- Area:
- DU gyfan
- Programme:
- Release date:
- 13 3 2013
Mae pobl yn cael eu gofyn i ystyried sut y gallai grant o £50,000 gan y Gronfa Loteri Fawr wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn eu cymunedau wrth i gystadleuaeth ariannu Miliynau'r bobl ar y teledu lansio ar gyfer 2013.
Gallai unrhyw beth o brosiectau ieuenctid ac amgylcheddol i gynlluniau sy'n gwella cyfleoedd cyflogaeth neu helpu pobl mewn angen fod â'r cyfle o gael gafael ar arian y Gronfa Loteri Fawr, cyhyd ag y gall ymgeiswyr ddarbwyllo eu cymuned trwy ddarllediad ar newyddion rhanbarthol ITV bod eu syniad yn deilwng i dderbyn y wobr.
Mae Miliynau'r Bobl yn gystadleuaeth deledu flynyddol a redir gan y Gronfa Loteri Fawr ac ITV sy'n dyfarnu arian Loteri i brosiectau cymunedol a fydd yn gwella bywydau pobl leol. Eleni mae pedwar dyfarniad o hyd at £50,000 ar gael ym mhob un o'r 19 ardal newyddion rhanbarthol ITV ar draws y DU.
Mae'r gystadleuaeth yn agor heddiw (13 Mawrth 2013) ar gyfer ceisiadau gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol; awdurdodau lleol; ysgolion; cyrff iechyd statudol a changhennau mudiadau neu bartneriaethau.
Ym mis Hydref, bydd rhestr fer o'r syniadau gorau'n cael eu dewis. Yna bydd y rhai y tu ôl i'r prosiectau ar y rhestr fer yn cael tua fis i gael eu cymunedau'n cefnogi eu cynigion cyn iddynt gael eu harddangos ar newyddion rhanbarthol ym mis Tachwedd. Bydd y sawl sy'n derbyn y gefnogaeth fwyaf o bleidleisiau trwy bleidlais dros y ffôn yn ennill yr arian i roi eu cynlluniau ar waith.
Mae pecynnau ymgeisio ar gael yn www.peoplesmillions.org.uk a'r terfyn amser ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 12 hanner dydd ar ddydd Llun 13 Mai 2013.
Meddai cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr, Peter Ainsworth: “Mae Miliynau'r Bobl yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn eich ardal, p'un a yw'n ymwneud â mynd i'r afael â phroblem neu fater lleol, neu ymateb i angen am wasanaeth neu gefnogaeth mewn rhan benodol o'ch cymuned. Y cyhoedd fydd yn pleidleisio ar bwy sy'n derbyn yr arian, felly mae angen i'r syniadau ennyn diddordeb y cyhoedd a'u darbwyllo i bleidleisio. Mae'n hwyl rhyfeddol ac yn gyfle gwych i chi roi eich cymuned ar y map a symbylu cefnogaeth ar gyfer rhywbeth rydych yn frwd o'i blaid. Byddwn yn annog pawb sy'n frwd o blaid ble maen nhw'n byw i ystyried sut i wario £50,000 ac anfon eu syniadau atom cyn gynted â phosib!”
Meddai Adam Crozier, Prif Weithredwr ITV: “Mae ITV wrth ei fodd bod Miliynau'r Bobl yn dod yn ôl, gan roi cyfle i grwpiau a chymunedau wella bywydau pobl leol. Eleni, gyda bron £4miliwn ar gael edrychwn ymlaen at weld rhai problemau cyffrous yn datblygu o freuddwyd £miliwn fod yn realiti.”
Eleni mae Miliynau'r Bobl yn cynnig cyfanswm o £3.8 miliwn i 76 o brosiectau ar draws y DU. Mae'r gystadleuaeth wedi dyfarnu dros £27.8 miliwn mewn arian Loteri i 523 o brosiectau ers iddi lansio yn 2005.
Swyddfa Wasg y Gronfa Loteri Fawr: 020 7211 1888 Cyswllt y tu allan i oriau: 07867 500 572
Mae manylion llawn rhaglenni a dyfarniadau grant y Gronfa Loteri Fawr ar gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk
Dilynwch y Gronfa Loteri Fawr ar Twitter: www.twitter.com/LoteriFawrCymru #CLF
Dilynwch Miliynau'r Bobl ar Twitter gan ddefnyddio: #pplsmillions
Dyddiadau Miliynau'r Bobl 2013
- 12 hanner dydd 13 Mai 2013: Terfyn amser ymgeisio
- Rhan olaf Hydref 2013: Cyhoeddi'r rhestr fer
- 25-28 Tachwedd 2013: Wythnos bleidleisio
Nodiadau i Olygyddion
- Mae Miliynau'r Bobl yn fenter y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth ag ITV
- Trwy Miliynau'r Bobl bydd y Gronfa Loteri Fawr yn gwneud 76 dyfarniad o hyd at £50,000 i brosiectau newydd a fydd yn gwella mannau lleol neu fywydau pobl yn y gymuned.
- Mae Miliynau'r Bobl wedi rhoi cyfle i'r cyhoedd bleidleisio dros y prosiectau lleol a ddylai dderbyn arian achosion da'r loteri ers iddo lansio yn 2005.
- Mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol newydd a phresennol, awdurdodau lleol a chyrff iechyd i gyd yn gymwys i ymgeisio.
- Rhifau pleidleisio dros y ffôn - fel blynyddoedd blaenorol, bydd ITV a'r Gronfa Loteri Fawr yn defnyddio rhif cost isel. Nid yw ITV na'r Gronfa Loteri Fawr yn gwneud elw o'r rhifau pleidleisio dros y ffôn.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr mwyaf arian achosion da y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am ddyrannu 40% o'r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol.
- Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i ddod â gwir welliannau i gymunedau a bywydau’r rhai mwyaf anghenus, ac wedi bod yn dosbarthu grantiau ym meysydd iechyd, addysg, yr amgylchedd ac achosion elusennol ar draws y DU. Ers iddi ddod i fodolaeth ym mis Mehefin 2004 mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu bron £6 biliwn.
- Sefydlwyd y Gronfa’n swyddogol gan Senedd y DU ar 1 Rhagfyr 2006.
- Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae 28c o bob punt sy’n cael ei gwario gan y cyhoedd wedi mynd at achosion da. O ganlyniad i hyn mae dros £29 biliwn wedi’i godi a mwy na 383,000 o grantiau wedi’u dyfarnu ar draws meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, elusennau, iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Tags