felly rydym yn falch iawn o fod yn ariannu prosiectau a fydd yn helpu i dorri'r cylch hwn a darparu addysg a hyfforddiant hygyrch i bobl anabl yn Ethiopia a Tanzania er mwyn iddynt gael dyfodol mwy disglair.

"Rydym hefyd yn falch iawn o fedru ariannu prosiectau a fydd yn darparu mynediad i ddŵr diogel, amddiffyn hawliau plant bregus ac ymdrin ag effaith newid yn yr hinsawdd ar dir amaethyddol."

Ymysg y prosiectau eraill sy'n derbyn ariannu mae'r canlynol:

 Ymgeisydd  Lleoliad buddiolwyr Dyfarniad  Nod 
 Everychild  Cambodia   £500,000  Diogelu hawliau cyfreithiol plant bregus
 International Tree Foundation   Mali  £480,702  Adfer coed i atal prinder
 WaterAid  Mali  £441,141  Gwella mynediad i ddŵr diogel
 Village Aid  Gogledd-orllewin Cameroon  £468,407  Gwella cysylltiadau rhwng heusorion gwartheg a ffermwyr cnydau

Yn lansio heddiw hefyd yw adroddiad Cymrawd Clore 2012, Bally Sappal, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r Gronfa Loteri Fawr ar fewnwelediad a ddaw o gydweithio ar draws sectorau yn y cylch rhyngwladol, gan ymchwilio i'r ffyrdd gorau i arianwyr helpu i hwyluso cydweithio rhwng sectorau yn y dyfodol. Bydd y canfyddiadau'n cael eu lansio mewn digwyddiad y Guardian, ble deuir â'r sectorau gwahanol ynghyd i ystyried rhai o'r rhwystrau a sut y gall arianwyr a chyrff mantell gynnig atebion.

Meddai Bally Sappal: "Mae'r ymchwil yr wyf wedi'i gwneud yn canolbwyntio ar sut y gall arianwyr weithio ar y cyd â'r sector preifat ac elusennau. Cynhaliwyd chwech ar hugan o gyfweliadau yn y DU, India ac UDA gyda cwmnïau amlwladol, arianwyr, elusennau ac arbenigwyr gan gynnwys Unilever, Fujitsu, Oxfam, Comic Relief a Chymorth Cristnogol. Mae'r ymchwil yn darparu fframwaith ar gyfer cydweithio llwyddiannus ac yn gwneud argymhellion ar sut y gall arianwyr gynyddu effaith yn rhyngwladol i gynorthwyo gweithio ar draws sectorau."

Meddai David Brindle, Golygydd Gwasanaethau Cyhoeddus y Guardian: "Dyma gyfraniad pwysig ac amserol at y drafodaeth gynyddol am sut mae angen i arianwyr mewn datblygu rhyngwladol weithio gyda'r sector preifat i fanteisio ar ei newid mewn ymagwedd o ddyngarwch i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol llawer mwy strategol.

"Mae syniadau ymarferol yma ar gyfer cydweithio a allai wneud gwir wahaniaeth i fywydau rhai o bobl dlotaf y byd.

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers mis Mehefin 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £6biliwn.
  • Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.


Tags

Buddiolwyr

  • Pobl ag Anableddau

Themâu

  • Ariannu rhyngwladol
ADBORTH