Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

Katie Piper yn helpu cyn-droseddwyr i ailsefydlu

Area:
DU gyfan
Programme:

Release date:
9 4 2013

Mae'r cyflwynydd teledu cyfareddol a dioddefwr ymosodiad asid, Katie Piper, yn cymodi ei hemosiynau personol am drosedd a chosb wrth iddi helpu carcharorion i ailsefydlu yn y bennod Secret Millions nesaf ar nos Sul.

Bydd gwylwyr Channel 4 yn darganfod treialon a thrallod wrth i Katie weithio gydag Acumen i geisio sefydlu busnes gwaith saer yn darparu swyddi i gyn-droseddwyr sy'n ei chael hi'n anodd ddod o hyd i waith, tra'n cael eu hasesu'n gyfrinachol ar gyfer grant gwerth £2 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr.

Mae'r prosiect yn ymddangos yn bedwaredd bennod y gyfres deledu newydd sbon, The Secret Millions a ddarlledir am 8pm ar nos Sul 14 Ebrill. Mae'r gyfres yn gweld y Gronfa Loteri Fawr yn ymuno â Channel 4 i amlygu syniadau radical ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r problemau mawr ym Mhrydain. Mae'r prosiectau'n cael eu hasesu'n gyfrinachol gan y Gronfa Loteri Fawr ac, os ydynt yn llwyddiannus gallant wireddu eu syniadau gyda chyfran o gronfa ariannu werth £10 miliwn The Secret Millions, y swm mwyaf erioed i gael ei ddosbarthu ar gyfres Channel 4.

Gyda naw deg y cant o garcharorion ar ddedfryd fer yn droseddwyr lluosog, mae Acumen yn credu bod ganddynt syniad i leihau'r risg hon: trwy ehangu eu gweithdy gwaith saer yng ngharchar Dyrham i gynnig swyddi cynhyrchu a marchnata dodrefn foethus o ganolfan gymunedol leol.

Mae Katie yn cwrdd â nifer o unigolion sy'n ceisio datrys eu problemau ac sy'n siarad yn agored am ba mor anodd y mae bywyd ar ôl y carchar a pha mor hawdd y mae i ddychwelyd i fywyd o droseddu pan fydd lefelau hyder yn isel ac mae cofnod troseddol yn annog cyflogwyr rhag eich cyflogi chi.

Meddai Peter Wanless, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr, a gymerodd ran yn y broses ffilmio: "Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn cydnabod yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth roi eu bywydau yn ôl at ei gilydd ar ôl treulio amser yn y carchar. Mae gan y Gronfa Loteri Fawr hanes o ariannu prosiectau sy'n gweithio i ailsefydlu carcharorion gan y gall fod yn anodd iddynt wynebu heriau personol yn ogystal â rhagfarn heb gefnogaeth ofalus, ni waeth pa mor benderfynol y maent o drawsnewid eu bywydau. Mae ffilm Katie yn hynod o ysbrydoliaethus wrth iddi wynebu ei phrofiadau personol ei hun wrth ystyried yr hyn y gellid ei wneud i helpu cyn-droseddwyr. Bydd y gwylwyr yn cael cipolwg da o ba mor anodd y gall fod i roi cyfle go iawn i bobl ddychwelyd i'r trywydd iawn."

Meddai Kate Welch, Prif Weithredwr, Acumen: “Rwyf wrth fy modd bod y syniad rydym wedi bod yn ei ddatblygu gyda Charchar Dyrham a Meadow Well Connected wedi cael ei gefnogi gan y Gronfa Loteri Fawr a Channel 4. Mae rhedeg menter gymdeithasol brawf wedi rhoi cyfle i ni roi cynnig ar gynhyrchu o ddifrif a dysgu sut i'w droi'n fusnes cynaliadwy a fydd yn newid cymunedau trwy leihau aildroseddu a helpu pobl i drawsnewid eu bywydau."

Meddai

Meddai Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen Channel 4, Emma Cooper: “Mae wedi bod yn wych i wylio doniau Channel 4 yn cefnogi'r achosion syfrdanol hyn. Gyda'r hinsawdd ariannol anodd mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl mewn ffyrdd hynod o flaengar. Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan, ac mae'r gyfres hon yn amlygu pa mor bwysig y mae i gefnogi syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus a chynaliadwy.”

Yn ystod y gyfres, bydd pum prosiect yn gweithio gyda thîm brwdfrydig a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4 - Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke. www.channel4.com/secretmillions

Mae'r gyfres 5 x 60m wedi'i chynhyrchu gan RDF Television (un o gwmnïau Zodiak Media) a Twenty Twenty (un o gwmnïau Shed Media). Y cynhyrchwyr gweithredol yw Tayte Simpson (RDF Television) a Meredith Chambers (Twenty Twenty).

Channel 4 ar gyfer The Secret Millions: Cécile Quinney: 020 7306 1095 neu cquinney@channel4.co.uk
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter:  www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF 
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales
 
Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â'r £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr

Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.

Ynglŷn â'r Gronfa Loteri Fawr

  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
  • Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6bn.
  • Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
  • Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da.  O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gronfa Loteri Fawr ofyn i'r cyhoedd helpu i ddylunio a datblygu rhaglen grantiau, o ddewis themâu'r rhaglen i'r mathau o brosiectau a buddiolwyr y maen nhw eisiau iddynt gael eu hariannu.

Tags

Buddiolwyr

  • Troseddwyr Carcharorion a Chyn-droseddwyr

Themâu

  • Adnabod a diwallu angen
  • Cefnogi Newidiadau Cadarnhaol
ADBORTH