Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Y Gronfa Loteri Fawr yn cyhoeddi £7 miliwn er mwyn i fwy o bobl ifanc gael 'somewhereto_'

Area:
DU gyfan
Release date:
7 12 2012

Mae prosiect sy'n cynnig lle am ddim ac wedi'i danddefnyddio i bobl ifanc ar gyfer eu doniau creadigol, chwaraeon a diwylliannol wedi cael buddsoddiad o £7 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr i gefnogi ehangiad somewhereto_ dros y pedair blynedd nesaf.

Gyda miloedd o storïau o lwyddiant a channoedd o leoedd na fyddent erioed wedi cael eu hygyrchu, hyd yma mae'r prosiect wedi datgloi 335,500 o droedfeddi sgwâr o le gwag neu wedi'i danddefnyddio ar draws y DU, cyfwerth â £2 filiwn mewn rhent.

Gyda'r dasg wreiddiol o ysbrydoli cenhedlaeth i greu cysylltiad gyda'r Gemau Olympaidd, ariannwyd somewhereto_ gan Legacy Trust UK, elusen annibynnol sydd wedi'i sefydlu i greu etifeddiaeth ddiwylliannol a chwaraeon parhaus yn sgil Llundain 2012 mewn cymunedau ar draws y DU.

Bydd yr ariannu'n mynd tuag at ehangu cwmpas daearyddol somewhereto_, gan agor mwy o leoedd ar draws y wlad, a chan anelu at ymgysylltu â 180,000 o bobl ifanc ar draws cylch bywyd yr ariannu a chan gyflwyno llwybr i ardystiad er mwyn cydnabod y sgiliau gwerthfawr a gaffaelwyd trwy gyfranogiad.

Bydd yr ariannu'n rhoi cyfle i somewhereto_ estyn allan ac ymgysylltu â phobl NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) a chynnig y gefnogaeth y mae ei hangen i drawsnewid eu profiad o somewhereto_ i lwybr i gyflogaeth, hyfforddiant neu addysg bellach. Bydd somewhereto_ hefyd yn cydnabod unigolion ifanc mentrus yn croesawu'r cyfle newid bywydau y mae mynediad i ofodau yn ei roi iddynt wrth wireddu eu huchelgais. Byddwn yn cefnogi'r egin entrepreneuriaid hyn gyda mentor mentrus a fydd yn darparu cefnogaeth ymgynghorol ac yn eu cyfeirio i hygyrchu hyfforddiant a chyngor arbenigol ar fenter, er mwyn iddynt barhau â'u taith o wireddu eu huchelgais. Defnyddir yr ariannu hefyd i recriwtio cydlynwyr rhanbarthol ym mhob cwr o'r DU i sicrhau cyflwyniad effeithiol y prosiect ar lefel genedlaethol.

Meddai Rajay Naik, Aelod o Fwrdd y Gronfa Loteri Fawr: “Bydd y grant heddiw yn parhau â hanes ac ymrwymiad hir y Gronfa Loteri Fawr o fuddsoddi mewn pobl ifanc. Heddiw yn fwy nag erioed, mae'n hollbwysig bod gan bobl ifanc fynediad i le ac adnoddau am ddim sy'n rhoi hwb i greadigrwydd ac entrepreneuriaeth. Yn wir, gall trawsnewid eu bywydau ac o ganlyniad i hynny, cryfhau ein cenedl. Mae gan Livity hanes nodedig o ymgysylltu'n effeithiol â phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth drawsnewid cyfleoedd bywyd cannoedd ar filoedd o bobl ifanc ledled y DU."

Meddai Sam Conniff, Cyfarwyddwr y prosiect somewhereto_: Mae'n bleser ac yn fraint gennym fod y Gronfa Loteri Fawr wedi rhoi cefnogaeth i somewhereto_ ar ffurf y buddsoddiad rhyfeddol hwn; nid yn unig o ran ariannu ond trwy rannu'r weledigaeth hefyd. Mae gennym bartner sy'n cydnabod buddion ehangach somewhereto_ fel cefnogwyr rhwymedigaeth, menter a breuddwyd, a thrwy rwydwaith o ddeiliaid gofodau agored eu meddwl, gwireddu'r freuddwyd honno."

