- Area:
- DU gyfan
- Programme:
- Release date:
- 7 3 2013
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi ymuno â Channel 4 ar gyfer cyfres deledu sy'n rhoi cyfle gwerth miliynau o bunnoedd i fynd i'r afael â rhai o broblemau cymdeithasol mwyaf Prydain.
Yn dod gan gynhyrchwyr Secret Millionaire, bydd y gyfres ddogfen pum rhan yn dilyn pum person enwog o Channel 4 wrth iddynt gydweithio ag elusennau sy'n datblygu prosiectau newydd wrth iddynt geisio'n gyfrinachol i sicrhau gwerth £2 miliwn o arian Loteri a allai droi'r syniad mawr yn realiti. Gallai'r syniadau £2 miliwn hyn drawsnewid bywydau pobl - ac os ydynt yn llwyddiannus, bydd yr enwogion yn datgelu'r miliynau cudd mewn digwyddiadau syrpréis cyffrous ac emosiynol.
Mae Secret Millions, sy'n dechrau ar ddydd Sul 17 Mawrth am 8pm, yn adeiladu ar etifeddiaeth Secret Millionaire ac yn mynd â'r fformat i lefel newydd - gan weithio gyda thîm brwd a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4. Bydd Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke yn helpu ystod o elusennau i ddatblygu prosiectau arloesol a blaengar a allai gael effeithiau pendant a chadarnhaol ar y rhai sydd mewn angen.
Bob wythnos, bydd Secret Millions yn dilyn person enwog sy'n gweithio gydag elusen i roi cynnig ar syniad uchelgeisiol sy'n delio â phroblemau cymdeithasol mawr. Nid oes gan y bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw unrhyw syniad bod y Gronfa Loteri Fawr yn asesu'r prosiect yn drwyadl yn y cefndir, ac mae enwogion Channel 4 yn galw ar eu profiad, sgiliau a chysylltiau personol i helpu i ddarbwyllo'r Gronfa Loteri Fawr i ddyfarnu miliynau o bunnoedd iddynt i droi'r prosiect yn realiti.
Yn cymryd rhan ar y rheng flaen, bydd yr enwogion yn profi o lygad y ffynnon y problemau y mae'r gweithwyr llawr gwlad a'r buddiolwyr y mae angen cymorth arnynt yn eu hwynebu. Bydd y prosiectau'n amrywio o weithio ar gyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc ddifreintiedig i helpu teuluoedd gyda phlant anabl, ac arloesi gyda thai cymdeithasol.
Meddai Peter Wanless, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr: ‘Mae Secret Millions yn un o'r prosiectau mwyaf cyffrous rydym erioed wedi ymwneud ag ef. Yn cynnig mynediad posib i symiau sylweddol o'n harian achosion da fel rhan o ddosbarthiad teledu mwyaf Channel 4 erioed, mae gwybod am y gwahaniaeth enfawr y gallai ei wneud ar faterion a flaenoriaethwyd gan y cyhoedd wedi bod yn brofiad rhagorol.
'Mae ymdrechion staff elusennau, gwirfoddolwyr a phawb sy'n cymryd rhan yn profi bod yr ysbryd anhunanol o helpu eraill yn fyw ac yn iach. Mewn cyfnod anodd, mae'r gwaith a wneir gan yr elusennau hyn yn bwysicach nag erioed, a gobeithiaf y bydd profiad Secret Millions yn arwain at ymwybyddiaeth gyhoeddus gynyddol o'r fath achosion da a'r cyfleoedd sy'n bodoli i bawb gymryd rhan.'
I gael mwy o fanylion ewch i wefan Channel 4
Nodiadau i Olygyddion:
Ynghylch y £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr
Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6 biliwn.
- Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales
Tags