Quick menu:

  • Cymorth a Chefnogaeth

London Youth, sêr 'The Secret Millions' ar Channel 4

Area:
Llundain
Programme:

Release date:
13 3 2013

Dyddiad darlledu: The Secret Millions, 8pm ar Channel 4

Bydd London Youth yn wên i gyd ar nos Sul (17 Mawrth 2013, C4, 8pm) wrth i'r genedl ddarganfod brwdfrydedd a gwaith caled pobl ifanc ddifreintiedig wrth ddysgu sgiliau newydd wrth helpu i adnewyddu eiddo diffaith ar gyfer tai cymdeithasol. Ond heb wybod amdano, maen nhw hefyd yn cystadlu am hyd at werth £2 miliwn o arian Loteri os bydd y prosiect yn llwyddo.

Y prosiect, sy'n cael ei gefnogi gan Restoration Man, George Clarke, yw'r cyntaf i ymddangos ar y gyfres deledu newydd sbon, The Secret Millions, sy'n gweld y Gronfa Loteri Fawr yn ymuno â Channel 4 i gefnogi syniadau radical ar gyfer mynd i'r afael â rhai o broblemau mawr Prydain.

Mae'r gyfres ddogfen pum rhan yn dilyn pum o bersonoliaethau Channel 4 wrth iddynt weithio gydag elusennau ar y rheng flaen i ddatblygu prosiectau newydd, tra'n ceisio helpu i sicrhau hyd at £2 miliwn o arian gan y Gronfa Loteri fawr i droi eu syniadau newydd yn realiti.

Yn 2011, ymunodd Channel 4 â'r Gronfa Loteri Fawr i ofyn i'r genedl benderfynu pa bump o themâu oedd eu blaenoriaethau ariannu yn yr hinsawdd ariannol gyfredol. Defnyddiwyd y canlyniadau gan y Gronfa Loteri Fawr i benderfynu pa bump o brosiectau cyffrous ac arloesol ar draws y DU a allai gael cyfran o hyd at werth £10 miliwn o arian Loteri - y swm mwyaf erioed a ddosbarthwyd ar un o gyfresi Channel 4.

Dilynwyd London Youth gan Channel 4, gan gredu eu bod yn cael eu ffilmio fel rhan o raglen ddogfen i ddangos o lygad y ffynnon y problemau y mae gweithwyr llawr gwlad a'r buddiolwyr y mae angen cefnogaeth arnynt yn eu hwynebu, tra'n cael eu cefnogi gan George Clarke a helpodd i sefydlu treial o brosiect arloesol a luniwyd gan yr elusen. Mewn realiti, roedd i gyd yn rhan o gais cyfrinachol i ennill gwerth miliynau o bunnoedd o arian Loteri. Dilynodd camerâu y gwaith caled, y straen emosiynol a'r adegau gwobrwyol wrth i'r elusennau, buddiolwyr a George Clarke ddysgu i gydweithio i ddarparu cefnogaeth, dyfodol gwell neu ail gyfle ar gyfer y rhai mwyaf anghenus.

Gweithiodd George Clarke gyda London Youth a oedd wedi creu'r syniad blaengar i ddod â chrefftwyr wedi ymddeol a phobl ifanc ynghyd i adnewyddu tai cymdeithasol adfeiliedig, er mwyn iddynt fod ar gael i bobl ar y rhestr aros am dai. Yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau a fydd yn helpu pobl ifanc i ddod o hyd i swyddi, mae'r syniad blaengar hwn hefyd yn gweithio i oresgyn y bylchau rhwng y cenedlaethau ac yn darparu tair ar gyfer pobl anghenus hefyd.

Mae George yn dechrau ei daith fel gwirfoddolwr mewn un o'r Canolfannau Ieuenctid Knights ond er mwyn cadw'r treial yn ddilys, nid oedd modd iddo ddweud wrth unrhyw un am arian Loteri posib. Gyda London Youth, fe helpodd i ddod o hyd i bobl ifanc sy'n fodlon mynd yn brentisiaid a dechrau gwaith ar eiddo adfeiliedig ym Mwrdeistref Lambeth, Llundain. Dim ond deng niwrnod yr oedd ganddynt i adnewyddu llawr gwaelod y tŷ ac ysbrydoli'r bobl ifanc wrth iddynt ymdrin â'u problemau personol eu hunain o gangiau treisgar a chofnodion troseddol.

Datgelir cenhadaeth gyfrinachol George gyda'r Gronfa Loteri Fawr i'r bobl ifanc mewn sgwrs y maent yn disgwyl y bydd yn ymwneud â phensaernïaeth yn Nhwr Millbank, lle mae'n cyhoeddi'r hyn sydd wedi bod yn digwydd mewn gwirionedd.