Meddai Moira Swinbank, Prif Weithredwr Legacy Trust UK: “Rydym wrth ein boddau â llwyddiant somewhereto_ o dan gyfarwyddyd Livity ers i ni ddyfarnu'r contract i'r asiantaeth yn 2010. Ein cenhadaeth trwy'r amser yw creu etifeddiaeth barhaus yn sgil Llundain 2012, ac mae'r newyddion bod y Gronfa Loteri Fawr wedi cydnabod gwerth enfawr y prosiect, ac camu i'r adwy i gefnogi somewhereto_ pan ddaw ein hariannu i ben, yn etifeddiaeth ynddi'i hun, yn ogystal â darparu llawer mwy o gyfleoedd gwych i bobl ifanc ar draws y DU tan o leiaf 2016."

Cyhoeddir y newyddion yn swyddogol ar 6 Rhagfyr mewn digwyddiad yn Llysgenhadaeth Brasil i ddathlu'r ymgyrch haf ddiweddar, somewhereto_show off'. Trwy'r ymgyrch roedd cyfle i un band o ddoniau ifanc lwcus fynd i Rio de Janeiro, Brasil, hafan y Gemau Olympaidd nesaf, i ffilmio eu ffilm hyrwyddo eu hunain gyda'r enillydd gwobr BAFTA, Adam Deacon, ac fe gaiff ei dangos yn y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cyhoeddi partneriaeth sydd ar ddod gyda YouTube trwy sianel somewhereto_ YouTube yn: http://www.youtube.com/somewheretochannel. Bydd YouTube yn cefnogi somewhereto_ wrth siarad â phobl ifanc ledled y DU, ac ar yr un pryd yn creu cyswllt cryfach gyda phobl ifanc a lleoedd ym Mrasil.

Cyflwynir somewhereto_ gan yr asiantaeth ymgysylltu ieuenctid, Livity.

Mwy o Wybodaeth
Manylion cyswllt:
Nuala Ginty 
nuala@livity.co.uk / 020 7326 5979

Nodiadau i Olygyddion
Y Gronfa Loteri Fawr (www.cronfaloterifawr.org.uk)
Mae'r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da, wedi bod yn dosbarthu grantiau i feysydd addysg a'r amgylchedd ac achosion elusennol ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004. Fe'i sefydlwyd gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.

Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Y tu allan i oriau: 07867 500 572
Llinell Ymholiadau Cyhoeddus: 08454 102030
Ffôn testun: 08456 021 659

Legacy Trust UK (www.legacytrustuk.org)
Mae Legacy Trust UK yn elusen annibynnol sydd wedi'i sefydlu i greu etifeddiaeth ddiwylliannol a chwaraeon parhaus yn sgil Llundain 2012 mewn cymunedau ar draws y DU. Ariannwyd yr Ymddiriedolaeth gan waddol o £40 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr (£29m), yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (£6m) a Chyngor Celfyddydau Lloegr (£5m), a bu'n brif ariannwr yr Olympiad Diwylliannol a Gŵyl 2012 Llundain.

Livity (www.livity.co.uk)
Mae Livity yn asiantaeth ymgysylltu ieuenctid sydd wedi ennill llu o wobrau, y mae'n mentora pobl ifanc o bob math o gefndir i greu ymgyrchoedd, cynnwys a chymunedau ar y cyd ar gyfer brandiau, y llywodraeth, elusennau a darlledwyr. Mae gwaith i gleientiaid megis Google, yr Adran Iechyd a Penguin yn elwa o fewnwelediadau, egni a lleisiau go iawn pobl ifanc, ac mae'r bobl ifanc yn derbyn hyfforddiant, profiad a chefnogaeth i ymwneud â cyflogaeth ac addysg.


Tags

Math o fudiad

  • Mudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • Mudiad sector preifat

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Cynyddu sgiliau a hyder
ADBORTH