Mae Rachel Penfold, 18 oed, newydd orffen gweithio ar raglen beilot rhannu sgiliau adeiladu London Youth. Meddai: “Tan y llynedd doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud, rhois i gynnig ar rai cyrsiau a swyddi trin gwallt ond ni wnes i orffen nhw. Pan ddywedais wrth fy ngweithwyr ieuenctid fy mod wedi dechrau ar gwrs adeiladu yr oeddwn wedi'i hoffi'n fawr, gwnaethant fy argymell ar gyfer prosiect peilot London Youth. Teimlais yn fwy cyffrous amdano gan yr oedd yn gwneud fy mreuddwyd o fod yn weithiwr adeiladu benywaidd yn llawer mwy real.

“Ein prif orchwyl oedd gweithio ar safle mewn tŷ yn Brixton gyda George Clarke, y cyflwynydd teledu a phensaer. Mae minnau a'r lleill wedi dysgu sut gymaint am grefftau gwahanol megis gwaith plwmio, gwaith saer, paentio ac addurno, plastro a gwaith trydanol. Rhoddodd y prosiect peilot yr hyder i mi wneud pethau gwell, ac o ganlyniad i hynny Mae'n un o wledydd tlotaf Affrica gyda rhai o'r cyfraddau HIV ac AIDS uchaf. Rwy'n mynd gydag elusen o'r enw Positive Women. Bydd y tîm Tools4Life y byddaf yn rhan ohono'n helpu deg o fenywod Swasi i ddysgu sgiliau gwaith saer newydd y gallant eu trosglwyddo i eraill a'u defnyddio i ennill bywoliaeth.”

Meddai Rosie Ferguson, Prif Weithredwr London Youth: "Rydym wrth ein boddau â chael cyfle i gymryd rhan yn y gyfres newydd hon. Mae pobl ifanc eisiau cyfleoedd i ennill sgiliau newydd o ddifrif, ac roedd y cyfle i weithio gyda George Clarke a'r tîm o fentoriaid yn brofiad gwych."

Meddai Rajay Naik, Aelod Bwrdd y Gronfa Loteri Fawr, a arsylwodd London Youth ar waith yn gyfrinachol yn ystod y broses ymgeisio am grant: "Roedd cadw fy rôl go iawn ynghudd yn anodd ond roedd i gyd yn werth chweil i weld o lygad y ffynnon gwaith caled a brwdfrydedd y bobl ifanc dan sylw. Roedd hefyd yn wych gweld crefftwyr profiadol yn mentora'r bobl ifanc a rhannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiad. Profodd i fod yn ffordd wirioneddol ysbrydoliaethus o ddod â phobl ynghyd i ddysgu o'i gilydd."

“Rwy'n gobeithio y bydd y profiad Secret Millions yn arwain at ymwybyddiaeth gyhoeddus gynyddol o'r fath achosion da a'r cyfleoedd sy'n bodoli i bawb gymryd rhan.”

Meddai Golygydd Comisiynu Rhaglenni Dogfen Channel 4, Emma Cooper: “Mae wedi bod yn wych i wylio doniau Channel 4 yn cefnogi'r achosion syfrdanol hyn. Gyda'r hinsawdd ariannol anodd mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl mewn ffyrdd hynod o flaengar. Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan, ac mae'r gyfres hon yn amlygu pa mor bwysig y mae i gefnogi syniadau ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus a chynaliadwy.”

Yn ystod y gyfres, bydd pum prosiect yn gweithio gyda thîm brwdfrydig a phrofiadol o arbenigwyr Channel 4 - Gok Wan, Katie Piper, Jimmy Doherty, Dave Fishwick a George Clarke. www.channel4.com/secretmillions

Mae'r gyfres 5 x 60m wedi'i chynhyrchu gan RDF Television (un o gwmnïau Zodiak Media) a Twenty Twenty (un o gwmnïau Shed Media). Y cynhyrchwyr gweithredol yw Tayte Simpson (RDF Television) a Meredith Chambers (Twenty Twenty).

Channel 4 ar gyfer The Secret Millions: Cécile Quinney: 020 7306 1095 neu cquinney@channel4.co.uk
London Youth: Shivangee Patel: 020 7549 8800 / 077366 19606 shivangee.patel@londonyouth.org.uk neu Jim Minton 020 7549 8800 neu jim.minton@londonyouth.org.uk
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888
Cyswllt cyfryngau y tu allan i oriau: 07867 500 572

Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael ar y wefan: www.cronfaloterifawr.org.uk
Gofyn cwestiwn i'r Gronfa Loteri Fawr yma: http://ask.biglotteryfund.org.uk/cymorth/wales/
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dod o hyd i'r Gronfa ar facebook: www.facebook.com/BigLotteryFundWales

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â'r £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Fawr

Fel rhan o'r Gronfa Loteri Fawr yn darparu'r £10 miliwn, rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn am ba faterion yr oeddent eisiau iddynt gael eu hariannu. Wrth lansio cais am farn yn 2011, gofynnodd Channel 4 a'r Gronfa Loteri Fawr i bobl sut y byddent yn gwario'r £10 miliwn o arian Loteri yn yr hinsawdd bresennol - trwy channel4.com/thebigdecision a thrwy gomisiynu Arolwg Ipsos-Mori o 2000 o bobl ar draws y DU. Helpodd y canlyniadau i'r Gronfa Loteri Fawr adnabod pum elusen a oedd wedi dyfeisio prosiectau cyffrous ac arloesol.

Ynglŷn â Mileniwm Nawr - Y Gronfa Loteri Fawr

Mae'r rhaglen Mileniwm Nawr yn adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad Mileniwm Nawr y Gronfa Loteri Fawr a lansiwyd ym mis Mai 2011 i nodi etifeddiaeth prosiectau'r Mileniwm deng mlynedd ymlaen. Mae'n anelu at ariannu prosiectau ysbrydoliaethus sy'n adlewyrchu pum thema'r Mileniwm:

Annog Cynaladwyedd Amgylcheddol

Buddsoddi mewn Addysg

Lleoedd - mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig ag ardaloedd gwledig, ardaloedd trefol neu arfordirol

Cysylltu Cymunedau

Hyrwyddo Gwyddoniaeth, Technoleg ac Iechyd

Y pum math o brosiect a ddewiswyd gan y Gronfa Loteri Fawr yn dilyn y cais am farn ar draws y genedl ym mis Hydref 2011 trwy channel4.com/thebigdecision a'r arolwg Ipsos-Mori oedd:

Helpu teuluoedd difreintiedig i fod yn iach ac i fyw'n dda.

Helpu cenedlaethau gwahanol i rannu eu sgiliau gyda'i gilydd.

Annog cymunedau i wirfoddoli i ymdrin â materion amgylcheddol.

Dod â phobl ynghyd i fynd i'r afael â phroblemau lleol.

Helpu pobl ifanc ddifreintiedig i ddysgu sgiliau newydd seiliedig ar yrfaoedd.

Ynglŷn â'r Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth yn 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6bn.

Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.

Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gronfa Loteri Fawr ofyn i'r cyhoedd helpu i ddylunio a datblygu rhaglen grantiau, o ddewis themâu'r rhaglen i'r mathau o brosiectau a buddiolwyr y maen nhw eisiau iddynt gael eu hariannu.

Ynglŷn â London Youth

Mae London Youth yn rhwydwaith o 400 mudiad cymunedol sy'n gwasanaethu 75,000 o bobl ifanc a'u teuluoedd mewn cymdogaethau ar draws holl fwrdeistrefi Llundain. Rydym eisiau i bawb sy'n tyfu i fyny yn Llundain ac o'i chwmpas fwynhau mynediad i waith ieuenctid o safon - gweithgareddau strwythuredig a datblygiadol, rhywun i siarad â nhw a grŵp cymheiriaid cadarnhaol - oll o fewn amgylchedd diogel, ysgogol a chefnogol.

Cenhadaeth London Youth yw helpu pobl ifanc i fod y gorau y gallant. Mae ganddo weledigaeth un o fod mewn un o ddinasoedd gorau'r byd lle mae pob person ifanc yn cael ei werthfawrogi a’i herio i wneud hynny, beth bynnag yw eu cefndir.

Gwnawn hyn yn Llundain trwy ystod o raglenni cyfoes sy'n esblygu trwy'r amser, gan ymwneud â gweithredu ieuenctid arweinyddiaeth ieuenctid, datblygiad trwy chwaraeon, cyflogadwyedd, yr amgylchedd, mynd i'r afael â throseddu ieuenctid, hyfforddiant gwaith ieuenctid, Marc Ansawdd London Youth (ein cynllun sicrhau ansawdd sydd wedi'i achredu gan City and Guilds), a'n dwy ganolfan breswyl awyr agored, Woodrow High House a Hindleap Warren, sydd hefyd yn cynnal Activenture, ein hwythnosau antur preswyl ar gyfer pobl ifanc ag anableddau.

Mae manylion llawn gwaith London Youth ar y wefan: www.londonyouth.org



Tags

Math o fudiad

  • Mudiad sector cyhoeddus

Buddiolwyr

  • Pobl Ifanc

Themâu

  • Pobl Ifanc
  • Addysg, Dysgu a Sgiliau
  • Cynyddu sgiliau a hyder

Categori

  • Cynnwys y cyhoedd
ADBORTH